Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Tonfedd Heddiw: Eiliad ac Einioes

Cyfres Tonfedd Heddiw: Eiliad ac Einioes

Regular price £5.95 GBP
Regular price Sale price £5.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Casgliad cyntaf o gerddi i oedolion gan Casia Wiliam. Mae yma gerddi tyner a gwreiddiol sy'n ymateb i freuder bywyd a threigl amser - o'r gusan flasus sy'n diflannu mewn eiliad i'r teimladau cyfrin hynny sy'n aros efo ni am byth.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Her first volume of poetry for adults by Casia Wiliam, comprising sensitive poems responding to the brittleness of life and the passage of time - from the first sweet kiss that disappears in a second to the mystical feelings that stay with us forever.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781911584377
Gwales Code
gwales.com.9781911584377
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Tonfedd Heddiw: Eiliad ac Einioes
Awdur / Author
Wiliam, Casia
Current Price ex VAT
£5.95
Current Price inc VAT
£5.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2020-07-27
Cyhoeddwr / Publisher
Cyhoeddiadau Barddas
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
56 pages
Size
120 × 170 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Beirdd Unigol (yn Gymraeg) | EN: Individual Poets (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae Casia Wiliam yn wyneb cyfarwydd i blant Cymru wedi ei chyfnod fel Bardd Plant Cymru o 2017 i 2019. Wedi cyfnod yn byw yng Nghaerdydd mae hi bellach wedi ymgartefu 'nôl yn y gogledd gyda’i theulu ifanc.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae popeth am gyfrol farddoniaeth gyntaf Casia Wiliam yn gryno, o faint y llyfr a hyd mwyafrif y cerddi i deitlau’r cerddi hynny. Ond crynoder llawn sylwedd yw ei hanfod. Eiliad ac Einioes yw’r ddiweddaraf i’w chyhoeddi yn y gyfres Tonfedd Heddiw Barddas sydd, dros y blynyddoedd, wedi rhoi llwyfan i leisiau beirdd ifanc â rhywbeth i’w ddweud a’r ddawn i’w ddweud yn gofiadwy. Ond dywed Casia yn ei chyflwyniad i’r cerddi hyn – 35 ohonynt – ei bod wedi cymryd cryn amser iddi hi fagu’r plwc i gyhoeddi ei chasgliad cyntaf, er bod ganddi sylfeini i ymfalchïo ynddynt. Bu’n aelod cynhyrchiol o dîm Y Ffoaduriaid ar Y Talwrn am rai blynyddoedd a hi oedd Bardd Plant Cymru 2017–19. Yn ystod y cyfnod hwnnw dangosodd fod ganddi’r ddawn ddiamheuol i ysbrydoli plant yn ogystal ag i gyffwrdd calonnau o bob oed drwy ei hawen. Clywn awgrym o feirniadaeth nawddoglyd weithiau wrth i ambell un ddefnyddio’r ansoddair ‘domestig’ i ddisgrifio darn o lenyddiaeth. Ond onid wrth ein traed, yn y manion bob dydd, y gwelwn ni fywyd a’i holl gymhlethdodau yn eglurach nag yn unman arall? Mae mwyafrif y cerddi yn y gyfrol hon â’u gwreiddiau yn y tir ffrwythlon hwnnw, fel y gerdd i ‘Nain Fron Olau’ lle mae gwylio dillad yn sychu ar y lein yn dwyn i gof hanes brwydr nain y bardd â dementia, ac yn cynrychioli cyfle i’w hwyres bellach weld patrymau gwreiddiol y dillad fu’n ‘poetsio’i gilydd’ yn ystod y salwch creulon: ‘Blows, yn gwmni ac yn gapel i gyd,/ a choban efo ogla straeon nos da/ yn dal i swatio ynddi.’ Ciplun cynnes o sgwrs rhwng ei gŵr a’u mab hynaf, yn ei ail iaith, a gawn ni yn ‘Pupur Coch’: ‘Mae wedi creu stori sy’n pefrio yn y llygaid teirblwydd’. Nid fod y profiad o fagu plant yn fêl i gyd. Mae'n hen thema, ond mae delweddau Casia yn y gerdd ‘Dileu’ yn ffres ac yn cyfleu’r ymdeimlad o golli hunaniaeth oherwydd gofynion babi ifanc i’r dim: ‘Pan fydda i’n estyn bron yn lle beiro,/ yn gwthio coetsh yn lle reidio beic,/ yn trafod Calpol yn lle straeon nos Sadwrn.’ Ar y llaw arall mae ei hymateb cadarnhaol, er gwaethaf ei blinder, i’r cwestiwn ‘Tisio chwarae efo fi, Mam?’ yn chwerw felys oherwydd ei hymwybod o dreigl amser, tra bod teimlo ei hail blentyn yn cicio yn y groth drannoeth Etholiad Cyffredinol 2019 yn ysbrydoliaeth iddi hithau gicio yn erbyn y tresi gwleidyddol. Portread cynnil o’r hen ddywediad ‘Drwy gicio a brathu mae cariad yn magu’ a gawn yn ‘Brwnt’ lle mae tynerwch yn llenwi’r bylchau rhwng llinellau ‘Llonydd’, toc wedi ffrae rhwng dau, a’i defnydd crefftus o ddelweddau: ‘Rwyt ti’n dangos ffawydden i mi,/ ei mes, ei dail main,/ dy lais yn dawel/ fel yr egwyl rhwng penillion emyn.’ Mae mwy nag un gerdd yn sôn am effaith llesol ymwneud â byd natur, fel ‘Nofio milltir’ a ‘Cae Pawb’, er enghraifft. Yn yr olaf mae’r bardd yn croesawu’r cyfle i ‘drafod y diwrnod/ efo ’nwylo’. Dotiais at y disgrifiad o sŵn y beic wrth iddi deithio i’r rhandir: ‘Y tsiaen yn udo, a’r sŵn newid-gêr-dolur-gwddw/yn rhygnu’. A hithau wedi gweithio i elusennau fel Oxfam yn y gorffennol ac yn gweithio bellach i’r Disaster Emergency Committee (DEC) daw cydymdeimlad y bardd â’r rhai sy’n dioddef amgylchiadau byw dirdynnol mewn sawl rhan o’r byd i’r golwg mewn nifer o’r cerddi eraill. Dyna ‘Daeargryn’, er enghraifft, sy’n cyferbynnu lluniau o drychineb Nepal a wêl ar sgrin deledu mewn ystafell aros ysbyty â’r darlun sgan o’i phlentyn yn y groth yn fuan wedyn: ‘Mae dagrau’n cosi fy nghlustiau/ wrth i’r ddaear grynu.’ Trawiadol hefyd yw’r cyferbyniad rhwng llawnder y Gorllewin a thlodi llwglyd y Trydydd Byd yn ‘Cacen’. Cerdd gomisiwn ar ffurf rhigwm ac yn llais plentyn yw’r ‘Ti’ teimladwy sy’n dathlu pen-blwydd y GIG yn 70 oed. Ac mor addas, o ystyried naws gyffredinol y gyfrol hon, mai ‘Darnau bach, darlun mawr’ yw teitl cerdd gomisiwn arall sy’n dathlu canmlwyddiant sefydlu elusen Achub y Plant. Os bu ‘neuadd fawr rhwng cyfyng furiau’ erioed, yn sicr mae i’w chael yn helaeth rhwng cloriau cryno Eiliad ac Einioes .

View full details