Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Swigod: Hei Now!, Now!
Cyfres Swigod: Hei Now!, Now!
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Wrth i Now feddwl am rywbeth, mae'n digwydd go iawn. Ni all wneud dim i rwystro hyn, sy'n dipyn o niwsans. Yn ôl y Swyddfa Sicrhau Runfathrwydd Cenedlaethol dylai popeth fod yn union yr un peth, a dylid 'dileu' unrhyw beth nad yw'n berffaith, fel siop Bobi Bob Dim. Defnyddia Now ei ddawn i rwystro'r dynion rhag dinistrio'r siop.
Disgrifiad Saesneg / English Description
When Now thinks about something, it actually happens. He can't do anything to stop it, which is a nuisance. The National Office for Identicality say that everything should be exactly the same, and anything unusual like Bobi's Shop for Everything, should be 'erased'. Now uses his gift to prevent the men destroying the shop.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848514560
- Gwales Code
- gwales.com.9781848514560
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Swigod: Hei Now!, Now!
- Awdur / Author
- Llewelyn, Haf
- Current Price ex VAT
- £4.99
- Current Price inc VAT
- £4.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-05-27
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 100 pages
- Size
- 129 × 197 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae Now yn wahanol i bawb arall. Mae o’n edrych yn wahanol, mae ei enw’n anarferol ac ar ben hynny i gyd mae rhywbeth od yn digwydd iddo ar adegau. Mae’r hyn y mae Now’n ei ddychmygu yn dod yn wir. Côt yn llenwi â gwynt nes bod y perchennog yn hedfan i ffwrdd, beiro yn troi’n fochdew a Blewyn Melyn, y ci, yn pi-pi ar sgidiau Mr Huw Hyffi Harris drws nesaf. Does ryfedd bod Now yn cael ei adnabod (yn annheg yn ei dyb e, wrth gwrs) fel 'Now Niwsans'. Ond does bellach ddim lle yn y pentref i unrhyw un nag unrhyw beth sy’n wahanol. Mae Mr Huw Hyffi Harris a’r Swyddfa Sicrhau Safonau Runfathrwydd Cenedlaethol yn benderfynol o gael trefn ar y lle, ac mae hynny’n cynnwys cau Siop Bobi Bob Dim. Sut gall Now atal hyn ac arbed pobl rhag gorfod byw yn ôl rheolau llym y swyddfa? Mae Now’n siarad gyda’r darllenydd yn uniongyrchol ac mae’r llyfr yn llawn hiwmor a direidi bachgen 11 oed. Mae ’na frawddegau bachog a chymeriadau sy’n dod yn fyw mewn ychydig eiriau. Ac mae ymateb Now i ymweliad swyddogion y Swyddfa Sicrhau Safonau â'r ysgol yn odidog o syml a doniol. O dan yr wyneb mae ’na neges ei bod hi’n iawn bod yn wahanol drwy'r llyfr hwn. Dyma stori dda wedi’i hadrodd yn grefftus. ‘Gwych’ fel byddai Now’n dweud.
Share
