Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Rwdlan: 16. 'Sbector Sbectol
Cyfres Rwdlan: 16. 'Sbector Sbectol
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae Rala Rwdins a'r Dewin Doeth wedi cael llond bol ar lanast Rwdlan a'r Dewin Dwl ac yn penderfynu ei dacluso. Ond mae pethau'n mynd ar goll ac mae 'Sbector Sbectol, y ditectif rhyfedd, yn ceisio darganfod pwy yw'r lleidr. Stori hyfryd arall gan Angharad Tomos i blant dan 7 oed.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Rala Rwdins and Dewin Doeth are fed up of Rwdlan and Dewin Dwl's mess and decide to clean it up. But things go missing and Sbector Sbectol, the strange detective, is trying to discover the thief. Another amusing story by Angharad Tomos suitable for children under the age of 7.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781847714145
- Gwales Code
- gwales.com.9781847714145
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Rwdlan: 16. 'Sbector Sbectol
- Awdur / Author
- Tomos, Angharad
- Current Price ex VAT
- £2.95
- Current Price inc VAT
- £2.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-04-27
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 48 pages
- Size
- 153 × 170 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- For babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Angharad Tomos yw un o awduron llyfrau plant fwyaf cynhyrchiol Cymru, a gwelir ei gwaith celf yn ogystal â’i chyfansoddiadau yng Nghyfres Rwdlan. Mae ei chymeriadau lliwgar eisoes wedi’u trosglwyddo yn llwyddiannus i'r llwyfan ac i'r sgrin, ac enillodd Llipryn Llwyd Wobr Tir na n-Og iddi ym 1985. Angharad Tomos hefyd oedd enillydd Tlws Mary Vaughan Jones 2009 am ei chyfraniad sylweddol i lenyddiaeth plant. Mae rhannau o archif Angharad Tomos, 1986 – 1997 nawr i’w gweld mewn arddangosfa arbennig yn y Llyfrgell Genedlaethol, sy’n cynnwys ambell eitem o gasgliad personol yr awdures. Yn eu mysg y mae gonc bach melyn o’r Dewin Dwl ac un du o Ceridwen y wrach, a’i llyfr braslunio pan oedd yn y carchar yn 1980.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
’Sbector yn Datrys Dirgelion yng Ngwlad y Rwla… Bron i ddeng mlynedd ar hugain ers cyhoeddi ei llyfr cyntaf i blant, Rala Rwdins, mae Angharad Tomos yn cyhoeddi llyfr newydd yng Nghyfres Rwdlan o’r enw ’Sbector Sbectol . Mae hi’n ddiwrnod prysur yng Ngwlad y Rwla, gan fod Rala Rwdins a’r Dewin Doeth ill dau wedi cael llond bol o stafelloedd anniben Rwdlan a Dewin Dwl, ac wedi mynd ati i dacluso. Ond yn sydyn, mae pethau’n dechrau mynd ar goll, a rhaid galw ar ’Sbector Sbectol i ddal y lleidr. Pwy fyddai wedi dwyn tebot, tedi a mêl? Rhaid datrys y dirgelwch reit sydyn, oherwydd mae te Ceridwen yn oeri, ac ni all Dewin Dwl gysgu’n iawn heb Tedi Melyn!
Share
