Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Pwsi Beryglus: 1. Dyddiadur Pwsi Beryglus
Cyfres Pwsi Beryglus: 1. Dyddiadur Pwsi Beryglus
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae Elin, druan, yn cael braw pan mae Twffyn yn llusgo aderyn wedi marw i mewn i'r tŷ. Wedyn llygoedn. All Twffyn ddim deall pam mae cymaint o halibalŵ. Beth, tybed, fydd y creadur nesaf i ddod i mewn drwy'r fflap cath? A fydd Elin yn llwyddo i newid natur wyllt ei hannwyl gath cyn i'r bwsi beryglus greu helynt gwaeth o lawer? Addasiad o Diary of a Killer Cat .
Disgrifiad Saesneg / English Description
Poor Elin is horrified when Twffyn drags a dead bird into the house. Then a mouse. But Twffyn can't understand what all the fuss is about. Who on earth will be the next victim to arrive through the cat-flap? Can soft-hearted Elin manage to get her beloved pet to change his wild, wild ways before he ends up in even deeper trouble? An adaptation of Diary of a Killer Cat .
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781849671484
- Gwales Code
- gwales.com.9781849671484
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Pwsi Beryglus: 1. Dyddiadur Pwsi Beryglus
- Awdur / Author
- Fine, Anne
- Current Price ex VAT
- £2.49
- Current Price inc VAT
- £2.49
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2013-02-07
- Cyhoeddwr / Publisher
- Rily
- Translator
- Jones, Gordon
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 64 pages
- Size
- 4 × 198 mm; depth 129 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma gath ddigywilydd os bu un erioed! Ydi, mae Twffyn yn gath a hanner! Mae Elin bron â cholli ei limpyn a chyrraedd pen ei thennyn, ond ai lladdwr gwaed oer allan o reolaeth ydi Twffyn, ynteu a oes ochr feddal i’w gymeriad goeglyd? Yr unig ffordd o ddarganfod hynny yw darllen y dyddiadur. Mae’r dyddiadur hwn yn dilyn un wythnos ym mywyd y gath fwyaf hunangyfiawn yn y byd, o’r bore dydd Llun hwnnw pan mae’n llusgo cwningen i mewn i’r tŷ hyd at uchafbwynt gwallgo’ dydd Sadwrn. Yn ystod y dyddiadur hwn, treiddiwn i feddwl Twffyn ac er bod ganddo agwedd dd-hid at fywyd, does dim modd peidio â’i hoffi wrth iddo wfftio pawb a phopeth a pharhau gyda’i giamocs cyfrwys. Ydi, mae Twffyn yn rêl cath! Yn galon galed, yn anwybyddu sylwadau hurt ei berchennog, yn hollol hunangyfiawn, yn brolio ei fod yn fwni-laddwr o fri – does dim all ei stopio! A ’dan ni’n ysu i wybod os ydi o’n cael ei gosbi am ei lofruddiaethau di-ri – go brin! Does dim all ddod â’r gath hon i stop! Diolch i ddawn dweud arbennig a’r addasiad hynod naturiol i’r Gymraeg, y tro nesaf y gwelwch gath yn llyfu ei phawennau, yn neidio o do eich tŷ i ganol y bin sbwriel, neu’n cysgu’n braf ar eich soffa, does dim dwywaith na fyddwch yn ysu i wybod beth sydd yn mynd trwy’i meddwl go iawn. A diolch i Twffyn am hynny!
Share
