Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Pen Dafad: Baba Hyll
Cyfres Pen Dafad: Baba Hyll
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel arall yng Nghyfres Pen Dafad ar gyfer yr arddegau cynnar. Mae Manon Steffan Ros wedi ennill Gwobr Tir na nOg 2010 ( Trwy'r Tonnau ) a Gwobr y Bobol Llyfr y Flwyddyn 2010 gyda'i nofel gyntaf i oedolion, Fel Aderyn . Mae hefyd wedi cyhoeddi Hunllef yn y gyfres Stori Sydyn.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Another novel in the Pen Dafad series for younger teenagers. Manon Steffan Ros won the Tir na nOg award (for Trwy'r Tonnau ) and the Wales Book of the Year people's prize (for her adult novel Fel Aderyn ), both in 2010. She has also published a novel, Hunllef , in the Stori Sydyn series.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781847714541
- Gwales Code
- gwales.com.9781847714541
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Pen Dafad: Baba Hyll
- Awdur / Author
- Ros, Manon Steffan
- Current Price ex VAT
- £4.99
- Current Price inc VAT
- £4.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2013-02-05
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 96 pages
- Size
- 122 × 185 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 y Cwricwlwm Cenedlaethol a TGAU (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 4 and GCSE (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Rydw i wedi’i ddweud e sawl gwaith ac mi ddywedaf eto – mae Manon Steffan Ros yn un o’n hysgrifenwyr gorau yng Nghymru heddiw. Mae hi’n ysgrifennu'n fywiog ac yn gynnes, ac yn gwneud i chi ysu am gyrraedd ei diwedd er mwyn gweld beth yw clo'r stori. Dyw’r gyfrol hon yn y gyfres Pen Dafad ddim yn eithriad. Dyma gyfres arloesol i bobl ifanc yn eu harddegau sy'n trafod ystod eang o bynciau. Stori yw Baba Hyll am daith Huw yn dychwelyd o dŷ ei ffrind. Roedd ei fam yn llawer rhy brysur i’w nôl a doedd e ddim wedi mynd â’i feic ac felly doedd dim amdani ond cerdded ar hyd y ffordd a arweiniai i fynydd Moel y Ci a chamu i’r goedwig. Fel arfer, fe fyddai adre mewn dim o amser ond wrth iddo gofio am straeon ei fam am Baba Hyll, sef gwrach a drigai yn y goedwig, daeth profiad rhyfedd iawn i’w ran a doedd ’na ddim dianc. Ymhen hir a hwyr roedd Huw yn nhŷ Baba Hyll - ac aeth diwrnodau heibio yn ei feddwl ef beth bynnag - wrth iddo wneud pob math o bethau i Baba Hyll. Fe fu’n gwneud tân, golchi dillad gwely, trwsio’r to a bu’n cysgu yn ei gwely hi hefyd. Mae’r sefyllfa yn un oeraidd a chyfleir yr ofn sydd yn Huw yn aml ond eto mae yna gynhesrwydd yn ymwneud Huw â hi. Er ei ofn cychwynnol mae e’n closio ati a cheir elfen o deyrngarwch rhwng y ddau. Mae yna is-wers yma sef na ddylid derbyn gair pobl eraill bob tro am rywun. Y peth doethaf yw ffurfio barn annibynnol fel y canfu Huw. Dyma stori sy’n hawdd iawn i’w darllen - yn addas ar gyfer plant ysgol uwchradd ond hefyd yn ddigon difyr i oedolion, fel y canfu’r adolygydd hwn! Manon – edrychaf ymlaen at dy waith creadigol nesaf.
Share
