Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Pen Dafad: Asiant A: Her Ll
Cyfres Pen Dafad: Asiant A: Her Ll
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyma ddilyniant i nofel gyntaf Anni am Asiant A, yr ysbïwraig 14 oed, Alys Phillips. Mae Alys yn cael ei gorfodi i gymryd rhan mewn cystadleuaeth sy'n mynd i wthio ei galluoedd i'r eithaf. Trwy ateb y posau, cracio'r codau a chydweithio, a lwyddith hi a'i chyd-gystadleuwyr i ddal y lladron?
Disgrifiad Saesneg / English Description
A sequel to Anni's first novel about Alys Phillips, the 14-year old spy. Alys is forced to take part in a competition that pushes her abilities to the limit. By answering the puzzles, cracking the codes and working together, will she and her co-competitors catch the thieves?
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784617073
- Gwales Code
- gwales.com.9781784617073
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Pen Dafad: Asiant A: Her Ll
- Awdur / Author
- Llŷn, Anni
- Current Price ex VAT
- £4.99
- Current Price inc VAT
- £4.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2019-04-03
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 120 pages
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Anni yn wyneb cyfarwydd ar y teledu fel cyflwynydd ac actores. Bu’n Fardd Plant Cymru am ddwy flynedd ac mae wedi cynnal gweithdai mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Cafodd ei magu ym Mhen Llŷn ac ar ôl cyfnod yng Nghaerdydd mae hi a’i gwr wedi symud yn ôl i’w hardal enedigol i fagu teulu.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae’r unigryw Alys Phillips, yr ysbïwraig ifanc 14 oed, ar antur gyffrous arall yn Her LL , yr ail nofel yng nghyfres Asiant A gan Anni Llŷn. Antur i ddod i’r brig a chystadleuaeth genedlaethol i ddatrys cliwiau a phosau dyrys sy’n wynebu Alys yn y nofel hon, ac yn unol â’i hanian, mae hi ar dân eisiau gwneud ei gorau glas a chael y blaen ar bawb arall. Ond wrth gwrs, dydy pethau ddim mor syml â hynny, ac mae sawl tro trwstan i’r stori wrth i Alys orfod wynebu peryglon a heriau lu. Cawn ein hatgoffa’n syth o’i statws fel Asiant Cudd ym mharagraff cyntaf y nofel, ac o’r eiliad honno, caiff sylw’r darllenydd ei hoelio ar y stori. Wedi crynhoi rhywfaint wedyn ar gyffro’r nofel gyntaf yn y gyfres, gyda chyfeiriadau at wenwyn Miss Glein a’r ddwy ddynes ginio ddrwg, Meri Grefi a Blod Sglods, heb anghofio Mrs Pi a Lleucu, mae’r awdur yn bwrw ati’n awchus ac yn llawn hiwmor i sôn am helyntion diweddaraf Alys, fel Asiant A. Daw Meri Grefi a Blod Sglods i’r amlwg eto yn Her LL , ond y nhw yw'r rhif 88 yn y dasg gudd ‘Bingo’ y tro hwn – ie, dyna chi, y ddwy ddynes dew! Ond mae Asiant A a Lleucu’n fwy na pharod amdanyn nhw y tro hwn, a’r ddwy’n cael eu rhoi yn y ddalfa mewn dim o dro, er mawr siom i Mrs Pi a Mam Alys. Mae’n amlwg fod rhyw gamddealltwriaeth wedi bod, ond dydy hynny ddim yn ddigon i rwystro Asiant A rhag cael ei dewis gan Mrs Pi i gyflawni tasg gudd bersonol, ar ei phen ei hun. Hynny wedyn yw sail gweddill y nofel, wrth i Alys fynd ati i geisio ennill cystadleuaeth Her Ll er mwyn ceisio datrys y dirgelwch ynglŷn ag asiantaeth ysbïo arall sy’n bygwth tanseilio’u gwaith pwysig. A dyna ddechrau ar y cyffro a’r gwaith ysbïo go iawn, wrth i Alys fynd i’r afael ag un dasg ar ôl y llall er mwyn ceisio cyrraedd y brig a chanfod atebion i’r her. Ac mae yma ddigon o heriau, a pheryglon di-ri i’n cadw ar ymyl ein seddau trwy gydol y stori. Byd cyffredin, anghyffredin yw byd Asiant A, a hyn sy’n golygu y gall darllenwyr uniaethu’n ddigon hawdd â hi, er gwaetha’r holl signalau cudd, teclynnau anhygoel a’r pwerau eithriadol sydd ganddi. Unwaith eto yn y nofel hon, mae ysgrifennu Anni Llŷn yn hynod grefftus a gafaelgar, a’i dawn dweud yn llifo’n naturiol ac yn rhwydd. Mae cyfoesedd hynod yn perthyn i’w hiaith a’i chyfeiriadaeth sy’n sicr o apelio’n fawr iawn at ddarllenwyr ifanc. Mewn oes lle mae hi mor anodd i ddenu pobl ifanc i ddarllen yn sgil yr holl bethau lliwgar eraill sy’n mynd â’u sylw, dyma nofel i danio’r dychymyg a hybu’r syniad fod unrhyw beth yn bosib – wir!
Share
