Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Nabod: 1. Gwyrdd fy Myd
Cyfres Nabod: 1. Gwyrdd fy Myd
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Hanes y cymeriad lliwgar a charismataidd Russell Jones, un o gyflwynwyr rhaglen Yn yr Ardd ar S4C. Yn cynnwys llawer o luniau ohono ef, ei deulu a'i ardd yn Rhostryfan, ger Caernarfon, a'i ddiddordebau amrywiol a gwahanol - fel cadw ieir a gwau! Cawn hefyd farn bendant Russell am hyn a'r llall, a phytiau hwyliog amdano gan aelodau o'i deulu.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The story of the colourful and charismatic Russell Jones, one of the presenters of S4C gardening programme, Yn yr Ardd . Contains numerous pictures of Russell, his family and his garden in Rhostryfan, near Caernarfon, and his various interests such as rearing hens and knitting! We hear Russell's firm opinions on various subjects, and interesting tit-bits by his family.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9780860742630
- Gwales Code
- gwales.com.9780860742630
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Nabod: 1. Gwyrdd fy Myd
- Awdur / Author
- Jones, Russell
- Current Price ex VAT
- £6.95
- Current Price inc VAT
- £6.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2010-07-14
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Gwynedd
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 60 pages
- Size
- 200 × 200 mm; depth 7 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Atgofion a Hunangofiannau (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Atgofion a Hunangofiannau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences - Male (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma’r llyfr cyntaf yng nghyfres Nabod, cyfres sy’n cynnig cyfle i gwrdd â Chymry adnabyddus. Mae’n llyfr lliwgar, deniadol gyda lluniau ar bob tudalen ac mae’n cyflwyno portread difyr iawn o Russell Jones. Mae’r gyfrol yn agor gyda sesiwn cwestiwn ac ateb, ‘Holi Russell’, sydd yn tueddu i fod braidd yn ystrydebol, ond wrth iddo drafod ei blentyndod a’i ddyddiau ysgol, mae’r testun yn fywiog a diddorol. Yn ogystal ag atgofion Russell ei hun, ceir pytiau amdano gan ei gyn-brifathrawes, aelodau o’i deulu ac eraill o’i gydnabod. Mae’r sylwadau hyn yn cynnig gwedd ychydig yn wahanol, ond bron yn ddieithriad yn ganmoladwy, ar y garddwr brwd o Rosgadfan. Mae Russell yn dadlennu sut y bu iddo ddechrau ymddiddori mewn cadw anifeiliaid, ac mae’n cynnig cyngor buddiol i unrhyw un sydd am ddechrau cadw ieir! Mae’r gyfrol yn olrhain dyddiau cynnar Russell ym myd gwaith, a sut y daeth i amlygrwydd fel garddwr ac un sy’n ysgogi eraill i ‘fyw yn wyrdd’. Cawn hefyd glywed am Russell y gŵr a’r tad trwy eiriau Jen, ei wraig, a cheir lluniau hyfryd ohonynt gyda’u mab bychan, Bleddyn. Mewn pytiau sy’n dwyn y teitl ‘Ar fy Mocs Sebon’, mae Russell yn datgan ei farn bendant am bynciau amrywiol, o addysg a chrefydd i geir a glanhau. Iaith lafar, anffurfiol a ddefnyddir drwyddi draw, gan greu naws gartrefol, er bod modd i’r defnydd cyson o sillafu’n y ffurf lafar fynd dan groen darllenydd ar brydiau. Ond mae’r iaith yn bendant yn adlewyrchu cymeriad Russell Jones. Fel y dywed criw ffilmio cyfres Byw yn yr Ardd wrtho: “Dyma ’dan ni isio i ti ddeud, ond dwêd o yn dy ffordd dy hun.” Yn sicr, dyma a geir yn y gyfrol ddifyr hon.
Share
