Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Hynt a Helynt: 1. Hanes Cymru — Hanes Cymru

Cyfres Hynt a Helynt: 1. Hanes Cymru — Hanes Cymru

Regular price £2.00 GBP
Regular price Sale price £2.00 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Cyfrol sy'n croniclo hanes rhai o arwyr Cymru drwy'r oesoedd ar ffurf cartŵn. Dyma nofel graffig fydd yn apelio at blant o bob oed. Yn y gyfrol hon ceir hanes Caradog, Buddug, Macsen a Cunedda, a hynny mewn modd ffres a lliwgar iawn.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Four colourful graphic stories about four heroes in Welsh history. Meet four characters that battled against the Romans for centuries and who fought for their rights and Celtic traditions. An attractive book, in cartoon form.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847713001
Gwales Code
gwales.com.9781847713001
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Hynt a Helynt: 1. Hanes Cymru — Hanes Cymru
Sub Title
Hanes Cymru
Awdur / Author
Glyn, Sioned
Current Price ex VAT
£2.00
Current Price inc VAT
£2.00
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2011-02-25
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
96 pages
Size
170 × 260 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Hanes ac Enwogion (yn Gymraeg) | EN: History and Famous People (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Arwyr Cymru mewn Cartŵn Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol arloesol am bedwar o arwyr hanes Cymru sy’n cael eu darlunio ar ffurf cartãn. Teitl y gyfrol yw Hynt a Helynt Hanes Cymru a Sioned Glyn sydd wedi bod wrthi yn ysgrifennu hanes Cunedda, Buddug, Macsen a Caradog ac wedi llunio’r lluniau lliwgar dull Manga. Mae Sioned yn artist profiadol ac yn gweithio fel athrawes gelf ac mae’n cyfuno dau o’i phrif ddiddordebau yn y gyfrol hon, sef hanes Cymru a chelf. Meddai’r awdur, a gafodd ei geni a’i magu yng Nghaerdydd ond sy’n byw ym Mangor ers blynyddoedd: “Sylweddolais bod angen nofelau graffig yn y Gymraeg – rhai lliwgar ac atyniadol. A pha well pwnc na hanes ein gwlad? Dwi wedi cael pleser mawr yn astudio hanes Cymru a cheisio creu cymeriadau byw, gan gadw at y ffeithiau mor agos â phosib! Gobeithio y bydd y nofel yn fodd i ddysgu plant a phobl ‘ifanc’ o bob oed am ein harwyr mewn ffordd hwyliog ond hefyd yn ein hatgoffa o bwy ydan ni ac o ble ry’n ni wedi dod.” Mae’r gyfrol 96 tudalen yn mynd i apelio at bawb, ac mae’n bosib y bydd cyfrolau eraill ar y gweill yn dilyn hanes Cymru ar ôl Cunedda o’r 5ed ganrif. Mae hanes y pedwar cymeriad sy’n y gyfrol yn cyfleu’r brwydro a fu yn erbyn y Rhufeiniaid am ganrifoedd a sut y bu’n rhaid ymladd i gadw’u hawliau a’u traddodiadau Celtaidd. Meddai Meinir Wyn Edwards, golygydd y gyfrol: “Mae Sioned Glyn wedi llwyddo i greu cyfrol arloesol yn y Gymraeg. Mae’r dull Manga o ddarlunio yn arddull boblogaidd dros y byd ond dyma’r llyfr cyntaf Cymraeg i’w ddefnyddio. Arddull a ddaw’n wreiddiol o Siapan yn y 19fed ganrif yw Manga, ac mae’n apelio at bob oed. Mae Astro Boy a Tamagotchi yn enghreifftiau o nofelau graffig Manga sydd yn boblogaidd yn fyd-eang. Mae’r artist yn adnabod ei chynulleidfa i’r dim. Mae’n dysgu graffeg yn Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon ac wedi bod yn defnyddio ei disgyblion i gael ymateb a sylwadau i’r gyfrol. Mae potensial gwych yma i ddatblygu’r gyfres ymhellach.” Ar hyn o bryd, mae Sioned Glyn yn cydweithio gyda Meinir Wyn Edwards ar gyfres o nofelau graffig i blant wedi’u seilio ar Bedair Cainc y Mabinogi a fydd yn cael eu cyhoeddi y flwyddyn nesaf.

View full details