Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Fflach Doniol: Tricsi a Dicsi
Cyfres Fflach Doniol: Tricsi a Dicsi
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Daw pob math o helyntion a throeon trwstan i ran Ow a Dicsi a Bopa Tricsi wrth iddyn nhw deithio o Decsas bell i Gaerdydd am wythnos o wyliau. Mae Sharon wrth eu bodd yn cael cwmni ei modryb a'i hewythr hynod,ond a fydd Dad yn medru cadw ei dymer am wythnos gyfan, tybed?
Disgrifiad Saesneg / English Description
Ow, Dicsi and Bopa Tricsi encounter many thrills and spills as they travel from Texas to Cardiff for a week's holiday. Sharon is very happy to see her strange aunt and uncle, but will Dad be able to control his temper for a whole week?
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784231354
- Gwales Code
- gwales.com.9781784231354
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Fflach Doniol: Tricsi a Dicsi
- Awdur / Author
- Morgan, Gwyn
- Current Price ex VAT
- £4.99
- Current Price inc VAT
- £4.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2019-03-22
- Cyhoeddwr / Publisher
- Dref Wen
- Darlunydd / Illustrator
- Owen, Dai
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 64 pages
- Size
- 128 × 188 mm; depth 5 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae Sharon Llewelyn yn gyffro i gyd am fod ei hewythr a’i modryb hynod, Owa Dicsi a Bopa Tricsi Rollercoaster, ar fin cyrraedd am wythnos o wyliau yng Nghaerdydd, yr holl ffordd o Decsas yn yr U.S of A . Ond mae ymateb Mam a Dad i’r ymweliad braidd yn wahanol, a dweud y lleiaf. Mae’r newyddion yn achosi panig llwyr – a hynny cyn i’r ddau gyrraedd, hyd yn oed. Ond mae ganddyn nhw flwyddyn i baratoi, ac mae’r gwaith yn dechrau’n syth, gan gynnwys peintio, adnewyddu, trwsio, siopa, addurno a gwario llwyth o arian, yn enwedig felly yn IKEA, heb sôn am drefnu amserlenni ac ymweliadau i bob cwr o Gymru. Ac yna, mae’r ymwelwyr yn cyrraedd, a gweddill y gyfrol yn dilyn helyntion Sharon, Mam a Dad wrth iddyn nhw geisio diddanu’r unigryw Dicsi a Tricsi. Mae eu hanturiaethau’n mynd â nhw o’r ardd gefn i barti yn y Stiwt, cyn mentro i Rosili, Sir Benfro a Thyddewi, Castell Caerffili, y capel a chanol Caerdydd. A wir i chi, mae pob munud o bob diwrnod yn llawn digwyddiadau doniol a digri sy’n siŵr o oglais synnwyr digrifwch darllenwyr o bob oed. Drwy’r cyfan, mae Dad yn cyfrif y dyddiau tan i’r ddau gymeriad unigryw o Decsas neidio mewn tacsi a dychwelyd adref! Ac mae’r rhyddhad o ffarwelio â’r ddau’n amlwg ar wyneb pawb arall hefyd, hynny yw, nes iddyn nhw agor yr anrheg y mae Owa Dicsi a Bopa Tricsi wedi ei adael iddyn nhw fel diolch. Ond stori arall yw honno! Cawl o ddoniolwch, hiwmor a throeon trwstan yw’r gyfrol ddiweddaraf hon o waith yr awdur poblogaidd, Gwyn Morgan, yn y gyfres Fflach Doniol. Mae’r awdur yn feistr ar y math yma o stori, sydd wedi ei llunio y tro hwn ar ffurf bras dyddiadur Sharon. Pwy all anghofio cymeriadau eraill o’i waith yn yr un gyfres, yn cynnwys Pogo Ping Pong, Kate, Bet a Giles, a Dyg a Dêf Diawledig, i enwi dim ond rhai. A chydag arlunwaith trawiadol Dai Owen yn dod â’r hiwmor yn fyw o flaen ein llygaid, dyma gyfrol fydd yn siŵr o ddenu sylw hyd yn oed y darllenwyr mwyaf anfoddog. Fe allai diwyg y gyfrol fod yn fwy twt mewn ambell fan, ond mae naws siang-di-fang y stori a’r cartwnau gwyllt a gwallgo’n gwthio hynny i gefn y meddwl. Heb os, bydd bwrlwm y cymeriadau a’r anturiaethau lliwgar yn aros yn hir yn y cof!
Share
