Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Cyw: Bolgi a'r Ŵyn Bach
Cyfres Cyw: Bolgi a'r Ŵyn Bach
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae Bolgi a chriw Cyw yn dysgu gwers bwysig iawn pan maen nhw'n gofalu am oen bach gwyn ac oen bach du. Llyfr newydd yn y gyfres o lyfrau sy'n adrodd hanes Cyw a'i ffrindiau.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Bolgi and Cyw's friends learn an important lesson when they look after two little lambs, a white and a black lamb. A new title in the series of books about Cyw and her friends.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781800990593
- Gwales Code
- gwales.com.9781800990593
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Cyw: Bolgi a'r Ŵyn Bach
- Awdur / Author
- Llŷn, Anni
- Current Price ex VAT
- £3.95
- Current Price inc VAT
- £3.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-03-08
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 24 pages
- Size
- 200 × 210 mm; depth 2 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Anni Llŷn yn wyneb cyfarwydd ar y teledu fel cyflwynydd ac actores. Bu'n Fardd Plant Cymru am ddwy flynedd ac mae wedi cynnal gweithdai mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Cafodd ei magu ym Mhen Llŷn ac ar ôl cyfnod yng Nghaerdydd mae hi a'i gŵr wedi symud yn ôl i'w hardal enedigol i fagu teulu.
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Anni Llŷn is a familiar face on television as a presenter and actress. She was the Welsh Children's Poet for two years and has held workshops in primary and secondary schools throughout Wales. She was brought up in Pen Llŷn and after a period in Cardiff she and her husband have moved back to their native area to raise a family.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma lyfr newydd arall yng nghyfres hynod o boblogaidd Cyw, wedi ei ysgrifennu gan yr awdur profiadol, Anni Llŷn. Dyma gyfle eto i fynd i fyd cyfarwydd Cyw a chwrdd eto â hen ffrindiau fel Llew, Plwmp, Deryn, Jangl ac wrth gwrs Bolgi’r ci. Mantais y gyfres yw bod plant yn hen gyfarwydd gyda Cyw a’i ffrindiau yn barod ac mae’n frand sy’n adnabyddus i rieni. Y tro hwn, mae Bolgi yn diogi ac yn gorweddian ar y soffa tra mae pawb arall yn helpu i lanhau. Does dim byd yn ei blesio, tan mae Cyw yn cyhoeddi bod Guto’r Ffermwr am i Cyw a’r criw ofalu am oen bach newydd. Mae Bolgi’n codi’n sydyn ac yn cyffroi’n lân wrth iddo hel atgofion melys o’r cyfnod diwethaf pan ddaeth oen bach i aros. Neges bwysig, hynod amserol am amrywiaeth, cydraddoldeb ac amlddiwylliant sydd dan sylw yn y llyfr hwn ac fe gaiff ei chyfleu mewn ffordd annwyl ac effeithiol. Yn wahanol i’r oen bach diwethaf, oedd yn wyn, mae’r oen newydd yn ddu, gyda chot o wlân tywyll a chyrliog. Dydi Bolgi ddim yn siŵr iawn a fydd yr oen newydd yn hoffi’r un pethau â’r oen diwethaf ddaeth i aros, ond buan y daw i sylweddoli bod yr oen hwn hefyd yn hoffi peintio, padlo a chael stori. Maen nhw’n mwynhau gwneud yr un pethau a chaiff y ddau oriau o hwyl. A dweud y gwir, gwna’r oen bach newydd ambell beth yn wahanol hefyd, sydd yn gyfle i gael hyd yn oed mwy o hwyl. Am ffordd fendigedig o ddangos i blant ifanc bod amrywiaeth yn rhywbeth i’w drysori a'i fod yn cyfoethogi bywyd mewn cymaint o ffyrdd. Wrth ddod ar draws sefyllfaoedd newydd neu anghyfarwydd, mae’n bosib y bydd plant ifanc yn chwilfrydig am bobl sy’n wahanol iddyn nhw. Bydd y llyfr lliwgar yma’n helpu i ddangos iddynt na ddylid ofni rhywbeth newydd neu wahanol, a bod y gwahaniaethau rhyngom yn bethau i’w dathlu a’u clodfori.
Share
