Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Cyffro!: Herio!
Cyfres Cyffro!: Herio!
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Hanes y Gêmau Olympaidd, a llawer mwy, mewn cartwnau Manga lliwgar. Addas i blant 7-11 oed yn bennaf.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The history of the Olympic Games, and lots more, in colourful Manga cartoons. Suitable for children between 7 and 11 years of age.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781847714534
- Gwales Code
- gwales.com.9781847714534
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Cyffro!: Herio!
- Awdur / Author
- Edwards, Meinir Wyn
- Current Price ex VAT
- £4.95
- Current Price inc VAT
- £4.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2012-07-11
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Glyn, Sioned
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 48 pages
- Size
- 151 × 240 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Llyfr Campus i Ddathlu’r Gêmau Olympaidd! Mae hanes y Gêmau Olympaidd, sydd ar fin dechrau yn Llundain, ymhlith nifer o straeon lliwgar sydd i’w canfod mewn llyfr cartŵn newydd, o’r enw Herio! Dyma’r ail gyfrol yng Nghyfres Cyffro, yn dilyn Morio! a gyhoeddwyd i gyd-fynd â chanmlwyddiant suddo’r Titanic. Yn ogystal â hanes y Gêmau Olympaidd hyd heddiw, ceir llond lle o straeon penigamp eraill yn Herio! gan gynnwys chwedl 12 tasg Herciwles a ddechreuodd yr Olympau cyntaf fel teyrnged i'w dad, Zews; Y Gêmau Paralympaidd, Gêmau’r Gaeaf, hanes y logo, masgots, y fflam Olympaidd a hanes Guto Nythbrân. Mae’r gyfres wedi’i hanelu at blant rhwng 7 ac 11 oed, ac yn ffordd ddifyr o ddysgu hanes ac i ennyn darllen er pleser. Mae cartwnydd y gyfres, Sioned Glyn, yn athrawes gelf, dylunio a graffeg yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, a hi yw'r unig un i gyhoeddi cartwnau Cymraeg yn y dull Manga, dull sy’n deillio o Siapan yn wreiddiol. Meinir Wyn Edwards yw awdur Herio! , ac mae’n awdures brofiadol. Hyd yma mae ganddi dros 20 o lyfrau i’w henw. Daw Meinir o Sir Benfro yn wreiddiol ond erbyn hyn mae hi a’r teulu wedi ymgartrefu yn Llandre, ger Bow Street ac mae’n gweithio fel Golygydd i wasg y Lolfa. Meddai Meinir, “Mae’r prosiect Cyfres Cyffro yn her a hanner i’w sgwennu. Gan fod y llyfrau wedi’u seilio ar ddigwyddiadau go iawn, rhaid ymchwilio’n fanwl a sicrhau bod y ffeithiau hanesyddol yn gywir. Y dasg wedyn yw ceisio crynhoi’r holl wybodaeth a’i wneud yn ddiddorol ac yn weladwy i blant. Yn Herio! penderfynais gynnwys hen chwedl Roegaidd am Herciwles i ddod â chyffro a lliw a thipyn o waed! Mae hynny wedyn yn arwain at ddechrau’r Gêmau gwreiddiol yn Olympia, ac yna at ffeithiau difyr, gwallgo a gwirion am y gemau modern a ddechreuodd yn Athen yn 1896 gyda 241 o gystadleuwyr. Erbyn heddiw mae’r nifer wedi cynyddu i dros 10,000! I ddod â gogwydd Gymreig i’r gyfrol roedd stori Guto Nythbrân yn cynnig ei hun yn naturiol - Cymro a allai roi ras i Usain Bolt unrhyw ddiwrnod!” Bydd 3 cyfrol arall yn y gyfres yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref, yn rhoi hanes damweiniau tanddaearol Senghennydd yn 1914 a Chile yn 2010; cymharu digwyddiadau’r Ail Ryfel Byd o safbwynt bachgen yng nghanol y Blits yn Abertawe ac Anne Frank; ac yna rhoi stori Cantre’r Gwaelod.
Share
