Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Clasuron: Dail Pren

Cyfres Clasuron: Dail Pren

Regular price £7.99 GBP
Regular price Sale price £7.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Argraffiad newydd o gerddi Waldo. Yn cynnwys cyflwyniad gan Mererid Hopwood. Cyhoeddwyd y casgliad yn wreiddiol ym 1956. ISBN yr argraffiad blaenorol: 9780863837111. Dail Pren yw un o gyfrolau barddoniaeth pwysicaf yr ugeinfed ganrif â'i dylanwad yn para hyd heddiw. Oherwydd grym diffuantrwydd canu Waldo Williams, mae apêl oesol i'r casgliad hwn.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A new edition of the poems of Waldo Williams, with an introduction by Mererid Hopwood. Originally published in 1956. ISBN of previous edition: 9780863837111.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781848512931
Gwales Code
gwales.com.9781848512931
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Clasuron: Dail Pren
Awdur / Author
Williams, Waldo
Current Price ex VAT
£7.99
Current Price inc VAT
£7.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2010-11-03
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Lolfa
Media Type (EN)
Hardback
Media Type (CY)
Clawr caled
Pages
104 pages
Size
148 × 210 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Beirdd Unigol (yn Gymraeg) | EN: Individual Poets (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Un o glasuron llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif yw Dail Pren Waldo Williams. Dylanwadodd y gyfrol fach hon yn drwm ar feddylfryd ei dydd, a phery ei hapêl hyd y dydd hwn. Bendithiwyd Waldo Goronwy Williams â’r ddawn i lunio cerddi grymus sy’n atseinio â didwylledd argyhoeddiad, gan osgoi pob arlliw o dueddiad llenorion llai i dincial cyfres o ymadroddion cloff. Y cryfder didwylledd hwn a enillodd i’r bardd le parhaol yng nghalon y Cymry llengar. Nid yw’n syndod felly fod Gomer wedi cyhoeddi Dail Pren mewn argraffiad hynod hardd, a’r cyntaf mewn cyfres newydd sy’n dwyn y teitl Clasuron Gomer. Lluniwyd rhagymadrodd gwerthfawr i’r argraffiad hwn gan Mererid Hopwood. Ynddo esbonnir pwyslais Waldo ar y cysylltiad ‘rhwng yr eiliad fach a’r awr fawr dragwyddol’. Profiad y bardd yw fod hir fyfyrio yn esgor ar amrantiad o ddatguddiad sydyn; yna fe syrth yn ôl i dawelwch disgwylgar gan aros am ymweliad arall ac am eiliad arall sy’n egluro. Yn y modd hwn ‘mae’r eiliad a thragwyddoldeb yn dod at ei gilydd’. Trafodir hefyd fel y ‘mae’r pell a’r agos’ yn dod at ei gilydd. Yn ‘Horeb Mynydd Duw’, y gerdd gyntaf iddo ei chyhoeddi erioed, dywed Hopwood yn ei rhagymadrodd fod y bardd yn “gofyn am gael rhwygo muriau ‘cul y gell’ i gael gweld bro’r ‘gorwelion pell’ a byd ‘yr eangderau gwell’”. Wrth feithrin amynedd a disgwylgarwch, ceir mynych eiliadau sy’n cyffwrdd. Dyluniwyd y gyfrol gan Olwen Fowler, a hi hefyd a luniodd logo'r gyfres hon. Gwyddom ei bod yn feistres ar ei chrefft, ac mae ceinder ei gwaith yn rhoi urddas pellach i’r cyhoeddiad hwn. Ar y clawr defnyddiwyd delwedd D. J. Morris o’r pren, fel y gwnaed yn y cyhoeddiad gwreiddiol yn 1956, a rhoddir yr argraff fod i’r gyfrol rwymiad chwarter lledr. O graffu gellir canfod sawl manylyn diddorol sy’n rhoi synnwyr o foethusrwydd i’r gyfrol, ac yn hollbwysig mae gafael a theimlad y llyfr yn y llaw yn gyfforddus braf. Yn sicr, dyma argraffiad y dylai pawb ei brynu oherwydd y cynnwys, y diwyg, ac oherwydd y talp o Gymreictod, hanesyddol erbyn hyn lawer ohono ysywaeth, y mae’n ei gynrychioli. Efallai ein bod wedi darllen Dail Pren droeon cyn hyn, ond dichon fod ynddo o hyd berlau lu na sylwasom arnynt o’r blaen.

View full details