Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Cerddi Gwalch: 3. Salwch Odli
Cyfres Cerddi Gwalch: 3. Salwch Odli
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Y drydedd gyfrol mewn cyfres o lyfrau barddoniaeth lliw llawn. Casgliad difyr gan Margiad Roberts a fu'n o gyfranwyr pwysicaf a mwyaf poblogaidd y gyfres Cerddi Lloerig dros y blynyddoedd. Mae ei cherddi ffraeth yn apelio'n fawr at blant oedran cynradd - cerddi i godi gwên ac awydd ar blant i sgwennu eu hunain. Mae'r llyfr yn llawn i'r ymylon â lluniau bywiog Helen Flook.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The third volume of a series of full colour illustrated poetry books for primary school children. This volume comprises a humorous collection of appealing poems by Margiad Roberts, with lively illustrations by Helen Flook.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845274382
- Gwales Code
- gwales.com.9781845274382
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Cerddi Gwalch: 3. Salwch Odli
- Awdur / Author
- Roberts, Margiad
- Current Price ex VAT
- £5.99
- Current Price inc VAT
- £5.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2013-06-11
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Darlunydd / Illustrator
- Flook, Helen
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 48 pages
- Size
- 1 × 1 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Cynllun sydd wedi talu ar ei ganfed yw cynllun Bardd Plant Cymru a sefydlwyd yn ôl yn 2000. Nod y cynllun yw annog plant a phobl ifanc i fwynhau a chreu barddoniaeth. Oddi ar sefydlu’r cynllun cyhoeddwyd cnwd o lyfrau barddoniaeth i blant yn cynnwys y dwys a’r digri. Wel, dyma gyfrol arall i’w mwynhau – llond trol o gerddi i wneud i chi rowlio chwerthin wrth ddarllen ‘y geiria bach joli/ sy’n codi o rwla’n eich bol chi’. Mae yma gerddi yn null yr hen benillion a limrigau doniol – ffurf a boblogeiddiwyd gan Edward Lear yn ei A Book of Nonsense (1846). Mae yma ddwyster hefyd, megis y gerdd ‘Bocsys cardbord,’ sy’n cymharu ein Nadolig gorlawn ni â Nadolig llwm plant y stryd. Ond mae yma wledd arall yn eich disgwyl, sef darluniau lliw-llawn, llawn hiwmor, Helen Flook – priodas berffaith rhwng gair a llun. Dyma gyfrol addas i’r cartref ac i’r dosbarth i ysgogi plant i roi geiriau sy’n odli at ei gilydd i greu pennill neu gerdd, waeth pa mor bisâr ydyw. A beth all y canlyniad hirdymor fod? Wel, ’ennill sêt bren am farddoni’, yn ôl y llyfr hwn. Afraid fyddai dyfynnu rhai cerddi rhag difetha’r hwyl; wedi'r cyfan, chi biau’r mwynhad o’u darllen. Cyfrol werth chweil – mynnwch gopi.
Share
