Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Celc Cymru: Brwydrau dros Gymru

Cyfres Celc Cymru: Brwydrau dros Gymru

Regular price £5.95 GBP
Regular price Sale price £5.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae'r gyfrol hon yn mynd â ni ar daith drwy Gymru gan ddangos meysydd ein hanes inni drwy gyfrwng brwydrau'r gorffennol.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781845275990
Gwales Code
gwales.com.9781845275990
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Celc Cymru: Brwydrau dros Gymru
Awdur / Author
Dafydd, Myrddin ap
Current Price ex VAT
£5.95
Current Price inc VAT
£5.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2017-03-01
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
128 pages
Size
155 × 150 mm; depth 10 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Bywyd ac Arferion Cymru (yn Gymraeg) | EN: Welsh Life and Customs (in Welsh)
FSC Status
FSC certified (mixed sources) — C019670

Cynnwys / Table of Contents

Ym mhob cwr o Gymru mae olion brwydrau – rhai ohonynt yn 2,000 o flynyddoedd oed. Wrth wynebu’r Rhufeiniaid ar Gaer Caradog, y Gwyddelod ym Môn, Y Sacsoniaid ar Glawdd Offa, y Llychlynwyr ar forfa Llandudno a’r Normaniaid a’u cestyll, roedd byddinoedd brenhinoedd a thywysogion Cymru yn ymladd dros ddyfodol ar y tir hwn. Brwydrau dros Gymru a’i phobl oeddent, a pharhau mae’r ymgyrchoedd drwy’r ymrafael diwydiannol, boddi cymoedd a’r ymgyrchoedd hawliau iaith. Yn amlach na pheidio, does dim i gofnodi lleoliadau na hanes brwydrau’r gorffennol. Mae’r gyfrol hon yn mynd â ni ar daith drwy Gymru gan ddangos meysydd ein hanes inni.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Cyfrol ddigon bychan i’w gwthio i boced côt neu i gornel pecyn cefn yw hon. Mae’n gyfrol, felly, sydd wedi ei llunio nid yn unig i’w darllen ond i’w defnyddio ar daith hefyd. Ceir ynddi sylwadau byr am bymtheg ar hugain o feysydd brwydrau a ystyrir yn arwyddocaol yn hanes Cymru. Mae rhai yn frwydrau yr ydym wedi clywed amdanynt, eraill yn ddim ond enwau llefydd lled gyfarwydd, ac ambell un yn frwydr nad yw'r rhan fwyaf ohonom wedi clywed amdani. Cyfrol gronolegol yw hon, yn dechrau yn OC 51 gyda brwydr yr Allt Gethin, sef brwydr y Brythoniaid dan arweiniad Caradog yn erbyn y Rhufeiniaid, ac yn gorffen gyda brwydr y Beasleys a phrotestiadau Cymdeithas yr Iaith yn ail hanner y ganrif ddiwethaf. Ym mhob pennod fe geir lluniau a disgrifiad bras o’r lleoliad, nodi dwy ochr y frwydr a dyddiad y brwydro. Ceir disgrifiad byr o amgylchiadau’r gwrthdaro, nodir cryfderau a gwendidau y naill ochr a’r llall, ac yna rhoddir peth o hanes y frwydr – pan fo'r manylion hynny ar gael. Yn ychwanegol, dadansoddir arwyddocâd y digwyddiadau yn ogystal. Mae’r mwyafrif o’r brwydrau yn rhai cyn 1405, sef dyddiad brwydr Pwll Melyn rhwng byddin Glyndwr a’r Saeson. Mae saith brwydr fwy diweddar a llai militaraidd yn niwedd y gyfrol, pedair ryddfrydol eu natur o’r bedwaredd ganrif a’r bymtheg a thair genedlaetholgar o’r ugeinfed ganrif. Egwyddor sylfaenol creu’r gyfrol oedd nodi ac atgoffa pobl o leoliadau hanfodol ein hanes. Boed y Cymry yn orchfygwyr neu yn orchfygedig yn y gwahanol frwydrau, y maent wedi llunio ein hanes ac y mae’r disgrifiadau yn lleoli ein hanes. Trwy’r gyfrol hon, nid syniadau yw hanes ond llefydd arbennig i ymweld â hwy a gwerthfawrogi yr hyn a ddigwyddodd yno. Mae’r ysgrifennu’n dda ac yn gynnil a’r wybodaeth yn ddefnyddiol, er nad oes lle i gynnwys mwy nag un ddamcaniaeth am y brwydrau, ond dyma gyfrol hynod werthfawr i ddeall ein hunain a gwerthfawrogi’n hanes. Gallai un ychwanegiad bychan fod wedi gwneud y gyfrol yn fwy defnyddiol i’r ymwelydd, a hynny fyddai cyfeiriadau grid neu god post, ond mater bach yw hwnnw mewn cyfrol hyfryd i fodio drwyddi.

View full details