Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Byd y Bwystfilod: 1. Tania'r Ddraig Dân — Byd y Bwystfil 1
Cyfres Byd y Bwystfilod: 1. Tania'r Ddraig Dân — Byd y Bwystfil 1
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae dewin dieflig wedi hudo bwystfilod lledrithiol Afantia - dim ond gwir arwr all ryddhau'r bwystfilod a'u hatal rhag dinistrio'r lle. Ai Tom yw'r arwr y mae Afantia wedi bod yn disgwyl amdano? Ymuna gyda Tom wrth iddo wynebu Tania'r Ddraig Dân ... Addasiad Cymraeg o BeastQuest: 1. Ferno the Fire Dragon .
Disgrifiad Saesneg / English Description
An evil wizard has enchanted the magical beasts of Avantia - only a true hero can free the beasts and stop them from destroying the land. Is Tom the hero Avantia has been waiting for? Join Tom as he braves Ferno The Fire Dragon ... A Welsh adaptation of BeastQuest: 1. Ferno the Fire Dragon .
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781904357544
- Gwales Code
- gwales.com.9781904357544
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Byd y Bwystfilod: 1. Tania'r Ddraig Dân — Byd y Bwystfil 1
- Sub Title
- Byd y Bwystfil 1
- Awdur / Author
- Blade, Adam
- Current Price ex VAT
- £4.99
- Current Price inc VAT
- £4.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2010-11-25
- Cyhoeddwr / Publisher
- Rily
- Editor
- WBC
- Translator
- Jones, Tudur Dylan
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 128 pages
- Size
- 1 × 1 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
‘Tra bod gwaed yn llifo trwy fy nghorff i, ac er mwyn fy nhad a’r brenin, rhaid i mi lwyddo.’ Dyna ddywed Tom, arwr y gyfrol, wrth iddo geisio rhyddhau Afantia rhag melltith Moelfryn y Dewin Du. Ar ddechrau’r llyfr ceir llythyr gan y dewin Aduro yn esbonio bod Moelfryn wedi melltithio’r chwe bwystfil oedd arfer gwarchod Afantia, a'u bod bellach â’u bryd ar ddinistrio’r deyrnas. Yn ôl yr hen lawysgrifau bydd bachgen yn mynd ar gyrch i ryddhau’r chwech, ac achub y wlad. Yn y prolog rydyn i’n clywed am ddiwedd trist y marchog Caldor wrth iddo wynebu’r cyntaf o’r bwystfilod, Tania’r Ddraig Dân. Mae’n amlwg o’r cychwyn mai dim ond gwir arwr all lwyddo. Tom yw’r arwr hwnnw – bachgen ifanc sydd wedi ei fagu gan ei ewyrth a’i fodryb wedi i’w fam farw ac i’w dad ddiflannu. Wrth i fflamau Tania fygwth ei bentref, mae’r bachgen dewr yn mynd i weld y brenin i ofyn am gymorth. Wedi iddo sleifio i’r palas sylweddola ddewin y brenin mai dyma’r arwr y bu disgwyl mawr amdano, a chaiff Tom ei arfogi a’i anfon ar ei gyrch. Dyna pryd mae’r antur go iawn yn dechrau. Fy hoff beth yn y gyfrol yw’r map hud sy’n dod yn fyw. Mae’r coed a’r mynyddoedd yn codi o’r papur ac mae’r rhew ar y copaon yn oeri bysedd Tom. Mae yna gopi un dimensiwn o’r map ar dudalennau blaen y llyfr, ond trueni fod cynifer o’r enwau yn anodd i’w darllen am eu bod yn gudd ym mhlyg y gyfrol! Symuda’r stori’n gyflym, ac mae’r penodau sy’n disgrifio’r frwydr â Tania yn hynod gynhyrfus, ond efallai fod y cymeriadau ychydig yn arwynebol i blant hŷn. Y cyntaf mewn cyfres o chwe chyfrol yw hon, ac mae yna beryg y gall yr hanesion fod braidd yn undonog. Wedi dweud hynny, mae’r awgrymiadau am beth ddigwyddodd i dad Tom yn ychwanegu at y diddordeb, a synhwyrwn y bydd yna dro yn y gynffon cyn diwedd y gyfres.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
A Welsh adaptation of BeastQuest 1 (Ferno the Fire Dragon). Part of a series of 6 titles. Can you survive the BeastQuest? An evil wizard has enchanted the magical beasts of Avantia - only a true hero can free the beasts and stop them from destroying the land. Is Tom the hero Avantia has been waiting for? Join Tom as he braves Ferno The Fire Dragon...
Share
