Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Amdani: Stryd y Bont
Cyfres Amdani: Stryd y Bont
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Mynediad. Mae Stryd y Bont yn dilyn hanes pobl sy'n byw ar yr un stryd mewn tref yng Nghymru. Pa gyfrinachau sydd ganddyn nhw? Pwy sy'n adnabod pwy, ac a ydy cymeriadau Stryd y Bont yn adnabod eu cymdogion mewn gwirionedd? AILARGRAFFAD
Disgrifiad Saesneg / English Description
A book for Welsh learners, Entry Level. We follow the stories of people living on the same street in a Welsh town. What secrets do they have and do they really know their neighbours? REPRINT FIRST PRINTED 2018
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781912261444
- Gwales Code
- gwales.com.9781912261444
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Amdani: Stryd y Bont
- Awdur / Author
- Ros, Manon Steffan
- Current Price ex VAT
- £7.99
- Current Price inc VAT
- £7.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-01-14
- Cyhoeddwr / Publisher
- Atebol
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 40 pages
- Size
- 148 × 210 mm; depth 3 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Dysgwyr (yn Gymraeg) gweler hefyd Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (yn Gymraeg) | EN: Welsh Learners (in Welsh) see also Language, Grammar and Dictionaries (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Deunydd Darllen (yn Gymraeg) | EN: Reading Material (in Welsh)
- FSC Status
- FSC certified (mixed sources) — C013417
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Fel un sy’n hoff iawn o waith y llenor Manon Steffan Ros, a minnau’n diwtor Cymraeg i Oedolion, roeddwn i’n edrych ymlaen at gael darllen ei chyfrol Stryd y Bont , sy’n rhan o gyfres Amdani yn arbennig ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Mae’r gyfrol yma wedi’i hysgrifennu ar gyfer dysgwyr lefel Mynediad, felly mae’n addas i ddechreuwyr sydd wedi bod yn dysgu am flwyddyn neu ddwy. Ychwanegiad bach difyr arall ydy’r darluniau gan y cartwnydd Huw Aaron, sy’n britho’r gyfrol drwyddi draw. A chefais i mo fy siomi. Mae gan Manon Steffan Ros enw da am ei dawn dweud cynnil a ffraeth a’i straeon gafaelgar ac mae Stryd y Bont yn stori sy’n gafael yn y dychymyg o’r cychwyn cyntaf. Mae gan yr awdur ddawn arbennig i greu cymeriadau crwn a chredadwy, ac mae hi’n llwyddo i’w cyflwyno yn effeithiol a lliwgar mewn ychydig iawn o eiriau, gan ddefnyddio iaith syml, addas i ddysgwyr Cymraeg sy’n ddechreuwyr ond heb fod yn nawddoglyd. Mae Stryd y Bont yn dilyn trywydd un stori, gyda phob pennod yn canolbwyntio ar gymeriadau sy’n byw mewn gwahanol dai ar hyd un stryd dros gyfnod o tua dau ddiwrnod. Ym mhob pennod, rydyn ni’n cael safbwynt cymeriad gwahanol a’u fersiwn nhw o ddigwyddiad sy’n troi o amgylch un cymeriad, sef Dewi, sy’n byw yn Rhif 1 Stryd y Bont. Llwydda’r awdur i osod awyrgylch o gyffro a chwilfrydedd, ynghyd ag elfen o ddrama yn gynnar iawn yn y gyfrol. Erbyn yr ail bennod, pan fyddwn ni’n cael golwg ar y cymeriadau sy’n byw yn yr ail dŷ ar y stryd, mae’r stori eisoes yn gafael ac roeddwn i’n teimlo fy mod i eisiau darllen ymlaen. Mae’r iaith yn addas ar gyfer dysgwyr lefel Mynediad gyda geirfa briodol ar waelod pob tudalen. Mae’r geiriau sy’n cael eu cynnwys yn yr eirfa mewn print trwm, felly mae’n haws i’r darllenydd wybod os oes angen troi at gymorth ychwanegol gydag unrhyw ystyron. Efallai, ar lefel dechreuwyr fel hyn, y byddai hyd yn oed ragor o eiriau yn yr eirfa o gymorth, er mwyn cynorthwyo llif y darllen i’r rheiny sydd ddim am bori mewn geiriadur trwy gydol y profiad o ddarllen. Yn ogystal â geirfa ar bob tudalen, mae’r holl eiriau sy’n cael eu rhoi trwy gydol y llyfr wedi’u casglu ynghyd yn y cefn. O bosib, mae ambell batrwm eithaf diarth i ddysgwyr a dechreuwyr Mynediad 1 (er enghraifft, ‘ei hesgidiau’ ac ati) ond ar y cyfan, mae’r cynnwys a’r lefel yn ddigon heriol ond heb fod yn rhy hawdd chwaith. Mae’n braf iawn darllen rhyddiaith greadigol wedi ei hanelu at oedolion, mewn iaith sy’n addas i ddysgwyr ei darllen. Fel tiwtor Cymraeg i Oedolion, buaswn yn argymell y llyfr yma i fy nysgwyr i.
Share
