Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth yn y Gofod

Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth yn y Gofod

Regular price £3.99 GBP
Regular price Sale price £3.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nid yw Alun yn un da am gadw ei draed ar y ddaear ... Stori gyffrous arall yng Nghyfres Alun yr Arth. Pan welodd Alun roced gyntaf Cymru, doedd ond un peth i'w wneud - hedfan i'r gofod! Ond pwy feddyliai y byddai'n cwrdd â thri ffrind newydd ar ei daith anturus. Ysgrifennwyd gan Morgan Tomos a phlant Ysgol y Gelli, Caernarfon. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2010.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Alun is not very good at keeping his feet on the ground ... Another story in the Alun yr Arth series. Reprint; first published in 2010.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847713049
Gwales Code
gwales.com.9781847713049
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth yn y Gofod
Awdur / Author
Tomos, Morgan
Current Price ex VAT
£3.99
Current Price inc VAT
£3.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2016-05-10
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
24 pages
Size
210 × 200 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
For babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Awdur a phlant yn ysgrifennu stori am y gofod ar y cyd Mae Alun yr Arth yn y Gofod , yn ganlyniad i gydweithio rhwng awdur a disgyblion. Pan gafodd Morgan Tomos, awdur Cyfres Alun yr Arth, wahoddiad i gynnal gweithdy yn Ysgol y Gelli, Caernarfon, roedd wrth ei fodd. Meddai’r awdur: “I Ysgol y Gelli es i pan oeddwn i’n blentyn, felly pan ddaeth y gwahoddiad i fynd yno i gynnal sesiwn stori, fel rhan o gynllun Awduron ar Daith yr Academi, allwn i ddim gwrthod. Mae cael bod yng nghwmni dosbarth o blant yn ysbrydoliaeth. Mae eu brwdfrydedd bob tro yn fy ysgogi i ysgrifennu stori. Hon yw’r 13eg yn y gyfres!” Yn y stori hon, mae Alun yn mynd am dro yn roced gyntaf Cymru – y Ddraig Goch – ond wrth gwrs dyw’r daith ddim un hwylus. Mae’n taro yn erbyn comed ond mae’n cael ei thrwsio gan dri o Bobol Bach Gwyrdd, rhyfedd iawn yr olwg. Dyw Alun ddim yn siwr sut i ymateb iddyn nhw ac felly mae’n dechrau siarad Saesneg, cyn i’r Bobol Bach Gwyrdd esbonio mai Cymraeg yw iaith y gofod! Meddai Meinir Wyn Edwards, Golygydd Llyfrau Plant y Lolfa: “Mae Morgan yn edrych am ffyrdd newydd o ddatblygu llyfrau Alun yr Arth. Mae wedi cynnwys ei gynulleidfa darged wrth ysgrifennu’r stori hon er mwyn sicrhau ei bod yn apelio ac mae un arall yn cael ei chyhoeddi yn y gwanwyn y flwyddyn nesa, sef Alun yr Arth a Jac Drws Nesa . Mae cynlluniau eraill ar y gweill i ehangu ystod oed Alun yr Arth a chyhoeddi llyfrau mwy syml i blant iau sy’n ymwneud â dysgu cyfri ac un arall ar gyfer dysgu llythrennau’r wyddor.”

View full details