Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth a'r Het Wirion
Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth a'r Het Wirion
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cyfrol newydd sbon yn un o'r cyfresi mwyaf poblogaidd yn y Gymraeg. Yn y stori hon mae mam Alun yr Arth yn ceisio'i berswadio i wisgo het. Mae dau gefnder drygionus Alun yn dod i chwarae. Maen nhw'n creu trwbl ac mae Alun druan yn cael bai ar gam unwaith eto. Ond mae gan Alun gynllwyn.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A colourfully illustrated original and entertaining story about Alun the mischievous little bear. Alun is not very happy when Arwyn and Alis come over to play. They laugh at his new hat, but Alun gets revenge by playing a trick on them.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781847712233
- Gwales Code
- gwales.com.9781847712233
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth a'r Het Wirion
- Awdur / Author
- Tomos, Morgan
- Current Price ex VAT
- £2.95
- Current Price inc VAT
- £2.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2010-03-31
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 24 pages
- Size
- 210 × 200 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- For babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Alun yn Arth yn Gwrthryfela Cyhoeddir antur ddiweddaraf y cymeriad hoffus i blant Alun yr Arth yr wythnos hon ac mae ynddi wers i rieni. Yn Alun yr Arth a’r Het Wirion mae Alun yn cael ei orfodi gan ei rieni i wisgo het liwgar ryfedd nad yw’n ei hoffi. Canlyniad hyn yw ei fod yn cael ei wawdio’n ddi-baid. Fodd bynnag mae Alun yn gwrthryfela ac yn cael cyfle i dalu’r pwyth yn ôl. Dywedodd Morgan Tomos, awdur y gyfrol, “'Fel rhiant dwi'n gwybod yn iawn pa mor hurt rydym yn gallu bod; yn gorfodi'r plant i wisgo dillad gwirion a chredu celwydd amlwg. Mae'n hen bryd i Alun yr Arth roi stop ar y lol.” Hon yw’r ddeuddegfed gyfrol yn y gyfres o lyfrau llun a gair i blant bach. Daw Morgan Tomos o Gaernarfon yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Nhal-y-bont. Mae wedi ei hyfforddi fel animeiddiwr ac mae’n gweithio i wasg Y Lolfa fel hyrwyddwr llyfrau. Mae wrth ei fodd yn teithio ysgolion Cymru yn trafod ei lyfrau ac yn cynnal gweithdai.
Share
