Cyngor Llyfrau Cymru
Criw'r Coed a'r Gwenyn Coll
Criw'r Coed a'r Gwenyn Coll
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae'r wenynen yn drist. Mae hi wedi colli ei ffrindiau i gyd, felly mae'n gofyn i Griw'r Coed - Gwdi-Hw, Carwww, Mwyalchen, Eryr a Chwim yr Eog - am eu help. Llyfr lliwgar a thestun hwyliog sy'n dysgu gwers bwysig am yr amgylchedd.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The bee is sad. She has lost all her friends, so she asks the forest crew - Owl, Deer, Blackbird, Eagle and the swift Salmon - for their help. A lively text with colour illustrations that provides timely advice about the environment.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781800996090
- Gwales Code
- gwales.com.9781800996090
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Criw'r Coed a'r Gwenyn Coll
- Awdur / Author
- Glyn, Carys Haf
- Current Price ex VAT
- £6.99
- Current Price inc VAT
- £6.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2024-06-25
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Jên, Ruth
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 32 pages
- Size
- 228 × 232 mm; depth 5 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae’r amgylchedd ac effaith andwyol dynoliaeth arno yn dipyn o bwnc llosg ers rhai blynyddoedd bellach. Mae’n bwnc, wrth gwrs, sy’n effeithio ar bawb felly mae’n braf gweld llyfr stori-a-llun ar gyfer plant ifanc yn mynd i’r afael â’r pwnc hollbwysig hwn, a hynny mewn modd hynod drawiadol a lliwgar. Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll yw llyfr gwreiddiol cyntaf Carys Haf Glyn, un sydd â’i bryd ar feithrin cariad plant at lyfrau. Mae’r bartneriaeth rhwng ei geiriau hi a lluniau blodeuog hynod a digon annisgwyl Ruth Jên – o gofio arddull unigryw arferol yr arlunydd o Dal-y-bont – yn creu cyfanwaith trawiadol. Stori am griw o anifeiliaid arbennig iawn sydd yma – criw sy’n cael ei adnabod fel Criw’r Coed, gan gynnwys Gwdi-Hw, Carwww, Mwyalchen, Eryr ac eog o’r enw Chwim. Yn ôl y sôn, nhw yw anifeiliaid hynaf y byd, a’u gwaith yw amddiffyn byd natur hyd eithaf eu gallu. Ar ddechrau’r stori, lladd amser y maen nhw wrth ddisgwyl am gyfle i gael helpu rhyw anifail mewn trybini. Ond ymhen hir a hwyr, daw galw am eu gwasanaeth yng Nghymru, wrth i wenynen fach ddod ar neges i geisio eu cymorth i ddod o hyd i’w ffrindiau, sef y gwenyn eraill, sydd wedi diflannu. A dyna ddechrau ar antur wrth i Griw’r Coed hel eu pac am Gymru i geisio dod o hyd i’r gwenyn. Daw cyfle wedyn i’r awdur dynnu sylw at bwysigrwydd gwenyn o safbwynt byd natur, a maint y golled pe baent yn diflannu’n llwyr o’n bywydau. Ond yn hytrach na bod y pwnc yn cael ei gyflwyno mewn modd trwm a llethol, mae yma gryn dipyn o hiwmor o safbwynt y cymeriadu a’r lluniau, ac mae'r cyfan yn sicrhau fod hwn yn llyfr apelgar. O ran diwyg, mae’r gyfrol wedi ei gosod yn hyfryd, gydag amrywiaeth ym maint y ffont er mwyn pwyslais fan hyn a fan draw, gan ei gwneud hi’n haws i unrhyw oedolyn gynnal diddordeb plentyn wrth ddarllen yn uchel. Ceir yma hefyd gyfuniad o ryddiaith, deialog ac ambell bennill mewn mydr ac odl, sy’n fodd o yrru’r stori yn ei blaen yn hyfryd. Mae’r geiriau a’r gwaith celf yn eich denu i droi i’r dudalen nesaf yn ddigon diymdrech, ac mae’r cyfuniad o luniau prysur a thawel yn gwneud hon yn gyfrol hynod ddeniadol. Dyma stori gyfoes a chynnes dros ben, a chyfrol werth ei phrynu pe bai ond am y llun crafog ar y dudalen olaf!
Share
