Cyngor Llyfrau Cymru
Corn Gwlad - Camu Tua'r Bae / Slouching Towards Cardiff Bay (Traethawd/Essay 1)
Corn Gwlad - Camu Tua'r Bae / Slouching Towards Cardiff Bay (Traethawd/Essay 1)
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Corn Gwlad yr Orsedd sy'n galw'r Beirdd a'r bobl at ei gilydd, ac yn cyhoeddi seremonïau'r Orsedd i Gymru ac i bedwar ban byd. Cenadwri debyg sydd gan ein Corn Gwlad ni - ond geiriau a syniadau yw neges y gyfres newydd yma, nid nodau cerddorol.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Y Corn Gwlad is the Welsh horn, a ceremonial instrument that trumpets out its public proclamations. It announces. Corn Gwlad does the same, substituting words for notes, sharing new ideas, sometimes acting as a clarion call.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781068298769
- Gwales Code
- gwales.com.9781068298769
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Corn Gwlad - Camu Tua'r Bae / Slouching Towards Cardiff Bay (Traethawd/Essay 1)
- Awdur / Author
- Clifford, Desmond
- Current Price ex VAT
- £10.95
- Current Price inc VAT
- £10.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2026-03-10
- Cyhoeddwr / Publisher
- H'mm Foundation
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 116 pages
- Size
- 135 × 200 mm; depth 12 mm
- Language Code
- Welsh; English
- Categori / Category
- CY: Ysgrifau a Sgyrsiau (yn Gymraeg) | EN: Essays and Talks (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ysgrifau (yn Gymraeg) | EN: Essays (in Welsh)
- FSC Status
- No FSC or PEFC logo/certification declared
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Roedd Desmond Clifford yn newyddiadurwr i'r BBC cyn dod yn was sifil ym 1997 ychydig cyn y refferendwm ar ddatganoli Cymru. Gweithiodd yn y Swyddfa Gymreig fel Pennaeth Newyddion nes i ddatganoli ddod i rym ym 1999. O hynny ymlaen tan 2025 bu'n gweithio i Lywodraeth Cymru. Cafodd ei anfon i Frwsel fel penodiad diplomyddol cyntaf Llywodraeth Cymru yn 2000 i agor swyddfa Undeb Ewropeaidd. Dychwelodd i Gaerdydd fel Prif Ysgrifennydd Preifat i'r Prif Weinidog, Cyfarwyddwr Swyddfa'r Prif Weinidog a Chyfarwyddwr Cyffredinol Brexit, ac aelod o Fwrdd Llywodraeth Cymru. Ymddeolodd o Lywodraeth Cymru yn 2025.
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Desmond Clifford was a journalist for the BBC before becoming a civil servant in 1997 just ahead of the referendum on Welsh devolution. He worked at the Welsh Office as Head of News until devolution took effect in 1999. From then until 2025 he worked for the Welsh Government. He was sent to Brussels as the Welsh Government’s first diplomatic appointment in 2000 to open a European Union office. He returned to Cardiff as long-serving Principal Private Secretary to the First Minister, Director of the First Minister’s Office and Director-General for Brexit, and member of the Welsh Government Board. He retired from the Welsh Government in 2025.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Rydym ni am gomisiynu traethodau dwyieithog pwrpasol fydd yn codi cwestiynau bachog am bynciau dadleuol y dydd. Efallai fod cwestiynau eraill yn deilwng o sylw hefyd, ac yn sicr nid ydym am honni taw yn Corn Gwlad fydd yr unig syniadau sy'n werth eu gwyntyllu. Cyfrannu syniadau newydd ar gyfer y dyfodol yw ein nod, gan obeithio cael golwg newydd am ffyrdd gwahanol i fyw fel gwlad yn y byd sydd ohoni. Mewn gwlad ddemocrataidd, bydd gofyn i’w dinesyddion feddwl o ddifrif, a barnu'r gwahanol bleidiau gwleidyddol a’r hyn a gynigiant â gofal arbennig. Camu tua'r Bae yw teitl y traethawd cyntaf yn y gyfres, yn cyflwyno golwg ar gyfnod cyntaf Datganoli, yn ogystal ag ar ddyfodol y Senedd pan ddaw’r diwygiadau diweddar i rym yn 2026. Cyfeirio mae'r teitl at gerdd W. B. Yeats, The Second Coming, lle mae'r bardd fel pe'n darlunio rhyw greadur grymus yn cychwyn tuag atom, er gwell neu er gwaeth, o bellafoedd yr anialwch.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
This series of specially commissioned bilingual essays aims to throw some pebbles into the water in search of ideas. They won't have all the answers, or even the right questions, but they attempt to contribute thoughts for a future Wales and imagine things being done differently. Democracy needs citizens to think and to make critical judgments about politics, political parties and what they offer. This series aims to help with that. This first essay, Slouching Towards Cardiff Bay, reflects on devolution's first era and looks ahead to some of the challenges as devolution moves into its second era beyond the Senedd reform of 2026. The title references the WB Yeats poem The Second Coming; the poet recognises a coming crisis symbolised by a beast stirring in the desert, and choices facing mankind for good or ill.
Share
