Cyngor Llyfrau Cymru
Cofiant Mabon — Eilun Cenedl y Cymry a'r Glowyr
Cofiant Mabon — Eilun Cenedl y Cymry a'r Glowyr
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cofiant i William Abraham (1842-1922), arwr teuluoedd glofaol, arloeswr Undebau Llafur, Aelod Seneddol y Rhondda o 1885 i 1922 ac arweinydd pwerus o'r enw Mabon ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol. Y mae'r gyfrol hon yn gyflwyniad teg, difyr o ddyn tlawd a ddaeth yn gysurus o gyfoethog ond a gadwodd yn ffyddlon i'w egwyddorion.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A biography of William Abraham (1842-1922), a miners' household hero, Trade Union pioneer, Member of Parliament for Rhondda from 1885 to 1922 and a powerful National Eisteddfod leader in the name of Mabon. This volume is a fair, entertaining presentation of a poor man who became comfortably rich but kept faithful to his principles.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781739337308
- Gwales Code
- gwales.com.9781739337308
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cofiant Mabon — Eilun Cenedl y Cymry a'r Glowyr
- Sub Title
- Eilun Cenedl y Cymry a'r Glowyr
- Awdur / Author
- Rees, D Ben
- Current Price ex VAT
- £15.00
- Current Price inc VAT
- £15.00
- Availability Status (EN)
- Temporarily out of stock
- Availability Status (CY)
- Allan o stoc dros dro
- Dyddiad argaeledd / Availability Date
- 2023-06-13
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2023-06-13
- Cyhoeddwr / Publisher
- Cyhoeddiadau Modern / Modern Welsh Publications Ltd.
- Media Type (EN)
- Hardback
- Media Type (CY)
- Clawr caled
- Pages
- 364 pages
- Size
- 128 × 194 mm; depth 10 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Bywgraffiadau a Chofiannau (yn Gymraeg) | EN: Biographies (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Bywgraffiadau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Biographies - Male (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae D Ben Rees wedi cyhoeddi nifer o lyfrau gan gynnwys Mahatma Gandhi (1970), James Griffiths (2014), Cledwyn Hughes (2017), Aneirin Bevan (2000) a Gwilym Prys-Davies (2022). Mae'n awdur toreithiog ers ei gyfnod fel myfyriwr yn Aberystwyth ac wedi llunio 30 o gyfrolau ar Gymry Lerpwl a'r Cyffiniau.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Roedd gan William Abraham (1842–1922), neu 'Mabon', o roi iddo'r enw barddol a ddefnyddid yn arbennig ar lwyfannau'r Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd lawer, rôl ganolog ym mywyd diwydiannol a gwleidyddol cymoedd de Cymru am ddegawdau. Er hyn, y cofiant cyflawn olaf iddo oedd gwaith E. W. Evans, arbenigwr ar hanes maes glo de Cymru ac undebaeth lafur yno ar y pryd, a hynny yn Saesneg yn 1959. Croesawn, felly, gyfrol newydd, helaeth y Dr D. Ben Rees, a luniodd y cofiant hwn union ganrif ar ôl marwolaeth Mabon, a hynny mewn cyfnod pan oedd y gwrthrych wedi mynd yn angof i raddau helaeth ymhlith y Cymry. Fel sydd yn amlwg o'r llyfryddiaeth lawn, ymchwiliodd yr awdur yn fanwl i gywain deunydd ar gyfer y cofiant cynhwysfawr hwn. O fewn y penodau cynnar cawn gyfle i ddarllen manylion dadlennol am fagwraeth Mabon yng Nghwmafan, â'i fam weddw yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd am flynyddoedd lawer. Oherwydd tlodi enbyd ar yr aelwyd, nid oedd dewis gan y mab ond i fynd i weithio i'r pwll glo pan oedd yn ddeg oed. Roedd yr amodau gwaith yn eithriadol galed yn ystod y cyfnod hwnnw, ac yn gynnar iawn yn ei yrfa datblygodd Mabon yr awydd i sefyll dros rai o'i gydweithwyr oedd, yn ei farn ef, yn cael cam gan y rheolwyr glo hunanol. Oherwydd ei gyfraniad yn y maes hwn, nid oedd modd i Mabon barhau i weithio o fewn y pyllau glo lleol. Yn 1861 priododd â Sarah, merch gof Cwmafan, a chael chwech o blant. Bu hi farw'n gynamserol yn 1900. Ers iddo fod yn fachgen, roedd Mabon yntau yn Fethodist Calfinaidd pybyr gyda llais tenor gwych iawn. Yn 1857 dewiswyd ef yn flaenor y gân yng nghapel MC y Tabernacl, ac ym mhennod 12 cawn gyfle i ddarllen am gyfraniad Mabon fel 'capelwr selog', di-ildio ar hyd ei oes ac fel un oedd hefyd yn hynod driw ei gefnogaeth i eisteddfodau cenedlaethol a lleol fel ei gilydd. Oherwydd ei gorff cadarn a'i lais cryf daeth yn enwog fel arweinydd yn eisteddfodau diwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif. Dyna'r cyfnod yr oedd tyrfaoedd mawrion yn tyrru i'r eisteddfodau, a swynodd Mabon hwy â’i lais tenor clir. I geisio adfer ei yrfa, mentrodd Mabon i Chile yn Ne America, ond ofer fu'r ymgais ffôl hwnnw. Dychwelodd adref a sicrhau swydd ym mhwll glo Waunarlwydd. Chwaraeodd ran bwysig yn sefydlu'r undeb sef yr Amalgamated Association of Miners ac yn fuan derbyniodd swydd llawn amser fel swyddog undeb, gan symud i fyw yn y Rhondda. Enillodd barch aruthrol yn lleol, yn fwyaf arbennig ymhlith y glowyr, oherwydd ei allu i setlo pob anghydfod neu anghydweld heb orfod troi at streic, a hynny'n ymestyn o anghydfod 1885 hyd at streic Tonypandy 1910–12. Ef oedd llywydd y glowyr ar y Joint Sliding Scale Association o 1875 hyd ei ddiwedd yn 1903. Ni weithiai'r glowyr ar ddydd Llun cyntaf y mis o 1892 i 1898, er mwyn cwtogi cynnyrch a sefydlogi cyflogau. Galwyd y dydd hwn yn 'Ddiwrnod Mabon'. Yn sedd etholaethol newydd y Rhondda etholwyd Mabon ar 3 Rhagfyr 1885. Daliodd i gynrychioli'r etholaeth honno am 35 o flynyddoedd, gan fabwysiadu'r label gwleidyddol 'Lib-Lab' yn y man ac yna ymuno â'r Blaid Lafur. Mabon oedd yr aelod cyntaf o'r dosbarth gweithiol i gynrychioli etholaeth yng Nghymru yn y senedd. Enillodd statws byd-eang, a hwyliodd i'r Unol Daleithiau yn 1901 ac yn 1905 lle derbyniodd groeso tywysogaidd, eithriadol o gynnes gan y brodorion. Arwydd o'r parch enfawr oedd iddo oedd y gwahoddiad a dderbyniodd i ymuno â'r Cyfrin Gyngor yn 1911. Yn ystod cyfnod cynnar y Rhyfel Mawr daeth Mabon, a fu'n heddychwr brwd drwy gydol y blynyddoedd, yn dipyn o 'ryfelgi', yn rhannol er mwyn plesio Lloyd George, eilun y genedl ar y pryd. Roedd yn gyfrifol am anfon 40,000 o lowyr i faes y gad – mwy na'r Dr John Williams, Brynsiencyn, hyd yn oed. Ac yn ystod y rhyfel daeth William Abraham yn ŵr eithriadol o gefnog. Pan fu farw ym Mai 1922, yn 79 mlwydd oed, gadawodd £38,000 yn ei ewyllys (tua hanner miliwn o bunnoedd yn ôl arian heddiw), er syndod i nifer o'i gyfeillion a'i ddilynwyr. Cofir amdano'n bennaf heddiw oherwydd ei gyfraniad aruthrol fel arweinydd yr undebau llafur yn hytrach na fel gwleidydd proffil uchel amlwg.
Share
