Cyngor Llyfrau Cymru
Coeden Cadi
Coeden Cadi
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae Cadi'n hoffi dringo coed, ond un diwrnod caiff ei chwythu i Wlad yr Enfys lle mae hi'n gorfod dysgu gwers bwysig. Mae stori arbennig yr awdures boblogaidd Bethan Gwanas a lluniau hyfryd Janet Samuel yn addas ar gyfer plant 5-8 oed.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Cadi loves climbing trees, but one day she gets blown away to Rainbow Land and has to learn a valuable lesson. This special story by popular author Bethan Gwanas with lovely illustrations by Janet Samuel is suitable for children aged 5-8 years old.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784612252
- Gwales Code
- gwales.com.9781784612252
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Coeden Cadi
- Awdur / Author
- Gwanas, Bethan
- Current Price ex VAT
- £5.99
- Current Price inc VAT
- £5.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2015-11-10
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Samuel, Janet
- Media Type (EN)
- Hardback
- Media Type (CY)
- Clawr caled
- Pages
- 44 pages
- Size
- 210 × 210 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Bethan Gwanas yn awdur profiadol ac wedi ennill nifer o wobryon ac anrhydeddau am ei gwaith ysgrifennu i blant 9+, i'r arddegau ac i oedolion. Dyma ei llyfr cyntaf ar gyfer plant bach.
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Bethan Gwanas is an acclaimed author, having won several awards and honours for her writing for children aged 9+, young people and adults. This is her first book for young children.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma stori wreiddiol ar gyfer plant sydd wedi gwirioni ar hud a lledrith. Mae Cadi yn ein tywys i fyd y tylwyth teg, y picsis a'r corachod, creaduriaid sydd yn brysur iawn yn gofalu am yr enfys ac yn paratoi'r tywydd. Y picsis a'r corachod drwg sydd yn gorfod torri plu eira o hyd. Ond nid o fwriad yr aeth Cadi i ganol yr enfys – damwain oedd hynny. Roedd y ferch fach yn mwynhau dringo coed a siglo ’nôl ac ymlaen ar frig un goeden arbennig. Nid oedd yn gwrando dim ar ei mam a oedd yn poeni amdani. Ond siglodd gymaint ar y goeden nes cael ei thaflu fel sach o datws yn uchel i'r awyr gan lanio ar yr enfys. Mae'r cyfan yn arwain at wrthdaro efo brenhines y tylwyth teg a hithau yn dysgu gwers fach syml i Cadi a fyddai'n newid ei hagwedd at bopeth. Mae'r foeswers fach yma yn llawn cymeriadau lliwgar a digwyddiadau difyr y gall plant uniaethu â nhw. Ceir lluniau addas mewn arddull digon smala gan Janet Samuel ac y mae'r stori a'r lluniau yn creu cyfrol ddeniadol a darllenadwy. Mae Cadi yn ferch fach benderfynol a digon drygionus i apelio at y darllenydd, ond yn ddigon doniol ac agos atoch i beri i rywun wirioni ar ei chwmni hefyd. Cyfrol i'w chroesawu yw Coeden Cadi .
Share
