Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Clasuron Honno: Ffynnonloyw — Stori Tair Cenhedlaeth

Clasuron Honno: Ffynnonloyw — Stori Tair Cenhedlaeth

Regular price £12.99 GBP
Regular price Sale price £12.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Dyma'r tro cyntaf i'r clasur hwn gael ei gyhoeddi ers yr ymddangosodd gyntaf yn 1939 ac mae nawr allan o brint. Hon heb amheuaeth yw nofel fwyaf aeddfed Moelona, a gafodd gryn sylw a chanmoliaeth yn ei dydd, a gan feirniaid llenyddol cyfoes.

Disgrifiad Saesneg / English Description

This is the first time this classic has been published since it first appeared in 1939 and is now out of print. This is without a doubt Moelona's most mature novel, and has received considerable publicity and praise, both in its day and by contemporary literary critics.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781916821347
Gwales Code
gwales.com.9781916821347
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Clasuron Honno: Ffynnonloyw — Stori Tair Cenhedlaeth
Sub Title
Stori Tair Cenhedlaeth
Awdur / Author
Jones), Moelona (Elizabeth Mary
Current Price ex VAT
£12.99
Current Price inc VAT
£12.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2025-06-05
Cyhoeddwr / Publisher
Honno
Editor
Gramich, Katie
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
208 pages
Size
129 × 198 mm; depth 8 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: 20fed Ganrif (yn Gymraeg) | EN: 20th Century (in Welsh)
FSC Status
No FSC or PEFC logo/certification declared

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Moelona (Elizabeth Mary Jones, Owen gynt 1878-1953) Ganed Moelona yn Rhydlewis, Ceredigion, yr ieuengaf o 13 o blant. Difethwyd ei gobeithion am addysg prifysgol pan fu farw ei mam a bu raid iddi hi aros gartref i ofalu am ei thad, ond yn ddiweddarach daeth yn athrawes. Ym 1917 priododd J. Tywi Jones, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yng Nghwmtawe a golygydd Tarian y Gweithiwr. Symudasant i Gei Newydd ble bu farw ym 1955. Mae y rhan fwyaf o ddarllenwyr cyffredin yn cofio amdani fel awdur y nofel boblogaidd, Teulu Bach Nantoer, stori i blant. Fodd bynnag, gobeithiwn bydd cyhoeddi Ffynnonloyw, ei nofel fwyaf aeddfed, yn ailsefydlu ei statws cynharach fel nofelydd adnabyddus ac addysgwraig gyda diddordeb arbennig mewn hybu'r Gymraeg a ffeminyddiaeth drwy ei llyfrau niferus i oedolion yn ogystal â phlant.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Nofel tair rhan am deulu tlawd o naw o blant a fagwyd ar fferm Ffynnonloyw yn ne Ceredigon yw hon o’r 1880au hyd ganol y 1920au; y fam yn eilun yr aelwyd a’r tad yn wynebu heriau difrifol wrth geisio talu am addysg (Seisnig) i’w plant. Trwy gyfrwng portreadau o lawenydd a galar, malais a chenfigen a llawer o ddigwyddiadau cythryblus rydym yn dod i adnabod cymeriadau a chymdogion lliwgar, drwg a da, sy’n gwneud y stori mor ddifyr i’w darllen. Y prif gymeriad yw Nan uchelgeisiol, sy’n dod yn athrawes mewn tref o’r enw Penywaun, cyn symud i fyw gyda’i chwaer Mimi a’i brawd Defi Henry i ddinas Caeresgob (Caerdydd mae’n debyg). Portreadir daliadau Moelona ei hunan drwy droeon bywyd Nan sy’n ymgolli’n llwyr yn niwylliant Cymru ac sy’n datblygu diddordeb mawr yn adfywiad y Gymraeg mewn ymateb i’r dirmyg cyffredinol yr adeg honno tuag at ei mamiaith. Telir llawer o sylw hefyd i’r ymgyrch dros bleidlais i fenywod; mae Nan yn mynychu Eisteddfod Genedlaethol Llundain (1909) ac yn dyst i’r cyffro’n dilyn ymyriad y swffragét yn araith Lloyd George. Er ei bod wedi dyweddïo ậ’r Parchedig Harry Herbert, mae’n dod ậ’r berthynas i ben am ei fod ef yn gyndyn yn erbyn rhyddid i fenywod. Pwnc sy’n dangos parodrwydd Moelona i drafod materion a osgoir gan lawer o’i chyd-awduron yw genedigaeth Iolo, plentyn anghyfreithlon Marged, chwaer hŷn Nan a gafodd ei haddysg ‘bant’. Datblygiad sy’n codi ael wedi hyn yw priodas Marged, deunaw oed, ag Isaac Ifans, diacon bump a thrigain mlwydd sy’n mabwysiadu ei mab. Yn y bennod olaf, lle mae Iolo, oedolyn erbyn hyn, yn annerch cynulleidfa yng nghapel Seilo, ceir digwyddiad dramatig, ac fe ddaw pawb o’r diwedd i wybod yr ateb i brif ddirgelwch y nofel – pwy yw/oedd tad Iolo? Golygydd ac awdur y Rhagymadrodd: Katie Gramich Mae'r Athro Katie Gramich yn gyfieithydd ac academydd, yn wreiddiol o Rydlewis, Ceredigion. Fel y golygydd ac awdur y 'Rhagymadrodd' i Ffynnonloyw, Clasur Cymraeg diweddaraf Honno, mae wedi cyfrannu unwaith eto at y gwaith o ail-ddarganfod awduron benywaidd o Gymru sydd wedi eu hesgeuluso neu eu hanghofio. Astudiodd mewn prifysgolion yng Nghymru, Lloegr, Sbaen a Chanada. Mae wedi bod yn feirniad ar gyfer Gwobr Stephen Spender am Gyfieithu Barddoniaeth ac mae wedi cyfieithu nifer o weithiau gan awduron Cymraeg i'r Saesneg. Mae'r rhain yn cynnwys Kate Roberts, Gwerful Mechain, R.S. Thomas a Llŷr Gwyn Lewis. Mae Katie nawr wedi ymddeol ac yn byw yn Aberystwyth.

View full details