Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Clasuron Honno: Cyfrinachau

Clasuron Honno: Cyfrinachau

Regular price £10.99 GBP
Regular price Sale price £10.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nod y llyfr hwn yn y gyfres Clasuron Cymraeg Honno yw cyflwyno i'r cyhoedd nofel anghyhoeddedig Eluned Phillips, 'Cyfrinachau', ynghyd â'r gerdd a ddaeth yn ail i'w cherdd arobryn hi ei hun ar gyfer cystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 1967.

Disgrifiad Saesneg / English Description

This title in the series Clasuron Cymraeg Honno is the first publication of an unpublished novel by Eluned Phillips, 'Cyfrinachau', together with the poem placed second to her prizewinning poem in the 1969 National Eisteddfod Crown competition.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781912905416
Gwales Code
gwales.com.9781912905416
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Clasuron Honno: Cyfrinachau
Awdur / Author
Phillips, Eluned
Current Price ex VAT
£10.99
Current Price inc VAT
£10.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-07-08
Cyhoeddwr / Publisher
Honno
Editor
Elfyn, Menna
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
176 pages
Size
123 × 186 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Yn 2018, pan greodd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru restr o 100 o Fenywod Cymru i nodi canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918, yr oedd enw Eluned Phillips (1914-2009), o bentref Cenarth yn ne Ceredigion, ymhlith yr hanner cant o fenywod o'r gorffennol a ddewiswyd oherwydd ei bod wedi cael ‘cryn effaith ar fywyd yng Nghymru'. Clodforwyd hi gan y Rhwydwaith fel 'yr unig fenyw i ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith', ond gwyddom erbyn hyn ei bod hefyd wedi ysgrifennu nifer o gerddi, dramâu a nofelau na chafodd eu cyhoeddi erioed.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Nofel yw hon sy’n gweld golau dydd am y tro cyntaf, yn seiliedig ar berthynas Eluned Phillips yr awdur â Per, Llydäwr ifanc y cyfarfu ag ef pan oedd yn byw ym Mharis ar drothwy’r Ail Ryfel Byd. Ni wyddys faint o’r digwyddiadau sy’n wir a faint sy’n gynnyrch creadigrwydd a dychymyg yr awdur, ond gwyddom ei bod wedi rhoi lloches i nifer o Lydawyr a gyhuddwyd o gydweithio gyda’r Almaenwyr yn ei chartref yng Nghenarth. Mae Yann ar gychwyn y nofel yn garcharor yn Llydaw am iddo, yn rhinwedd ei swydd fel newyddiadurwr, gael ei weld yn cymdeithasu ag Almaenwr. Mae Tegwen, ei gariad, wedi dychwelyd at ei mam i’w fferm fechan yng ngorllewin Cymru. Un dydd daw André, ffrind Yann â’r newydd trychinebus bod Yann mewn carchar yn Llydaw yn aros i gael ei ddedfrydu fel bradwr a’i ddienyddio. O hyn ymlaen mae pethau’n symud yn gyflym gyda Tegwen ac André’n dychwelyd i Lydaw i gynllunio sut i helpu Yann i ffoi o’r carchar. Cyn diwedd y stori lawn cariad a chasineb, teyrngarwch a brad, cenfigen a gwewyr, awn o Lydaw i Gymru i Iwerddon a’r America. Dyma gyfres o brofiadau sy’n codi gwallt y pen, ac o ddiddordeb arbennig hyd heddiw, gan i gymaint o Lydawyr mewn bywyd go iawn ddioddef yr un fath o erledigaeth. Dyma drysor o glasur, ac yn dilyn y nofel cyhoeddir am y tro cyntaf erioed drysor arall, sef y gerdd ‘Corlannau Bywyd: La Môme Piaf’ (Llwyd Bach y Baw) am y gantores Ffrengig Edith Piaf yr oedd Eluned Phillips yn ei hadnabod yn dda, ygerdd a ddaeth yn ail i’w cherdd fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 1967.

View full details