Cyngor Llyfrau Cymru
Chwedlau'r Copa Coch: Yr Horwth
Chwedlau'r Copa Coch: Yr Horwth
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyma adargraffiad o lyfr a gafodd ei gyhoeddi yn wreiddiol yn 2019. Dyma'r nofel gyntaf mewn cyfres ffantasi newydd i bobl ifanc - ac i unrhyw un hŷn sy'n hoff o antur. Mae bwystfil yn bygwth y wlad. Creadur yn syth o ganol hunllef. Yr Horwth.
Disgrifiad Saesneg / English Description
This is a reprint of a book that was originally published in 2019. This is the first novel in a new fantasy series for young people - and for anyone older who likes adventure. A beast threatens the land. A creature straight out of a nightmare. The Horwth.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781912261758
- Gwales Code
- gwales.com.9781912261758
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Chwedlau'r Copa Coch: Yr Horwth
- Awdur / Author
- Jones, Elidir
- Current Price ex VAT
- £9.99
- Current Price inc VAT
- £9.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2026-02-05
- Cyhoeddwr / Publisher
- Atebol
- Darlunydd / Illustrator
- Aaron, Huw
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 264 pages
- Size
- 187 × 130 mm; depth 29 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
- FSC Status
- No FSC or PEFC logo/certification declared
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
ELIDIR JONES: Awdur a sgriptiwr o Fangor yw Elidir Jones. Cafodd ei nofel gyntaf, Y Porthwll, ei chyhoeddi yn 2015. Ymhlith ei waith teledu y mae Ddoe am Ddeg, Arfordir Cymru, a Cynefin. Ers 2004, mae'n chwarae'r gitâr fas i'r band Plant Duw, ac mae'n un o sylfaenwyr y wefan fideowyth.com. Erbyn hyn mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig a'i gi mewn tŷ llawn llyfrau. HUW AARON: Mae Huw Aaron yn gartwnydd ac yn ddarlunydd o Gaerdydd. Gellir gweld ei waith mewn nifer fawr o lyfrau i blant. Mae hefyd yn cyfrannu'n rheolaidd at gylchgrawn Mellten, Private Eye, The Oldie a The Spectator.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
"Yng nghysgodion yr ogof roedd yr Horwth yn cuddio." Yr unig rai a all ei drechu yw criw bach o anturiaethwyr annisgwyl. Trwy borthladdoedd anhrefnus a choedwigoedd gwyllt, dros glogwyni serth ac ar hyd twneli wedi eu hen anghofio, mae'r llwybr yn arwain at y Copa Coch - mynydd sy'n taflu cysgod brawychus dros y tir... ac mae ei gyfrinachau mwyaf o dan yr wyneb, yn aros i'r teithwyr eu datgelu. • Llyfr wedi ei ddatblygu ar y cyd rhwng Elidir Jones a Huw Aaron • 40+ o luniau du a gwyn gan Huw Aaron • Perffaith i'r rheiny sy'n mwynhau darllen The Edge Chronicles (Paul Stewart / Chris Riddell) neu'r gyfres Redwall (Brian Jacques), neu sy'n hoff o drysor, bwystfilod ac antur.
Share
