Cyngor Llyfrau Cymru
Cerddi'r Plant - Detholiad
Cerddi'r Plant - Detholiad
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cyhoeddwyd cyfrol Cerddi'r Plant gan Waldo Williams ac E. Llwyd Williams am y tro cyntaf ym 1936 gan Wasg Aberystwyth. Mae'r argraffiad newydd hwn yn dathlu'r cyhoeddiad gwreiddiol trwy uwcholeuo 29 o'r cerddi gorau. Mae 16 cerdd gan Waldo Williams, gan gynnwys 'Byd yr Aderyn Bach' nad oedd yn y llyfr gwreiddiol, a 13 o gerddi gan E. Llwyd Williams.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Cerddi'r Plant by Waldo Williams and E. Llwyd Williams was first published in 1936 by Gwasg Aberystwyth. This new edition celebrates the original publication by highlighting 29 of the best poems, with 16 by Waldo Williams, including 'Byd yr Aderyn Bach' which was not in the original book, and 13 poems by E. Llwyd Williams.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781785622915
- Gwales Code
- gwales.com.9781785622915
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cerddi'r Plant - Detholiad
- Awdur / Author
- Williams, Waldo; Williams, E. Llwyd
- Current Price ex VAT
- £9.99
- Current Price inc VAT
- £9.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2019-09-26
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Editor
- Hopwood, Mererid
- Darlunydd / Illustrator
- Morris, D.J.
- Media Type (EN)
- Hardback
- Media Type (CY)
- Clawr caled
- Pages
- 56 pages
- Size
- 138 × 216 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma drysor. Wir i chi, rydw i’n teimlo mod i wedi gafael mewn rhywbeth gwerthfawr, mewn cyfrol sy’n perthyn i mi, a dwi’n sicr y gwnewch chithau deimlo’r un peth. Mae rhagymadrodd Mererid Hopwood yn fendigedig. Nid yn unig mae’n eich tynnu chi’n syth i naws y gyfrol ac yn gwneud i chi deimlo fel plentyn sydd ar fin cael gwybod cyfrinach, ond mae hefyd yn rhoi cyfarwyddiadau annwyl i chi am sut i fynd ati i fwynhau darllen cyfrol o gerddi, beth bynnag yw’ch oedran. Ond beth yw naws y gyfrol? Rhywbeth hen ffasiwn yn sicr, ond nid rhywbeth negyddol mo hynny, hen ffasiwn hyfryd sy’n rhyfeddol o gartrefol yn yr oes hon. Mae cerddi Waldo Williams ac E. Llwyd Williams wedi eu gosod bob yn ail sy’n rhoi egni yn y daith wrth ddarllen o glawr i glawr. Rydych chi’n dod i adnabod lleisiau’r beirdd. Maen nhw’n gerddi amrywiol o ran eu cynnwys ond fe deimlwch chi fwynhad E. Llwyd Williams wrth ail-greu synau chwareus byd plentyn. Yna, fe gewch chi’ch llorio gan ddelweddu syml ond treiddgar Waldo. Yr hyn sy’n gweithio mor hynod yw’r ffordd mae’r gyfrol yn croesi cenedlaethau. Mae ambell gerdd fel ‘Gweithio’ gan Waldo yn mynd i deimlo’n ddieithr i blant yr oes yma, ond mi ddaw â phlentyn mewnol aelod hynaf y teulu i’r wyneb, dwi’n siŵr. Ro’n i’n dychmygu fy hun, fy mam a fy nhaid yn gallu cyd-ddarllen y gyfrol yma gyda fy merch fach dros y blynyddoedd, a phawb yn teimlo eu bod nhw’n perthyn ac yn uniaethu â hi. Mae ’na eirfa a bywgraffiadau’r beirdd a’r arlunydd yng nghefn y gyfrol. Er nad o’n i’n teimlo mod i angen eu darllen yn syth, ro’n i’n falch eu bod nhw yno. Dwi’n teimlo y bydd y gyfrol yma’n tyfu efo’n teulu bach ni ac y bydd hi’n cael ei bodio droeon dros y blynyddoedd.
Share
