Cyngor Llyfrau Cymru
Celwydd Oll
Celwydd Oll
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cyfrol ddifyr o straeon cyfoethog a chynnil sydd i gyd wedi eu hysbrydoli gan ddigwyddiad go iawn - boed hynny yng Nghymru neu mewn gwlad arall.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A volume of short stories which is a master class in subtle and yet powerful writing. The stories have all been inspired by real life events.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781912173105
- Gwales Code
- gwales.com.9781912173105
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Celwydd Oll
- Awdur / Author
- Northey, Sian
- Current Price ex VAT
- £8.00
- Current Price inc VAT
- £8.00
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2018-09-19
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg y Bwthyn
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 160 pages
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Straeon Byrion (yn Gymraeg) | EN: Short Stories (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Roedd gan Sian Northey fwriad penodol wrth fwrw ati i lunio’r gyfrol hon, sef yn gyntaf, creu cyfrol o straeon oedd yn seiliedig ar ddigwyddiadau hanesyddol, ac yn ail, llunio straeon am bobl. Ond os mai byd hanes yw’r gwir a’i sbardunodd i ysgrifennu, ffrwyth ei dychymyg disglair iawn yw Celwydd Oll . Ond does dim angen i chi fod yn hanesydd o fath yn y byd i allu mwynhau’r perl hwn. Dyma gyfrol foethus o ran y modd cysurlon a thawel y mae’n denu’r darllenydd i mewn i bob stori. Awdur agos-atoch sydd yma o’r cychwyn cyntaf, ac er ei bod yn tynnu mantell amryw o gymeriadau gwahanol amdani a’i bod yn eich llorio’n llwyr gyda’r lleoliadau a’r troeon yn y straeon gwahanol, mae ei dawn dweud gynnil a’i llais tyner yn gysur drwyddi draw. Cefndir digon brawychus sydd i’r stori gyntaf, ‘Blodau mân y morfa’, sy’n adrodd hanes trasiedi gymdeithasol erchyll yn ardal Penrhyndeudraeth, ochr yn ochr â thrasiedi bersonol Menna a’i gŵr – trasiedi’r dioddef tawel a fu’n cyniwair rhyngddyn nhw ers blynyddoedd. Mae’r ugain o straeon eraill yr un mor afaelgar, wrth sôn am anghyfiawnder, rhagrith, twyll a cham, dioddefaint a gwallgofrwydd rhyfel a’r byd o’n cwmpas. Trasiedi rhyfel sydd wrth wraidd y stori gyfareddol ‘Sawl math o fam sydd?’ sydd, ar yr olwg gyntaf, yn cymharu profiadau cyferbyniol ond hynod stoïcaidd dwy fam sydd â’u meibion yn brwydro yn y rhyfel ond sydd, yn y bôn, yn tanlinellu’r dioddefaint eithafol y bu’n rhaid i gymaint o deuluoedd ei wynebu yn sgil hynny. A does dim geiriau i gyfleu’r dioddefaint a ddisgrifir yn y stori ‘Geiriau’, sydd eto’n mynd â ni i fyd y Rhyfel Byd Cyntaf a brad crefyddwyr yr oes a lwyddodd i sicrhau fod cynifer o’n bechgyn ifanc ni’n ymuno â'r brwydro. Ond er mai digwyddiadau o fyd hanes yw sbardun pob un o’r straeon yn y gyfrol hon, mae’n rhyfeddol mor berthnasol y mae cynifer ohonyn nhw o safbwynt ein bywydau ni heddiw. Ymdrinnir â thrais a thrawsrywedd, gwleidyddiaeth, hawliau sifil a salwch meddwl, ond eto’n gynnil iawn, yn hytrach nag mewn modd ymwthiol. Ac er mai neges waelodol yr awdur, am wn i, yw nad ydyn ni wedi dysgu oddi wrth gamgymeriadau’r gorffennol, mae’r rebel ynddi’n ceisio ein hannog i ystyried sefyllfa’r byd o’n cwmpas a chodi llais, yn hytrach na dioddef yn dawel, fel y gwnaeth cynifer dros y canrifoedd ym mhob cwr o’r byd. Does bosib y gall popeth fod yn gelwydd oll? Heb os, mae Sian Northey yn awdures feistrolgar a chrefftus. Dyma gyfrol hynod ddarllenadwy a phwerus sy’n haeddu ei lle ar unrhyw silff lyfrau.
Share
