Cyngor Llyfrau Cymru
Cath y Siop Lyfrau
Cath y Siop Lyfrau
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Croeso i siop lyfrau HYNOD IAWN! Mae'n lle llawn straeon, sawl antur ac, wrth gwrs, dyma gartref cath go arbennig. Mae'n stori am sut y daeth y Siop Llyfrau Plant yn lle prysur, llawn egni, diolch i deulu o gathod, cynllun gwych, a silffoedd di-rif o lyfrau. Dewch i mewn! Addasiad Cymraeg o The Bookshop Cat .
Disgrifiad Saesneg / English Description
Welcome to a VERY UNUSUAL bookshop for children. It's brimming with stories, adventures and a very special cat! We learn how the Children's Bookshop became a hive of activity and energy, thanks to a family of cats, a great layout and loads of bookshelves. Come in! A Welsh adaptation of The Bookshop Cat .
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784231781
- Gwales Code
- gwales.com.9781784231781
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cath y Siop Lyfrau
- Awdur / Author
- Wume, Cindy
- Current Price ex VAT
- £6.99
- Current Price inc VAT
- £6.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-06-04
- Cyhoeddwr / Publisher
- Dref Wen
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 32 pages
- Size
- 270 × 228 mm; depth 3 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Rhwng y cyfnod clo a phopeth arall, mae hi wedi bod yn flwyddyn a hanner, ac mae’n siŵr fod ’na lawer ohonom sy’n dyheu am gael mynd ar wyliau dramor unwaith eto. Ond er hyn i gyd, rydan ni’n ffodus fod gennym lyfrau anhygoel i’n diddori ni yn y cyfamser – heb orfod gosod troed ar awyren! Mae llyfrau yn bethau rhyfeddol – dim ond darnau o bapur wedi eu rhwymo gyda’i gilydd ydyn nhw, ond eto, mae ganddyn nhw bŵer aruthrol i fynd â chi i unrhyw le yn y byd (a thu hwnt!) Dyna yw neges graidd y llyfr lliwgar a difyr hwn gan artist ifanc o’r enw Cindy Wume o Taiwan. Yn wahanol iawn i aelodau eraill ei theulu, dim ond darllen sy’n mynd â bryd y gath fach ddu sydd yn y stori. Mae hi’n caru llyfrau, a darllen sydd ar ei meddwl ddydd a nos. A dach chi’n gwybod beth? Does ’na ddim o’i le gyda bod yn wahanol. Hyd yn oed os yw eich diddordebau chi’n wahanol i’ch teulu a’ch ffrindiau – dyna sy’n eich gwneud chi’n berson arbennig! Fel llawer o bobl, chwilio mae’r gath fach ddu am ei ‘swydd ddelfrydol’, a thrwy lwc, mae’r siop lyfrau leol yn chwilio am help. Wrth gwrs, nid yw bywyd yn fêl i gyd, ac un diwrnod mae rhywbeth ofnadwy yn digwydd i’r siop. Ar ôl i’r siop gael ei difetha, bydd rhaid i gath y siop lyfrau a’i chyfaill feddwl am gynllun dyfeisgar i ddod â'r cwsmeriaid a'u bwrlwm yn ôl ... Fe gawn yma gyhoeddiad amserol iawn, mewn cyfnod sydd wedi bod yn anodd i lawer o siopau bach annibynnol, gan gynnwys siopau llyfrau. Dwi ond yn gobeithio y bydd ’na ddiweddglo hapus i siopau bach y stryd fawr yng Nghymru hefyd. Tybiwn y bydd y llyfr yma’n berffaith ar gyfer cyd-ddarllen fel stori amser gwely, ac mae’n llyfr da i ddarllenwyr newydd sy’n dechrau darllen yn annibynnol. Mae Cath y Siop Lyfrau yn stori annwyl gyda lluniau sydd â gwedd glasurol a thraddodiadol iddynt. Fel y gwelwch, mae nifer o’r tudalennau yn byrlymu â lliw ac yn llawn manylion bach i sylwi arnynt wrth ddarllen. Dyma lyfr sy’n dathlu ein siopau llyfrau ac yn dangos y cyfraniad pwysig y maen nhw’n ei wneud i’n cymunedau, mewn llawer mwy o ffyrdd na gwerthu llyfrau’n unig. Rydym yn diolch o waelod calon i bob un ohonynt am eu gwaith caled yn cadw Cymru’n darllen!
Share
