Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Casglu Llwch

Casglu Llwch

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Casgliad o fyfyrdodau a thraethodau personol. Yn sbardun i bob pennod mae byd natur. Ond nid llyfr natur mohono. Wrth iddi ystyried blodau, cerrig, esgyrn, adar, cawn ein tywys ar drywydd annisgwyl i grombil ei phen. Cawn gipolwg ar ei bywyd wrth iddi rannu atgofion a chanfyddiadau, a cheisio gwneud synnwyr o'r byd a'i bethau.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A collection of meditations and personal tracts. Each chapter is spurred by nature, but this is not a nature book. As the author considers flowers, stones, bones and birds, we are drawn on unexpected routes to the depths of her mind. We are given a glimpse of her life as she shares memories and views, and tries to make sense of the world.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781800995550
Gwales Code
gwales.com.9781800995550
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Casglu Llwch
Awdur / Author
Ruth, Georgia
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2024-11-25
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
204 pages
Size
130 × 190 mm; depth 14 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Bywgraffiadau a Chofiannau (yn Gymraeg) | EN: Biographies (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Bywgraffiadau - Benyw (yn Gymraeg) | EN: Biographies - Female (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Cerddor o Aberystwyth. Enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2013 am ei halbwm cyntaf Week of Pines. Ers hynny mae wedi rhyddhau Fossil Scale (2016) a Mai (2020). Mae ganddi raglen gerddoriaeth wythnosol ar BBC Radio Cymru, lle caiff hi’r pleser o rannu recordiadau newydd ac anhygoel gan gerddorion o bob cwr i’r byd. Dyma ei chyfrol gyntaf yn y Gymraeg.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae clawr Casglu Llwch yn ein denu ni i mewn i’r naratif bron yn syth. Dyma amrywiaeth o luniau sydd, ar y cychwyn, ddim i’w gweld yn cyd-fynd â’i gilydd mewn unrhyw ffordd amlwg. Aderyn, het cowboi, cragen – beth sydd gan y rhain yn gyffredin? Fodd bynnag, dyma sut mae Georgia yn ein gwahodd ni i ganol ei bywyd hi, trwy gyflwyno adegau ac atgofion penodol, ond heb fynd ati i’w clymu nhw at ei gilydd mewn ffordd bwrpasol neu rhagnodol. Mae’r pethau y mae hi’n eu rhannu yn cael bod yn eu llefydd eu hunain; ni, y darllenwyr, sydd i benderfynu sut i gysylltu’r penodau hyn, neu i benderfynu ydyn nhw’n gysylltiedig o gwbl, neu i weld pob un fel darn unigol. Mae pobl neu adegau penodol yn cael eu trafod, ac roeddwn i’n ffeindio fy hun yn Gwglo i ddysgu mwy. Ond y darllenydd, yn hytrach na Georgia, sydd i benderfynu i ba raddau rydan ni eisiau rhyngweithio â’r llyfr. Mae sawl darn myfyrdodol yn y llyfr, ac er ei fod yn ymylu ar fod yn hunangofiant, mae ’na rhywbeth dyfnach yn y gwaith na bywgraffiad yn unig. Yn yr un ffordd ag y mae caneuon Georgia yn dweud stori sydd efallai ddim yn ei stori hi’i hun ond sydd wedi ei hysbrydoli gan ei bywyd, mae’r pytiau creadigol yn y gyfrol yn rhannu cipolwg ar fywyd Georgia – ei phryderon, ei hatgofion, y pethau mae hi’n eu dysgu wrth sgwennu’r penodau. Mae hi’n eu dangos nhw i ni, fel plentyn yn dangos carreg ddiddorol i’w riant, ond tydi hi ddim yn trio ein tywys ni at unrhyw ddatganiad pendant. Cawn ni benderfynu ydi’r garreg yn dod adra efo ni neu’n aros ar y traeth. Gwahoddiad i gerdded trwy ei bywyd a’i meddyliau hi sydd yma, yn hytrach nag unrhyw ymgais hunanesboniadol. Er iddi ddatgelu yn y llyfr ei bod hi weithiau yn teimlo’n ansicr ynglŷn â phwy ydi hi a sut mae eraill yn ei gweld hi, mae’r casgliad yn caniatáu i’r darllenydd ei ddehongli mewn ffordd greadigol a dewr. Mae’n llyfr sydd, mewn nifer o ffyrdd, yn herio esboniad. Nid oes broliant ar y cefn. Mae’r clawr yn aneglur ond yn ddeniadol ac apelgar. Mae’n gyfrol yn trafod bod yn gerddor, yn fam, ac am drio ffeindio’i lle yn hyn i gyd – ond mae hefyd am gerrig, am ffosiliau, am atgofion o’r ’90au, ac am fywyd heddiw. Mae ’na rywbeth am gantorion sydd bron yn arallfydol, yn fy marn i – o ble mae’r miwsig yn dod, sut mae nhw’n medru creu cân o ddim byd? Wrth ddarllen am Georgia yn casglu cerrig yn ei phocedi, yn poeni am sut mae eraill yn ei gweld hi, yn sgrolio a barnu tudalennau Instagram, ac am gasglu seaglass , wrth edmygu a hoffi’r lluniau a gwneud ei flatlays ei hun ar yr un pryd, mae yna rhywbeth hollol gysurus am normalrwydd ei bywyd, a’r casgliad o atgofion a meddyliau mae hi wedi dewis ei rannu â ni.

View full details