Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cariad Pur?

Cariad Pur?

Regular price £7.95 GBP
Regular price Sale price £7.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Dyma anrheg ardderchog ar gyfer Dydd Santes Dwynwen neu Ddydd San Ffolant sef cyfrol o straeon byrion i gyd yn ymwneud â chariad. Mae'n gyfuniad difyr o ramant a realiti. Yr awduron sydd wedi cyfrannu at y gyfrol ydi Tony Bianchi, Guto Dafydd, Bethan Gwanas, Eurgain Haf, Llio Mai Hughes, Bet Jones, John Gruffydd Jones, Sian Rees a Marlyn Samuel.

Disgrifiad Saesneg / English Description

What better present for that special day for Welsh lovers, St Dwynwen's Day or Valentine's Day? This volume of short stories is all about love and is an interesting mix of romance and reality. The authors who have contributed to the book are Tony Bianchi, Guto Dafydd, Bethan Gwanas, Eurgain Haf, Llio Mai Hughes, Bet Jones, John Gruffydd Jones, Sian Rees and Marlyn Samuel.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781907424656
Gwales Code
gwales.com.9781907424656
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cariad Pur?
Awdur / Author
Bianchi, Tony; Dafydd, Guto; Gwanas, Bethan; Haf, Eurgain; Hughes, Llio Mai; Jones, Bet; Jones, John Gruffydd; Rees, Sian; Samuel, Marlyn
Current Price ex VAT
£7.95
Current Price inc VAT
£7.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2014-12-10
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg y Bwthyn
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
150 pages
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Cariad. Mae’n gadael ei flas a’i farc ar bob yr un ohonon ni. Mae’n croesi cenedlaethau, cyfandiroedd ac ystrydebau – yn union fel y gwna'r gyfrol hon. Rydyn ni ar drothwy Dydd Santes Dwynwen ac mae’r gyfrol hon yn gwtsh cynnes i’w gael ar y soffa, ond ni chewch yr hyn a ddisgwyliwch. O’r cychwyn cyntaf, mae'r darllenydd yn sylweddoli nad sothach sopi sydd yma. Mewn stori am ddial mewn pentref glan-môr, sydd yn gadael blas go hallt ar eich gwefusau, mae mwy i hon na rhamant. Ceir fflyd o straeon gan naw awdur gwahanol ac maent yn cyffwrdd â chariadon ifanc a hen, a'r pellter poenus sydd rhyngddynt ar brydiau, ynghyd â chariad tragwyddol, tor cariad a’r cariad hwnnw sy’n dinistrio ffiniau. Mae’r gyfrol yn gymysgedd o gyfnodau mewn hanes. Mae’r darllenydd yn plymio i ddegawdau ac i amseroedd tra gwahanol ymhob stori, gan gynnwys elfen o gariad mewn modd cynnil ac amlwg yr un pryd. Yn 'Y Dderbynwraig', trwy gymeriad cymhleth y Parchedig Emyr Jackson, mae Guto Dafydd yn cyferbynnu cyfrifoldeb caeth a cheidwadol y capel â chwant cnawdol sy’n gallu ymylu ar ffieidd-dra, ac yna daw cariad diffuant – yn annisgwyl – i’r amlwg i orchfygu’r cwbl. Mae sawl haen i’r stori hon ac yn wir i'w phrif gymeriad, Emyr. Aiff Bethan Gwanas â ni i Gartref Henoed Bryn Dedwydd yn 'Elen, tyrd yn ôl', lle mae rhywbeth yn hyfryd, hiraethus ac yn hynod o drist a hapus wrth ddarllen am Elwyn, o’i gadair freichiau, yn gweld Elen am y tro cyntaf ers amser maith. Wrth i’w stumog chwyrlïo a’i galon lamu’n afreolus unwaith eto, ai dryswch meddwl hen ŵr sydd yma? Mae calon y darllenydd yn llamu o dosturi ac eto’n meddalu o glywed yr union beth mae Elwyn yn ei weld, ei deimlo ac yn gobeithio amdano unwaith eto, sef cariad pur. Mae’r gyfrol hon yn llwyr haeddiannol o gael ei dewis yn Llyfr y Mis gan gwmni Waterstones, un o lyfrwerthwyr mwyaf Prydain, a'r llyfr cyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg i ennill y teitl. Do, mae’r awduron hyn wedi codi eu saethau Ciwpid, wedi'u hanelu at diroedd diderfyn cariad ac wedi chwalu sawl ffin.

View full details