Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu - Argraffiad Newydd

Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu - Argraffiad Newydd

Regular price £3.99 GBP
Regular price Sale price £3.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Argraffiad diwygiedig o restr o eiriau a gamsillefir yn gyson, ynghyd ag awgrymiadau ar ysgrifennu Cymraeg cywir, gyda chanllawiau gramadeg ar gefndir gwyrdd er mwyn eglurder. Cyhoeddwyd yr argraffiad newydd hwn gyntaf yn 1997.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A revised edition of a list of Welsh words regularly spelled incorrectly, and suggestions for writing correct Welsh, with grammatical guidelines highlighted in green boxes. This new edition first published in 1997.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781859025710
Gwales Code
gwales.com.9781859025710
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu - Argraffiad Newydd
Awdur / Author
Hughes, J. Elwyn
Current Price ex VAT
£3.99
Current Price inc VAT
£3.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2016-11-15
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
64 pages
Size
168 × 118 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (yn Gymraeg) gweler hefyd Dysgwyr (yn Gymraeg) | EN: Language, Grammar and Dictionaries (in Welsh) see also Welsh Learners (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Iaith ac Ieithyddiaeth (yn Gymraeg) | EN: Language and Linguistics (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae J. Elwyn Hughes wedi diweddaru ei Canllawiau Iaith a Chymorth Sillfau (a gyhoeddwyd gyntaf yn 1984). Y canlyniad yw llawlyfr hwylus sy’n cynnig rhyw 2,500 o gyfarwyddiadau ar wahanol fathau o anawsterau iaith. Cryfder y gwaith yw ei fod wedi ei seilio ar brofiad J. Elwyn Hughes yn bennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda; mae’n gwybod yn iawn pa broblemau iaith sy’n poeni. Nid yw’n pentyrru rheolau, ond yn hytrach yn rhoi cyfarwyddiadau ac enghreifftiau ymarferol. Mae’r rhan fwyaf o’r awgrymiadau’n ymwneud â sillafu. I’r sawl sydd am ysgrifennu Cymraeg ffurfiol iawn, mae yma fôr o wybodaeth am bethau bach sy’n poeni pawb. Dylai problemau dyblu ‘n’ ac ‘r’, ble i osod acenion, pryd mae defnyddio ‘h’ o flaen ‘r’ ac ‘n’ ddiflannu. Mae’r fersiwn newydd dipyn yn fwy hwylus na’r hen. Yn lle trafod mewn tair adran, cyfunwyd y cyfan yn nhrefn yr wyddor, ac mae blychau gwyrdd yn tynnu sylw at drafodaethau ar eiriau penodol. Nid yw’r ateb i bopeth yma. Ffurfiau berfol Cymraeg ffurfiol iawn a geir yn y llyfryn, er y nodir bod ‘tuedd y dyddiau hyn i ysgrifennu’ rhai ffurfiau Cymraeg Cyfoes fel ‘maen nhw’. Gall hyn fod yn dra chymysglyd i ddisgyblion ac i rai sy’n dysgu’r iaith. Mae’n drueni, felly, wrth lunio’r diweddariad hwn, nad oes yma drafodaeth ar y ffurfiau Cymraeg Cyfoes sydd bellach yn cael eu harfer yn llawer helaethach na rhai o ffurfiau berfol diflanedig Cymraeg ffurfiol iawn. Sonnir yma’n gyson am ddefnyddio un ‘n’ o flaen ‘as’, ond pa mor aml y clywn ‘cychwynasom’? ‘Cychwynnon ni’ sy’n gyffredin bellach. I nodi rhai enghreifftiau: cawn wybod gan JEH fod ‘chwerthinais’ yn anghywir, ond hon yw’r ffurf a gynigir yn Gramadeg Cymraeg Cyfoes (Uned Iaith Genedlaethol Cymru, CBAC); ‘darganfyddais’ a nodir yn GCC , ond mae JEH yn gwrthod y ffurf hon. Mae geiriaduron safonol Cymraeg yn amrywio hefyd yn eu sillafu. Ceir ‘rhagweld’ yng Ngeiriadur yr Academi , a derbynnir hyn gan JEH. ‘Rhag-weld’ sydd yn Orgraff yr Iaith Gymraeg ac yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru . Derbynia JEH ‘lori’ a ‘lorri’ er bod OYIG yn nodi ‘lorri’. Mae J. Elwyn Hughes ei hun yn ymwybodol o’r angen am sefydlu ‘Adran Safonau Iaith’ i safoni ffurfiau. Pa radd o sancteiddrwydd y dylid ei rhoi ar orgraff iaith? Yn ddiweddar cafwyd ymdrech i symleiddio a chysoni sillafu Almaeneg, er bod rhai llenorion yn ffyrnig yn erbyn hyn. A ddaeth yn bryd i ni symleiddio orgraff y Gymraeg? Byddai gweld ‘rr’ ac ‘nn’ yn diflanu’n beth anifyr i academyddion, a byddai hyny’n anymunol i rai sy’n honi bod orgraff yn ddigyfnewid, ond byddai canoedd o ddisgyblion wrth eu bodd! Nes i hyny ddigwydd, bydd digon o alw am Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu .

View full details