Cyngor Llyfrau Cymru
Cai - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2016
Cai - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2016
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae tymor coleg newydd ar fin dechrau yn Aberystwyth, a'r myfyrwyr yn dychwelyd at eu gwaith wrth i'r dyddiau fyrhau'n araf at y gaeaf. Yn yr Ysgol Gelf, mae Cai yn ofni na fydd ganddo arian i barhau â'i ymchwil i waith yr artist meudwyaidd, Aeres Vaughan, ond daw neges annisgwyl un dydd sy'n peri iddo ailfeddwl. Nofel arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2016.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A new term is about to start at Aberystwyth University; the students will return and the days will get shorter. At the School of Art, Cai fears he has no money to continue his research into the work of the reclusive artist Aeres Vaughan, but one day he receives an unexpected message which causes him to rethink. Winner of the Literary Medal at the 2016 National Eisteddfod.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781785621758
- Gwales Code
- gwales.com.9781785621758
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cai - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2016
- Awdur / Author
- Salisbury, Eurig
- Current Price ex VAT
- £8.99
- Current Price inc VAT
- £8.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2016-08-03
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 192 pages
- Size
- 1 × 1 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Cyfansoddiadau a Thestunau Eisteddfod (yn Gymraeg) | EN: Eisteddfod Compositions and Programmes (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen Arobryn (y Fedal etc) (yn Gymraeg) | EN: Prize-winning Fiction (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Bardd yw Eurig Salisbury. Ac mae ôl bardd ar ei nofel Cai . Rhan o dasg bardd, wrth gwrs, yw cyfleu neges yn gryno iawn; heb os, canlyniad y ddisgyblaeth honno yw'r stori hon ac iddi lawer tro annisgwyl, a hynny mewn llai na 40,000 o eiriau, sef gofynion cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith. O fewn y cyfyngiad geiriol yma hefyd cyffyrddir â nifer o themâu, megis y diffyg cefnogaeth i gelf yng Nghymru, yr elfen o hap a siawns wrth geisio sicrhau cefnogaeth i brosiectau ymchwil, yr ecsodus o’r Gymru wledig i Gaerdydd, a'r diffyg parch i’r Gymraeg. Mae yma hefyd enghreifftiau lu o’r blas a gaiff Eurig Salisbury ar fwytho geiriau ac o greu cymariaethau bachog. Cymhara'r Gymraeg brin a geir yng ngohebiaeth unigolyn ‘fel mân gyraints mewn torth o fara brith’, a dyma un enghraifft o'r dweud pert iawn sy’n britho’r nofel. Ond er yr ysgrifennu cain mewn iaith goeth, y stori sy’n arwain, er efallai nad yw honno'n cydio o ddifri tan eich bod tua chwarter ffordd drwy’r nofel. Yn y chwarter cyntaf gosodir y gefnlen a chawn gyfle i ddod i adnabod y prif gymeriad, Cai, sy’n fyfyriwr ymchwil yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth. Ond o hynny ymlaen mae’r tempo yn cynyddu. Mae yna newid annisgwyl arall cyn cyrraedd y diwedd – try’r gwaith yn nofel dditectif, ac fe ges i flas arbennig ar yr helfa. Stori gyfoes yw stori Cai, a phan gododd y cyfeiriad at Dryweryn suddodd fy nghalon – ai rhyw gawl eildwym, ystrydebol oedd y nofel hon wedi’r cyfan? Ond doedd dim rhaid i fi boeni; defnyddir yr hanes cyfarwydd mewn ffordd ffres a chredadwy. Mae llawer o bethau i’w canmol yn y nofel hon. Mwynheais yn arbennig y symud rhwng dau leoliad, o Aberystwyth drefol, fywiog y myfyrwyr i Feirionnydd lawiog, wledig â'i phoblogaeth hŷn; o lety llwm y myfyrwyr i foethusrwydd hynafol Plas Helygog, cartref yr artist Aeres Vaughan, gwrthrych ymchwil Cai. Dywedodd beirniaid y Fedal Ryddiaith fod y nofel hon yn llawn haeddu’r wobr mewn cystadleuaeth gref a’i bod yn eang ei hapêl. Cytunaf yn llwyr. Mae Eurig Salisbury yn ddi-os yn fardd talentog, ond mae bellach hefyd yn nofelydd penigamp.
Share
