Cyngor Llyfrau Cymru
Blwyddyn Fan Hyn a Fan Draw
Blwyddyn Fan Hyn a Fan Draw
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyddiadur blwyddyn ym mywyd un o naturiaethwyr mwyaf adnabyddus a phoblogaidd Cymru. Cafodd Iolo Williams flwyddyn brysur yn teithio ar hyd a lled Cymru yn ystod 2010 ac yn byw ymysg llwythau brodorol America. Mae'r gyfrol hon yn gyfle i ddod i adnabod un o gymeriadau mwyaf hoffus Cymru'n well.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The diary of Iolo Williams, one of Wales's most renowned nature andwildlife presenters, during a busy 2010 when he travelled the length and breadth of Wales and spent a period in America living with indigenous tribes. The volume provides an opportunity to get to know this very likeable character.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848511828
- Gwales Code
- gwales.com.9781848511828
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Blwyddyn Fan Hyn a Fan Draw
- Awdur / Author
- Williams, Iolo
- Current Price ex VAT
- £4.00
- Current Price inc VAT
- £4.00
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2011-08-16
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Hardback
- Media Type (CY)
- Clawr caled
- Pages
- 144 pages
- Size
- 148 × 210 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Atgofion a Hunangofiannau (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Atgofion a Hunangofiannau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences - Male (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae yna o leiaf ddau fath o ddyddiadur, y naill wedi ei ysgrifennu heb ddisgwyl ar ran yr awdur y bydd unrhyw un arall byth yn ei weld, a'r llall yn un sydd wedi ei ysgrifennu yn unswydd er mwyn i eraill ei ddarllen, megis y dyddiadur gwleidyddol - dyddiadur Margaret Thatchers a Tony Benns y byd hwn. Ac yn y categori hwn y mae cyfrol ddiweddaraf Iolo Williams, Blwyddyn Fan Hyn a Fan Draw , yn ffitio, yn gronicl o'i fywyd prysur gyda'i deulu a'i gymdogaeth, ynghyd â'i waith fel darlledwr. Dwi'n cyfeirio yn gyntaf at y genre gan y gall dyddiadur godi cwr y llen ar fywyd unigolyn yn ei gynefin yn well nag y gall unrhyw ffurf arall ar lenydda ei gwneud. Gogoniant y dyddiadur ydi bod pob sylw a chofnod wedi eu lleoli mewn lle ac amser, a dyma sydd yn rhoi strwythur a synnwyr i'r naratif. Weithiau cyhoeddir cyfrolau nad ydynt yn ddyddiaduron go iawn - megis dyddiadur yr enwog Adrian Mole, ond buan iawn y daw'r darllenydd i weld mai tresmaswyr ydy'r rhain o faes arall. Mae'n amlwg o'r cychwyn bod Iolo wedi cyflwyno’n onest yn nhrefn amser a lleoliad y rhannau hynny o'i fywyd bob dydd yn 2010 y mae'n fodlon rhannu â ni, ac mae ei sylwadau yn gryfach o'u cyhoeddi ar y ffurf hon. Er mai rhan o showbiz Cymraeg yw'r gyfrol yn y bôn, yn cyflwyno bywyd anarferol Cymro anarferol, mae gan bawb ei stori, yn enwedig y rhai fel Iolo sydd yn sylwgar a meddylgar o'r byd o'u cwmpas. Mae Iolo yn naturiaethwr go iawn, ac wedi llwyddo i hogi ei sgiliau dros y blynyddoedd er gwaetha’r gofynion showbiz bondigrybwyll sydd wastad arno. Mae'n rhaid rhyfeddu at y tinc awthentig cyson sydd ar ei straeon symlaf - y gylfin braff yn Llanbedr, clwydfa'r cigfrain yn Niwbwrch, a'r ehedyddion yn nhwyni Gronant, Prestatyn yn canu ymhobman uwch ei ben wrth iddo gamu trwy’r moresg "a hithau ond yn fis Chwefror". Nid pethau ffug ffansïol mo'r rhain. Ac mae'r cyfan wedi ei gyfochri gyda straeon doniol a dynol am gymeriadau hen ac ieuanc sydd yn dangos bod Iolo Williams yn gwerthfawrogi ei gyd-ddyn llawn cymaint â byd natur. Diolch amdano, a’i allu a’i hyder i wneud hyn oll yn y Gymraeg.
Share
