Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Ble Mae Boc? ar Goll yn y Chwedlau

Ble Mae Boc? ar Goll yn y Chwedlau

Regular price £4.99 GBP
Regular price Sale price £4.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

10 o luniau tudalen ddwbl. Mae pob taenlen yn dangos golygfa lawn dop, gyda'r nod o ddod o hyd i Boc, y ddraig fach goch, sy'n cuddio ym mhob llun. Mae cyfle i chwilio am bethau eraill yn y lluniau hefyd, yn ogystal â thrafod a holi cwestiynau rhwng plant a'i gilydd, neu rhwng rhiant a phlentyn. Cyfrol debyg i'r llyfrau Where's Wally? gyda gogwydd gwbl Gymreig i bob llun.

Disgrifiad Saesneg / English Description

10 illustrated double pages, with each spread offering a chance to look for Boc, the little red dragon, who's hiding on each page. Children and parents can also look for other things, and discuss and ask questions. A Welsh twist on the Where's Wally? books.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781784619541
Gwales Code
gwales.com.9781784619541
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Ble Mae Boc? ar Goll yn y Chwedlau
Awdur / Author
Aaron, Huw
Current Price ex VAT
£4.99
Current Price inc VAT
£4.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2020-11-23
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
32 pages
Size
210 × 297 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Llyfrau Lliwio, Posau a Chwisiau (yn Gymraeg) | EN: Colouring Books, Puzzles and Quizzes (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae Huw Aaron yn adnabyddus fel cartwnydd. Huw yw sylfaenydd y cylchgrawn poblogaidd Mellten, ar gyfer 7-12 oed.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae ail gyfrol Ble Mae Boc? wedi glanio o’r diwedd, a'r tro hwn, fel y gwelir o'r isteitl, Ar Goll yn y Chwedlau mae Boc! Roedd y llyfr cyntaf yn werthwr gorau ac mae plant Cymru (a’u rhieni) wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am yr ail lyfr yn y gyfres boblogaidd. Diolch byth, felly, fod Huw Aaron wedi bod wrthi fel slecs yn gwneud yn siŵr ei fod yn barod erbyn y Dolig. Os nad ydych chi’n gwybod erbyn hyn, draig fach goch yw Boc sydd, rywsut neu’i gilydd, yn llwyddo i fynd ar goll ar hyd a lled Cymru. Eich tasg chi yw ei ffeindio ynghanol yr holl brysurdeb. Yn yr ail gyfrol, caiff Boc ei sugno i ganol byd y chwedlau a chael ei swyno gan yr hud a’r lledrith. Cawn ein tywys ar antur i leoedd rhyfeddol – fel y ddinas o dan y dŵr ac i deyrnas y tylwyth teg. Mae lluniau Huw Aaron mor anhygoel a lliwgar; maen nhw'n wledd go iawn i’r llygad. Gallwch dreulio oriau yn craffu ar y manylion bach difyr yn ogystal â chwilio am ein hoff gymeriad. Mae’r bydoedd mae o’n eu creu yn ffantastig ac yn llawn hiwmor. Fy hoff un yw’r Parti Llyfrau Plant, sy’n rhyw fath o deyrnged fawr i lenyddiaeth Gymraeg i blant drwy'r degawdau. Ers i’r Where’s Wally? cyntaf gael ei gyhoeddi yn y 1980au, mae llyfrau ‘chwilio’ o’r fath yn hynod o boblogaidd, gan eu bod yn wych ar gyfer llenwi amser sbâr a hefyd yn lot fawr o hwyl. Mantais Ble Mae Boc?: Ar Goll yn y Chwedlau dros lyfrau eraill tebyg yw ei fod yn cyflwyno chwedlau a thraddodiadau sy’n arbennig i ni yng Nghymru, fel y Mabinogi a Chantre’r Gwaelod. Caiff draigchwilwyr brwd ddigon o hwyl wrth chwilio ar eu pennau eu hunain, ond beth am wneud pethau’n fwy o hwyl a chyflwyno elfen o gystadleuaeth? Ras am y cyntaf! I'r rhieni a'r neiniau a'r teidiau, dyma fuddsoddiad doeth iawn, yn enwedig ar gyfer siwrneiau hirfaith yn y car! Y gobaith yw y bydd y plantos yn rhy brysur yn chwilio am Boc i ffraeo yn y set gefn. Wir i chi, mae ’na oriau o ddifyrrwch i’w cael rhwng y cloriau gan fod yna 10 tudalen ddwbl a thros 200 o drugareddau eraill i’w darganfod. Pryd bynnag y bydd gennych chi amser sbâr – wrth ddisgwyl yn syrjeri’r doctor neu ar bnawn glawog o flaen y tân – dyma gyfaill ffyddlon sy’n werth ei gael yn agos. A pheidiwch â meddwl mai llyfr i blant yn unig yw hwn. Dyma gyfrinach i chi – mae lot fawr o ffans Boc yn rhieni!

View full details