Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Ble aeth Elen Puw?

Ble aeth Elen Puw?

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel ddirgelwch gyfoes. Dyma nofel gyntaf Linda Wyn. Yn oriau mân y bore ym mis Mai 1973 diflannodd Elen Puw, merch ysgol 18 oed, ar y ffordd adre. Yn 2024 mae Sara Price, newyddiadurwraig gyda'r BBC, yn dychwelyd i'w thref enedigol i ymchwilio i ddiflaniad Elen ar gyfer podlediad.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A contemporary mystery novel. This is Linda Wyn's first novel. In the early hours of May 1973, 18 year old school girl Elen Puw disappears on her way home. In 2024, Sara Price, a journalist with the BBC returns to her childhood home to investigate Elen's disappearance for a podcast.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781800997059
Gwales Code
gwales.com.9781800997059
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Ble aeth Elen Puw?
Awdur / Author
Wyn, Linda
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2025-06-30
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
208 pages
Size
130 × 193 mm; depth 6 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Datrys A Dirgelwch (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Crime, Mystery and Thriller (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Yn enedigol o Ddyffryn Aman, graddiodd Linda Wyn gyda Gradd Meistr yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth cyn mynd ymlaen i dreulio ei gyrfa ym maes Addysg Bellach. Bu’n bennaeth ar Goleg Meirion Dwyfor a Choleg Menai cyn ymddeol yn 2018. Bellach mae hi’n byw ym Mhontcanna yng Nghaerdydd. Dyma ei nofel gyntaf.

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Originally from Amanford, Linda Wyn graduated with a masters degree in Welsh form Aberystwyth University before following a career in Further Education. She was Head of Meirion-Dwyfor College and Menai College before retiring in 2018. She now lives in Pontcanna in Cardiff. This is her first novel.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Fe ddiflannodd Elen Puw 18 oed yn 1973. Er gwaethaf ymdrechion yr heddlu a’r gymuned leol, ni chafwyd hyd iddi a bu ei diflaniad yn gyfrinach am dros hanner can mlynedd. Yn 2024 mae’r newyddiadurwraig Sara Price yn dychwelyd i Ryd-dderwen yn Sir Gaerfyrddin i ymchwilio i’r hanes. Mae’r stori’n dilyn Sara wrth iddi geisio taflu goleuni newydd ar yr achos ar gyfer podlediad. Mae’r hyn mae’n ei ddarganfod yn creu dilema bersonol ac yn agor cil y drws ar gyfrinach deuluol. Mae’r nofel gyfoes hon am ddirgelwch sy’n cael ei ymchwilio mewn podlediad yn siŵr o apelio at ddarllenwyr ac mae’n cynnwys nifer o gyfweliadau ac erthyglau. Mae’r nofel yn mynd â ni ’nôl i ddechrau’r saithdegau, cyfnod pan oedd Cymdeithas yr Iaith ar ei hanterth, a chawn gipolwg ar fywyd pobl ifanc mewn tref fechan Gymraeg yr adeg honno. Yn gweu trwy’r cwbl mae helyntion bywyd carwriaethol Sara a hanesion teulu ei mam ar fferm Maesyderi.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

18 year old Elen Puw disappeared in 1973. Despite the efforts of the police and the local community she was never found and her disappearance has remained a mystery for over fifty years. In 2024 journalist Sara Price returns to Rhyd-dderwen in Carmarthenshire in south-west Wales to investigate the case. The story follows Sara as she tries to throw new light on the case for a podcast. What she discovers creates a personal dilemma and opens the door on a family secret. This contemporary novel about a mystery investigated in a podcast is sure to appeal to readers and includes a number of interviews and news articles. The novel takes us back to the seventies, when Welsh language society Cymdeithas yr Iaith was at its peak, and explores the lives of young people in a small Welsh town during this time. Weaving through the story are Sara’s tumultuous personal life and the history of her mother’s family on their farm Maesyderi.

View full details