Cyngor Llyfrau Cymru
Blasu
Blasu
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
'Ai gwallgofrwydd oedd o, cymylau henaint yn tynnu pethau ddoe yn ddigon agos i'w cyffwrdd, i'w harogli, i'w blasu?' Wrth edrych yn ôl ar ei bywyd, a'r teulu a'r ffrindiau a fu'n gwmni iddi ar hyd y daith, daw blasau o'r gorffennol i brocio atgofion Pegi. Ond nid yw pob atgof yn felys, ac mae rhai cyfrinachau'n gadael blas chwerw. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2012.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Whilst looking back on her life and the family and friends who accompanied her along the way, memories resurface for Pegi. But not every memory is sweet, and some secrets leave a bitter taste. Reprint; first published in 2012.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781847713827
- Gwales Code
- gwales.com.9781847713827
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Blasu
- Awdur / Author
- Ros, Manon Steffan
- Current Price ex VAT
- £9.99
- Current Price inc VAT
- £9.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2020-06-25
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 304 pages
- Size
- 130 × 195 mm; depth 6 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)
- FSC Status
- FSC certified (mixed sources) — C020637
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Ganed Manon Steffan Ros yn Rhiwlas, a chafodd ei haddysg yn Ysgol Rhiwlas ac Ysgol Dyffryn Ogwen. Enillodd ei nofel gyntaf i oedolion, Fel Aderyn, wobr Barn y Bobl yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2010. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu pedair nofel i blant, gan gynnwys Trwy'r Tonnau, a enillodd wobr Tir Na N'Og yn 2010. Mae'n byw ym Mro Dysynni gyda'i gŵr Nic a'i meibion Efan a Ger.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Yn ail nofel Manon Steffan Ros i oedolion cawn lu o gymeriadau difyr, stori afaelgar, lleoliad hudolus Bro Dysynni a sensitifrwydd sgwennu’r awdures ifanc, ddawnus hon. A phetai hynny ddim yn ddigon, cyfres o rysetiau diddorol a'r cyfan am £8.95 – bargen! Ar ei phen blwydd yn bedwar ugain oed, mae Jonathan, mab ieuengaf Pegi, yn rhoi llyfr arbennig i'w fam ac yn gofyn iddi hi gofnodi ei hatgofion ynddo. Ond nid atgofion gaiff eu hysgrifennu yn y llyfr ond cyfres o rysetiau gwahanol fwydydd a phrydau a fu'n bwysig iawn i Pegi, ynghyd ag enwau’r rhai fu’n gysylltiedig â hwy. Y bobl hynny gaiff eu henwi sy’n adrodd stori Pegi fesul pennod, a phob un hanes wedi'i saernïo'n grefftus. Bron nad ydi pob pennod yn stori fer, er bod llinyn storïol gref yn plethu drwy'r cyfan yn hynod o rwydd a chelfydd. Mae hanes plentyndod cynnar Pegi yn ingol o drist, yn arbennig hanes ei pherthynas â'i mam, ac mae'r disgrifiadau o broblemau seicolegol a salwch meddwl ei mam yn ein cyffwrdd i'r byw. Caiff Pegi flynyddoedd dedwydd ar aelwyd ei nain a’i thaid, cyn priodi Frances, grosar lleol, magu dau o blant a threulio blynyddoedd yng nghanol bwrlwm synau ac arogleuon amrywiol y siop. Cronicl moel o fywyd llawn Pegi yw'r uchod ond mae yna bris i’w dalu am y dedwyddwch ymddangosiadol, ac mae hwnnw yn gysgod cyson ar ei bywyd. Mae’r cysgod ar ei fwyaf amlwg yn ei pherthynas â bwyd. Mae hi’n byw yn ei ganol, wrth gwrs, ac yn cael blas ar fwydo’i theulu, cyfeilion agos a chwsmeriaid ei chaffi yn Nhywyn am un tymor. Ond mae perthynas Pegi â bwyd yn llawer mwy cymhleth na hynny a gwelwn yn fuan fod y 'pleser' ymddangosiadol a gaiff hi wrth fwyta yn ymylu ar salwch meddwl neu fwlimia ar adegau anodd. Ceisia Pegi ddigoni'i hun yn gorfforol ac yn emosiynol, ond methu a wna'n aml. Yn gefndir i’r nofel hon mae cariad amlwg yr awdures at fro ei chyndeidiau, ac mae ei disgrifiadau o’r ardal yn codi awydd go iawn ar y darllenydd i fynd yno i weld drosto’i hun. Bron nad ydy rhywun yn disgwyl cyrraedd Llanegryn a throi i mewn i gaffi Jonathan am espresso a darn o gacen sinsir neu affogato . Bron na ellid dweud mai molawd o gariad awdur, nid yn unig at ardal sydd yma, ond at ffordd o fyw. Mae pobl yn adnabod ei gilydd ac yn cefnogi’i gilydd yn y fro hon. Un ffordd o ddangos y gefnogaeth ydy coginio a rhannu bwyd, ac edrychir ymlaen yn Blasu at ddyfodiad caffi Jonathan ond mae yna hiraeth hefyd am hen ffordd o fyw yr ardal hyfryd hon. Rysáit bara ydy’r olaf yn y nofel ac fe gymer oes gyfan i Pegi feistroli’r grefft o wneud torth dda. Ond mae hi’n llwyddo yn y diwedd, a'r gamp fach honno'n adlewyrchu ei llwyddiant hi i fod yn hi’i hun, ar waethaf y tebygrwydd i’w mam, a'r arwyddion o salwch meddwl a fu'n gysgod dros y ddwy ohonynt. Roedd y profiad o ddarllen Blasu yn un chwerw-felys. Mae i'r gyfrol ei themâu tywyll ac ysgytwol yn ogystal â llawenydd a phrofiadau melys. Mae arddull gryno ac iaith liwgar a chyfoethog yr awdur wedi sicrhau fod hon yn stori fydd yn aros yn hir yng nghof y darllenydd. Cefais flas anghyffredin ar ddarllen hon – mwyhewch!
Share
