Cyngor Llyfrau Cymru
Betws a'r Byd
Betws a'r Byd
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Atgofion y cyn Aelod Seneddol, Elfyn Llwyd. Datgelir straeon o du mewn y Blaid a gweinyddiaeth San Steffan. Croniclir y digwyddiadau y bu yn rhan ohonyn nhw yn ystod bron i chwarter canrif o wasanaeth fel Aelod Seneddol dros bobl Meirionnydd Nant Conwy a Dwyfor Meirionnydd. 28 o luniau.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The autobiography of Elfyn Llwyd, former Plaid Cymru Member of Parliament. He reveals stories from within his party and from the administration at Westminster, recording events he was part of during his service of almost quarter of a century as MP on behalf of the constituents of Meirionnydd Nant Conwy and Dwyfor Meirionnydd. 28 photographs.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784619527
- Gwales Code
- gwales.com.9781784619527
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Betws a'r Byd
- Awdur / Author
- Llwyd, Elfyn
- Current Price ex VAT
- £9.99
- Current Price inc VAT
- £9.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2020-10-23
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 200 pages
- Size
- 140 × 214 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Bywgraffiadau a Chofiannau (yn Gymraeg) | EN: Biographies (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Bywgraffiadau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Biographies - Male (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Ganed Elfyn Llwyd ym Metws-y-Coed, Gwynedd a fe'i magwyd yn Llanrwst. Astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac yna Prifysgol y Gyfraith Caer. Gweithiodd fel cyfreithiwr ac yna bargyfreithiwr cyn cael ei ethol yn Aelod Seneddol. Roedd yn Aelod Seneddol Meirionnydd Nant Conwy o 1992 i 2010 ac yn Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd o 2010 i 2015 ac yn arweinydd seneddol Plaid Cymru.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma gofiant gwleidyddol difyr a dadlennol o’r profiadau arbennig a gafodd yr awdur fel Aelod Seneddol a gynrychiolodd etholaeth Meirionnydd Nant Conwy, yn ddiweddarach Dwyfor Meirionnydd, rhwng 1992 a’i ymddeoliad yn 2015. Testun balchder personol aruthrol iddo oedd ei lwyddiant i gynyddu ei fwyafrif yn ei etholaeth bron bob tro. Ei olynydd yno bellach yw Liz Saville-Roberts; bu'r etholaeth yn hynod o ffodus yn ei chynrychiolwyr galluog a hael eu cyfraniad clodwiw. Elfyn Llwyd oedd y gŵr yr oedd Dafydd El yn dymuno ei weld yn ei olynu, a chafodd ddechreuad bendigedig yn etholiad cyffredinol 1992 pan lwyddodd i godi'r mwyafrif o bleidleisiau yn ei etholaeth o 1600 i 4613. O'r cychwyn cyntaf bu'n cydweithio'n agos yn San Steffan â Dafydd Wigley, Ieuan Wyn Jones a Cynog Dafis, a bu'r Arglwydd Gwilym Prys Davies yn gyfaill triw a gwerthfawr iddo'n ogystal, yn fwyaf arbennig yn y dasg o lunio deddfwriaeth briodol ar gyfer materion Cymreig. Ond llywodraeth Geidwadol oedd mewn grym ar y pryd, a John Major yn Brif Weinidog. O'r cychwyn cyntaf cafodd yr awdur sioc enbyd i sylweddoli mor llawn fyddai ei ddyddiadur; prin y cafoddd funudau sbâr. Cawn gyfle i ddarllen am hanes rhai o fesurau pwysicaf y senedd honno, yn eu plith Mesur Maastricht a Mesur yr Iaith Gymraeg, 1993, cam pwysig iawn ymlaen, ynghyd â Mesur Cyfraith Teulu, 1996. Yn 1995 cafodd Elfyn Llwyd gyfle arbennig i ymweld â Chernobyl, gan gyfrannu at ddwy raglen deledu ddadlennol, bu'n aelod o Bwyllgor Dethol Cymru yn y Senedd, ac fe’i dewiswyd yn gadeirydd Pwyllgor Amlbleidiol y Llysoedd Teulu, ymrwymiad tymor hir a roddodd foddhad mawr iddo. Newidiodd y sefyllfa wleidyddol yn llwyr o 1997 ymlaen gydag ethol llywodraeth Llafur Tony Blair, yr ail bleidlais at ddatganoli ychydig yn ddiweddarach, a'r camau a arweiniodd at sefydlu ein Cynulliad Cenedlaethol yn 1999. Roedd yr awdur wrth ei fodd gan ei fod yn argyhoeddedig o'r cychwyn cyntaf o'r 'diffyg craffu a thrafod materion yn ymwneud â Chymru yn Senedd Llundain'. Darllenwn am farn hollol amlwg yr awdur am Ryfel Irac ac agwedd Tony Blair a'r Arlywydd Bush. Ceir yma hefyd ei farn am helbulon Gogledd Iwerddon, cwestiwn llosg y treuliau a hawliwyd gan Aelodau Seneddol, a'r angen i gynyddu pwerau ac awdurdod ein Cynulliad Cenedlaethol. Yn ddiweddarach, trafferthion Sudan daeth i'r amlwg, a'r awdur yn cael cyfle i deithio yno ac i Darfur. Yn ogystal, clywn am faterion lleol yn ei etholaeth, yn eu plith y trefniadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y Bala 2009, gydag Elfyn Llwyd, er gwaethaf ei holl brysurdeb, yn gadeirydd Pwyllgor Gwaith y Brifwyl arbennig o lwyddiannus honno. Bu hefyd yn gwneud rhyw gymaint o waith fel cyfreithiwr ac fel bargyfreithiwr o 1998 ymlaen, a chwaraeodd ran flaenllaw ym materion Prifysgol Bangor ac yn ddiweddarach Prifysgol Aberystwyth. Drwy gydol ei flynyddoedd olaf yn y Senedd bu'r awdur ynghlwm wrth y trafodaethau ynghylch amodau'r cyn-filwyr yr oedd angen dybryd eu gwella, a chwaraeodd ran flaenllaw yn nhrafodaethau'r Pwyllgor Dethol ar Gyfiawnder gan ddod yn is-gadeirydd y pwyllgor. Bu materion cyfreithiol a gweinyddol yn ganolog i'r yrfa ddisglair ar hyd y daith. Bu hefyd yn Gadeirydd Comisiwn Plaid Cymru ar Annibyniaeth ac yn Is-gadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth. Roedd gadael San Steffan yn 2015 yn brofiad chwithig i gychwyn, meddai Elfyn Llwyd, ond does dim hiraeth am y dyddiau hynny erbyn hyn. Ers ymddeol, mae wedi gweithio fel bargyfreithiwr, wedi parhau i fagu ei golomennod yn ei gartref yn Llanuwchllyn – ac ysgrifennu'r gyfrol hon. Roedd yr ysgrifennu'n 'dasg reit swmpus' meddai; mi gymerodd dair wythnos lawn iddo ddarllen trwy'r doreth o ddyddiaduron gwaith a'r dyddiaduron personol wrth gychwyn ar y gwaith ymchwil a chynllunio'r gyfrol. Ymhlith y gwleidyddion a'r gweinidogion y mae'r awdur yn eu trafod yn hollol agored yma y mae Boris Johnson, un y bu'n treulio nifer o ddiwrnodau llawn cyffro yn ei gwmni wrth ymweld ag Irac yn 2002. Nid yw o'r farn y bydd Johnson yn parhau'n hir fel Prif Weinidog, er iddo nodi fod ganddo bersonoliaeth hwyliog, radlon a chyfeillgar bob amser.
Share
