Cyngor Llyfrau Cymru
Beth am gynnau tân - Atgofion a cherddi — Atgofion a cherddi Ann Fychan
Beth am gynnau tân - Atgofion a cherddi — Atgofion a cherddi Ann Fychan
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Telynegwraig a sgwennwr caneuon oedd Ann Fychan a fu farw yn 2025. Mae'r gyfrol yn cynnwys teyrngedau a phortreadau a detholiad o'i cherddi a phenillion. Gwraig egnïol a fu'n un o wir gynheiliaid y diwylliant Cymraeg ym Maldwyn a thu hwnt, un o sêr Talwrn y Beirdd am gyfnod hir, a'r bardd a luniodd eiriau un o ganeuon enwocaf y grŵp Plethyn.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Ann Fychan was a lyricist and songwriter who died in 2025. The volume includes tributes and portraits and a selection of her poems and verses.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845248000
- Gwales Code
- gwales.com.9781845248000
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Beth am gynnau tân - Atgofion a cherddi — Atgofion a cherddi Ann Fychan
- Sub Title
- Atgofion a cherddi Ann Fychan
- Awdur / Author
- Fychan, Ann
- Current Price ex VAT
- £8.00
- Current Price inc VAT
- £8.00
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2026-07-14
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Editor
- Jones, Cyril
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 148 pages
- Size
- 128 × 198 mm; depth 8 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Beirdd Unigol (yn Gymraeg) | EN: Individual Poets (in Welsh)
- FSC Status
- No FSC or PEFC logo/certification declared
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Y bardd Cyril Jones oedd enillydd Coron Eisteddfod Aberystwyth 1992. Cyhoeddodd gyfrol o'i waith, Eco'r Gweld, gyda Barddas yn 2012. Cyhoeddodd gyfrolau gyda Gwasg Carreg Gwalch: Maldwyn (Cyfres Bröydd Cymru) a Man Gwyn y Smotyn Du (Sgrifenwyr a Beirdd Ardal Unigryw yr Undodwyr yng Ngheredigion).
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Cyfrannodd Ann i ddiwylliant ei hardal ym Maldwyn a Chymru gyfan gydol ei hoes. Lluniodd bytiau hunangofiannol am ei phlentyndod ym mhentre Pennant, Llanbryn-mair, cyn i’w rhieni, Islwyn a Gwyneira Lewis, benderfynu symud i’r Pandy yn yr un plwyf i gadw siop. Mae’r rheiny yn y gyfrol, yn ddarlun gwiw o blentyndod yn y cefndir a’r cyfnod hwnnw. Roedd Ann yn hyfforddreg llefarwyr a beirniad mewn eisteddfodau ledled y wlad. Dychwelodd o’r Coleg Normal i fod yn athrawes yn y Drenewydd, Llanbryn-mair a Glantwymyn. Ar wahanol gyfnodau bu’n athrawes bro a dirprwy brifathrawes. Mae’r gofal a’r parch at eiriau yn amlwg yn ei gwaith creadigol ei hun hefyd. Yn nyddiau Gerallt Lloyd Owen, roedd ef fel Meuryn yn dotio at y tinc telynegol oedd yn ei cherddi a’i phenillion telyn. Does ryfedd i Dafydd Wyn, ei chyd-aelod yn nhîm Talwrn y Beirdd Bro Ddyfi, ei galw yn ‘llawforwyn crefft llefaru’, gan gwblhau ei englyn â’r disgrifiad ohoni yn dysgu ‘to ’rôl to nes troi y tŷ’n/ Athen i’n gwasanaethu’. Yr un yw byrdwn Gerallt Lloyd Owen yn ei englyn yntau iddi: Canaf i’r un fu’n cynnal ei haelwyd a’i haelwyd yn ardal; ym min Dyfi mae’n dyfal gadw tŷ heb godi tâl. Rhan o deyrnged i Ann Fychan (1941–2025), Barn Tachwedd 2025 ‘Arferai lunio cerddi yn y mesurau rhydd ac roedd graen arbennig ar ei gwaith bob amser, yn enwedig penillion ar batrwm y penillion telyn, telynegion a'i cherddi ysgafn. Wele un pennill telyn sy’n nodweddu’i chrefft: Cododd Deio’n gynnar, gynnar, Codi’n gynt na’r haul a’r adar, Ond ni chododd ddigon bore I ddal Mari Llwyn yr Hendre. Yn ogystal ag ysgrifennu geiriau ar gyfer talyrnau, lluniodd Ann ddegau o eiriau caneuon ar gyfer grwpiau canu ysgafn, lleol a chenedlaethol. Y geiriau enwocaf o blith y rheini yw cân anthemig Plethyn ‘Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?’’
Share
