Cyngor Llyfrau Cymru
Bachgen, Y Wahadden, Y Llwynog A'r Ceffyl, Y
Bachgen, Y Wahadden, Y Llwynog A'r Ceffyl, Y
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Yn llawn lluniau a thestun hardd, a grëwyd yn wreiddiol gan Charlie Mackesy ac sydd bellach wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg gan Mererid Hopwood, mae'r testun unigryw hwn wedi taro tant â darllenwyr ledled y byd gyda'i wersi bywyd tyner sy'n ein atgoffa o bŵer cyfeillgarwch yng nghanol byd blith-draphlith.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781914079597
- Gwales Code
- gwales.com.9781914079597
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Bachgen, Y Wahadden, Y Llwynog A'r Ceffyl, Y
- Awdur / Author
- Mackesy, Charlie
- Current Price ex VAT
- £16.99
- Current Price inc VAT
- £16.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-09-23
- Cyhoeddwr / Publisher
- Graffeg
- Translator
- Hopwood, Mererid
- Darlunydd / Illustrator
- Morris, Jackie
- Media Type (EN)
- Hardback
- Media Type (CY)
- Clawr caled
- Pages
- 128 pages
- Size
- 165 × 215 mm; depth 25 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen - Arall (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Other (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
- FSC Status
- FSC certified (mixed sources) — C014138
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Mererid Hopwood wedi ysgrifennu, golygu a throsi nifer o weithiau i blant, gan gynnwys cyfres nofelau Miss Prydderch, Fy Llyfr Englynion a Geiriau Diflanedig , sef trosiad o waith Rob Macfarlane gyda darluniadau gan Jackie Morris. Ganed Charlie Mackesy yn ystod gaeaf oer iawn o eira yn Northumberland. Dechreuodd Charlie fel cartwnydd i The Spectator a darlunydd llyfrau ar gyfer Gwasg Prifysgol Rhydychen cyn cael ei gyflogi gan orielau. Arddangosodd ddarluniau yn gyntaf yn Llundain, yn The Park Walk Gallery, ac ers hynny mae wedi arddangos mewn orielau yn Efrog Newydd, Llundain a Chaeredin. Mae gwaith Charlie yn ymddangos mewn llyfrau, casgliadau preifat a mannau cyhoeddus, gan gynnwys Mynwent Highgate yn Llundain, mewn ysbytai, carchardai, eglwysi a cholegau prifysgol ledled y DU, ac mewn tai diogel menywod ledled y byd. Un o’i amseroedd hapusaf oedd gwneud lluniadau i Richard Curtis ar set Love Actually fel y gallent ymddangos mewn ocsiwn ar gyfer Comic Relief. Cynhyrchodd ‘The Unity Series’ , set gydweithredol o lithograffau gyda Nelson Mandela yn 2006. Mae ei daith gyda The boy, the mole, the fox and the horse wedi meddiannu ei fywyd. Mae’n byw yn eu byd nhw lawer o’r amser ac mae wedi bod wrth ei fodd yn llunio’r llyfr. Bydd eu hanturiaethau yn parhau.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Wedi’i addasu o un o lyfrau mwyaf adnabyddus y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Y Bachgen, y Wahadden, y Llwynog a’r Ceffyl yn fynegiant o gyfeillgarwch, caredigrwydd a thosturi rhwng pedwar cydymaith annhebygol. Wedi’i gyhoeddi yn gyntaf yn 2019 gan Penguin, mae’r llyfr hwn wedi mynd ymlaen i ddominyddu gwerthiant llyfrau ledled y byd, gan werthu dros filiwn o gopïau a chael ei gyfieithu i 22 iaith.
Share
