Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Bachgen â Blodau yn ei Wallt, Y / Boy with Flowers in his Hair, The

Bachgen â Blodau yn ei Wallt, Y / Boy with Flowers in his Hair, The

Regular price £7.99 GBP
Regular price Sale price £7.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Ei enw yw Deio. Ef yw'r bachgen â blodau yn ei wallt ac ef yw fy ffrind gorau. Dyma stori sy'n cyffwrdd â phynciau megis salwch a chaledi mewn modd y gall plant bach eu deall. Addasiad Cymraeg gan Awen Schiavone.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A a moving tale of friendship, kindness, and acceptance, softly touching on subjects of illness and hardship in a way that young children can understand. Everyone likes David, the boy with flowers in his hair. He's sweet and gentle, just like his colourful petals. David and his best friend have a great time together, until one day... Welsh text by Awen Schiavone.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781849676526
Gwales Code
gwales.com.9781849676526
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Bachgen â Blodau yn ei Wallt, Y / Boy with Flowers in his Hair, The
Awdur / Author
Jarvis
Current Price ex VAT
£7.99
Current Price inc VAT
£7.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2022-01-19
Cyhoeddwr / Publisher
Rily
Translator
Schiavone, Awen
Media Type (EN)
Hardback
Media Type (CY)
Clawr caled
Pages
32 pages
Size
245 × 270 mm; depth 10 mm
Language Code
Welsh; English
Categori / Category
CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
FSC Status
FSC certified (mixed sources) — C144853

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae pawb yn y dosbarth wrth eu bodd gyda Deio, y bachgen gyda blodau yn ei wallt. Mae adroddwr y stori, sy’n aros yn ddienw, yn mwynhau treulio amser yn ei gwmni, ac mae’r ddau yn cael llawer o hwyl yng nghwmni ei gilydd. Un diwrnod, mae petal yn dod yn rhydd. Arwydd o bethau i ddod ... Dydi’r llyfr ddim yn rhoi manylion am beth achosodd i’r holl betalau ddisgyn o wallt Deio, ond mae’r ffaith ei fod yn dewis gwisgo het o hyn allan, a’r newid amlwg yn ei bersonoliaeth yn arwydd fod rhywbeth o’i le. Bellach, mae Deio yn fachgen tawelog, distaw a thrist – yn wahanol iawn i’r bachgen bywiog ar ddechrau’r stori. Chawn ni ddim gwybod pam, ond mae o fel petai ei ‘sbarc’ wedi diflannu. Digon posib fod y petalau’n disgyn oherwydd rhyw ddigwyddiad tu allan i’r ysgol – efallai rhyw fater teuluol neu rywbeth arall sy’n ei ddigalonni. Dwi’n cytuno efo dewis yr awdur i beidio â dweud wrthym, achos mae’n gadael lle i gael trafodaeth am y math o bethau fyddai’n gallu achosi loes I Deio. Dwi’n gwybod o brofiad bod stress neu drawma yn gallu cael effaith corfforol, gweledol arnom, felly mae’n gwneud synnwyr fod Deio’n colli ei betalau wrth iddo fynd drwy gyfnod anodd. Gan ei fod bellach yn edrych yn wahanol heb ei gnwd o wallt amryliw, a’i ben yn frigau pigog i gyd, tydi rhai o’r plant ddim eisiau dim i’w wneud ag ef, ond mae ffrind ffyddlon a thriw Deio yn mynd ati i ddyfeisio ffyrdd sensitif o wneud iddo deimlo’n well, a dangos ei fod am ei helpu. Efallai fod y llyfr yn lled awgrymu sgileffaith triniaeth cancr fel y rheswm dros golli ei ‘wallt’ ond gall fod yn unrhyw beth mewn gwirionedd. Neges syml y stori yw bod cyfeillgarwch go iawn yn golygu gofalu am eich gilydd, beth bynnag ddaw, nid dim ond yn ystod yr amseroedd da, ond pan mae’r cymylau duon yn hel uwchben hefyd. Dwi’n gwirioni efo llyfrau clawr called. Mae’r lluniau lliwgar syml yn erbyn y cefndir plaen, gwyn yn gweithio’n dda. Yn y dyddiau lle mae llyfrau’n fwyfwy dros ben llestri, roedd hi’n hyfryd bod steil y llyfr yn fwy tawel, gan fy atgoffa o lyfrau clasurol fel Y Teigr a Ddaeth i De . Chewch chi ddim problem darllen y testun gan ei fod o mor glir; biti na fasa mwy o lyfrau i blant mor hawdd i’w darllen. Un o’r pethau gorau am y stori yw ei fod wedi cael ei gadael yn fwriadol amwys, ac o ganlyniad, gall y stori weithio fel cerbyd i drafod nifer fawr o bethau. Mae’r syniad o dderbyn pobl fel ag y maen nhw, sut bynnag maen nhw’n edrych, yn eithaf amlwg, ond wedi’i gyfleu yn hyfryd a sensitif. Dw i heb ddarllen y stori gyda phlentyn ifanc, ond sgwn i oes angen help oedolyn i esbonio ystyr dyfnach y petalau’n disgyn? Byddai’n ddiddorol clywed gan unrhyw un sydd wedi rhoi cynnig ar hyn. Wnaeth y plentyn ddeall y syniad y tro cyntaf neu oedd angen eglurhad? Prif themâu/negeseuon y stori: · Salwch/trawma/iselder · Cyfeillgarwch / ffrindiau da · Helpu eich gilydd/ dangos empathi · Derbyn pobl sy’n wahanol / cynhwysiad / dathlu amrywiaeth Addasiad o adolygiad oddi ar wefan Son am Lyfra / An adaptation of a review from the Son am Lyfra website.

View full details