Cyngor Llyfrau Cymru
Ar Drywydd y Duwiau
Ar Drywydd y Duwiau
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel ffantasïol sy'n gymysgedd o ddylanwadau Tolkien, Terry Pratchett, Julian May, Star Wars a hyd yn oed Star Trek! ond mae hon yn uchelgeisiol, wreiddiol, ffraeth a chwbl Gymreig. Addas ar gyfer pawb dros 16 oed.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A fantasy novel with a mix of influences Tolkien, Terry Pratchett, Julian May, Star Wars and even Star Trek! But the novel is also original, ambitious and witty. Suitable for everyone over 16.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9780860742609
- Gwales Code
- gwales.com.9780860742609
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Ar Drywydd y Duwiau
- Awdur / Author
- Roberts, Emlyn Gomer
- Current Price ex VAT
- £9.95
- Current Price inc VAT
- £9.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2010-03-25
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Gwynedd
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 304 pages
- Size
- 129 × 198 mm; depth 14 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Actor a sgriptiwr sydd wedi troi ei law at ddramâu llwyfan, radio, Pobol y Cwm a chaneuon ar gyfer Gwerinos. Dyma ei ail nofel a bu canmol mawr i'w nofel gyntaf, Y Ddraig Goch .
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dydi nofelau ffantasïol, fel arfer, ddim at fy nant i. Dydw i erioed wedi darllen gwaith Tolkien na Pratchett. Ac er fy mod yn ffoli ar Stephen King, dydw i ddim wedi agor yr un gyfrol yn ei gyfres ‘The Dark Tower’. Gyda theimladau cymysg, felly, yr es i ati i ddarllen Ar Drywydd y Duwiau oherwydd yr oeddwn yn gwneud hynny o ran dyletswydd er mwyn llunio adolygiad. Mae hi’n glamp o nofel o ymron dri chant o dudalennau sy’n mynd â ni ar bererindod beryglus o’r Ddinas Aur dan ddaear i’r Wyneb. Ar unwaith, cawn ddod i adnabod pobol a lleoliadau sydd ag enwau dieithr iawn arnynt, Lenia a Merfus, Parc Marlis a Bryn Crud a’r fyddin frawychus, y Cira Seth. Ond er mor ddieithr yw enwau’r cymeriadau a’r lleoliadau, daw’r diwedd â ni i fan cyfarwydd. Mae yma awyrgylch o hynafiaeth, o hen fyd a hen ffyrdd o fyw. Mae yna frwydro rhwng credoau. Mae yma weledigaethau a gwallgofrwydd. Mae yma rialtwch a chariad. Uwchlaw pob pennod ceir adnodau o fath ar Feibl, sef y Confact lle, fel yn hanes dynoliaeth, y Gair oedd y dechreuad ond mai’r gair yn yr achos hwn oedd Ea-Hara. Mae’r bererindod yn daith ysbrydol yn ogystal ag yn ddaearyddol. Yn ddaearyddol, rhaid mynd o’r Ddinas Aur i’r Geudwll ac o Borth Goleuni i gopa Mynydd Aruthredd. Yn ysbrydol, rhaid mynd i fannau tywyll. Er ei bod yn nofel ffantasïol ac wedi’i gosod mewn amser gwahanol i’n hamser ni, ceir yma gwestiwn a fu’r un mor berthnasol ar hyd y canrifoedd - os yw’r Duwiau’n bodoli, a fyddai’n ddoeth chwilio amdanynt? Neu ai gwell fyddai gadael iddynt orwedd? Er gwaethaf dieithredd y genre (i mi) a’r enwau gwneud anghyfarwydd, mae hi’n nofel hawdd iawn ei darllen. Mae hynny’n deyrnged i arddull esmwyth ond cyhyrog yr awdur. Er gwaethaf ei hyd, mae hi’n symud (neu’n dringo) yn gyflym, a phroffwydaf yn hyderus mai’r gyntaf mewn cyfres fydd hon. Disgwyliaf yn ddiamynedd am y nesaf.
Share
