Cyngor Llyfrau Cymru
Ar Drywydd Llofrudd
Ar Drywydd Llofrudd
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel dditectif boblogaidd gyfoes a thywyll wedi ei lleoli yn Aberystwyth. Mae'n adleisio storïau dirgelwch a chyfresi teledu Scandi sy'n boblogaidd tu hwnt ar hyn o bryd. Ar ôl i gorff gael ei ddarganfod yn y twyni mae ddau dditectif, Taliesin ac MJ, yn mynd ar drywydd y llofrudd. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2018.
Disgrifiad Saesneg / English Description
This dark, detective novel set in Aberystwyth, echoes contemporary popular adventure stories and Scandi television series. The discovery of a body on the sand dunes sets two detectives, Taliesin and MJ, on the trail of the killer. Reprint. First Published in 2018.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784615697
- Gwales Code
- gwales.com.9781784615697
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Ar Drywydd Llofrudd
- Awdur / Author
- Davies, Alun
- Current Price ex VAT
- £8.99
- Current Price inc VAT
- £8.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2020-11-02
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 256 pages
- Size
- 194 × 130 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Datrys A Dirgelwch (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Crime, Mystery and Thriller (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Alun Davies yn beiriannydd meddalwedd ac yn rhedeg ei gwmni ymgynghori ei hun – Deeg Consultancy – yn cynnig gwasanaeth technoleg y we a chyfryngau cymdeithasol.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mewn broliant ar wefan y Lolfa, ‘gafaelgar, tywyll, a chyfrwys’ yw'r disgrifiad o’r nofel hon. Mae’r ‘tywyll’ yn cyfeirio at arddull Scandi-noir, arddull storïau o Sgandinafia a’r gwledydd Nordig, sy’n portreadu’r tensiwn rhwng rhyddfrydiaeth a chyfiawnder arwynebol cymdeithas yno a’r troseddau erchyll all ddigwydd dan yr wyneb. Mae’n arddull boblogaidd erbyn hyn, ac wedi ehangu i’r sgrin ffilm a theledu trwy gyfresi fel The Killing – ac yng Nghymru wrth gwrs, Y Gwyll . Mae’r nofel hon yn driw i rai o nodweddion eraill Scandi-noir. Mae’r awyrgylch yn troi’n ddu a bygythiol. Mae’r awdur yn pori trwy gyfrinachau brawychus, ac yn plymio i faes seicoleg gymhleth. Mae’r naratif yn syml ac uniongyrchol – does dim gwastraffu geiriau, ac mae gan y ditectifs broblemau personol sy’n eu gwneud yn fwy credadwy. Ac fe gawn y stori hon trwy lygaid nid un, ond dau dditectif, sef Taliesin MacLeavy a Ben Morgan-Jones, neu ‘MJ’. Mae’r ddau yn adrodd yn bersonol ac yn y presennol, am yn ail drwy’r nofel – arddull fentrus na fyddai ddim wrth ddant pawb, efallai, oherwydd y perygl y gall darllenwyr gymysgu rhwng y ddau. Ddigwyddodd hynny ddim i mi. Awn yn ôl ac ymlaen rhwng y ddau fesul pennod, ac mae’r ddau gymeriad mor wahanol i’w gilydd, wnes i ddim colli trywydd y stori ar unrhyw adeg. Ac yn wir, daeth yn amlwg fod hon yn arddull sy’n caniatáu dealltwriaeth ddyfnach o’r stori, a’r cymeriadau. Tuag at ddiwedd y nofel, cawn glywed trydydd llais hefyd, sy’n gymorth mawr o ran taflu goleuni ar yr hyn sy’n digwydd. Er mai’r bwriad oedd cynnig genre wahanol i arddull whodunnit ffuglen dditectif draddodiadol, mae’r elfen honno’n rhan effeithiol hefyd o’r stori hon. Does gan yr heddlu ar y cychwyn ddim un math o gliw pwy yw’r troseddwr, ac mae’r daith sy’n ein harwain ato yn y diwedd yn gyffrous, yn annisgwyl, yn syndod – ac yn sicr felly, yn afaelgar. Mae holl nodweddion arferol Scandi-noir wedi eu plethu at ei gilydd yn y nofel hon mewn ffordd gywrain a chyfrwys hefyd. Fy mwriad oedd darllen hon dros gyfnod o ryw wythnos. Unwaith y dechreuais, wnes i ddim oedi tan y dudalen olaf. Dwi’n edrych ymlaen at y gyfrol nesaf.
Share
