Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Ar Drywydd Dewi Sant

Ar Drywydd Dewi Sant

Regular price £5.99 GBP
Regular price Sale price £5.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Dyma'r unig gyfrol gynhwysfawr am hanes nawddsant Cymru. Mae Gerald Morgan yn crynhoi bywyd, traddodiadau a chwedloniaeth Dewi mewn un gyfrol hylaw. Mae pobl drwy'r canrifoedd wedi gofyn pwy oedd y Dewi go iawn, a chawn yr atebion am y ffigur diddorol a chymleth yn y llyfr pwysig hwn.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A comprehensive and informative book about the history of David, patron saint of Wales. The author Gerald Morgan seeks to present answers to such questions as 'Who was David? and 'What did he accomplish? by summarizing information about the life, traditions and myths relating to this interesting and complex character.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781784612559
Gwales Code
gwales.com.9781784612559
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Ar Drywydd Dewi Sant
Awdur / Author
Morgan, Gerald
Current Price ex VAT
£5.99
Current Price inc VAT
£5.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2016-02-24
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
160 pages
Size
120 × 175 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Bywyd ac Arferion Cymru (yn Gymraeg) | EN: Welsh Life and Customs (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Efallai am nad ydw i’n Gymro oddi cartref, aeth sawl blwyddyn heibio ers i mi godi gwydryn i ddathlu gŵyl ein nawddsant, a hwnnw’n wydraid o rywbeth tipyn cryfach na’r hyn a argymhellid gan Ddewi Ddyfrwr. Mae'n eironig mai drwy giniawa’n helaeth a drachtio’n ddwfn y dethlir dydd ein nawddsant bellach. Hyd yn oed pan ddaeth Dyfrig a Daniel i ymbil arno i annerch synod enwog Llanddewibrefi, y cyfan a gawsant i’w fwyta gan Ddewi oedd pysgodyn yn ychwanegol at y bara a dŵr arferol. Cyfrol fach yw Ar Drywydd Dewi Sant gan Gerald Morgan, ond y mae ynddi gyfoeth o wybodaeth a ffrwyth ymchwil eang a gofalus. Fel y dywed, y mae yna ffynonellau fel gwaith Rhygyfarch, ond ffynonellau ansicr iawn yw bucheddau’r saint ar y gorau. Ond cafwyd gan Gildas, nad oedd y mwyaf afrad o ddynion, awgrym o feirniadaeth o Ddewi am lymder eithafol ei fuchedd. Doedd y saint i gyd ddim mor ymataliol. Cofiwn am Illtud yn canmol Samson am ei gymedroldeb gyda’r gwin. Y mae hon yn gyfrol swynol sy’n casglu a didoli’n ofalus y briwsion o’r gwahanol ffynonellau a rhoi i ni ddarlun arbennig o Ddewi. Yn fwy na hynny aeth ar drywydd hanes twf cwlt Dewi, gan roddi lle haeddiannol i Bernard, y Norman cyntaf i fod yn esgob Tyddewi, Sieffre o Fynwy, ac yn arbennig Gerallt Gymro. Pan aeth byddin o Normaniaid i Iwerddon yn 1169, dywedir mai ei rhyfelgri oedd 'Dieu et Saint David'. Ni ellir chwaith anghofio cyfraniad y beirdd – Iolo Goch, Lewys Glyn Cothi, Ieuan ap Rhydderch ac eraill – tuag at boblogeiddio ei enw. Cafodd cwlt Dewi adfywiad pellach gyda Harri VII, a fyddai’n dathlu Dydd Gŵyl Ddewi yn ddiffael. Priodol iddo wneud hynny. Onid cri’r Cymry a’i croesawodd pan laniodd ym Mhenfro ar ei ffordd i Frwydr Bosworth oedd 'Awn yn enw Duw a Dewi'? Diddorol canfod fel y bu i gwlt Dewi oroesi’r Diwygiad Protestannaidd ond diflannu fel testun barddoniaeth Gymraeg am gyfnod, cyn cael adfywiad gan feirdd oes Fictoria. Ond gydag adfywiad y don gyntaf o feirdd y dadeni, nid oedd gan W. J. Gruffydd, R. Williams Parry a T. H. Parry-Williams ddiddordeb yn y saint, a bu raid aros am yr ail don – Saunders Lewis, Gwenallt a Waldo – oedd yn ymddiddori llawer mwy yn y pwnc. Rhyfedd ac ofnadwy yw diddordeb rhai Saeson yn ein nawddsant, a'r pennaf yn eu plith oedd rhyw Richard Johnson, awdur y gyfrol The Famous Historie of the Seaven Champions of Christendom (1608). Disgrifir y gyfrol gan Gerald Morgan fel rhamant hirwyntog am Siôr (Lloegr), Padrig (Iwerddon), Andreas (Yr Alban), Denys (Ffrainc), Siams (Sbaen), Guto (Yr Eidal) a Dewi yn mynd o gwpas y byd – dan arweiniad Siôr, wrth gwrs! – yn lladd paganiaid ac achub morynion. Ceir cerdd wedyn gan ryw Nathaniel Griffith – er mai Cymro oedd hwn – o’r enw The Leek (1718), lle mae Dewi yn arwain y Cymry i fuddugoliaeth fawr yn erbyn y Saeson. Dyna ni felly. Dewi – mynach, abad, archesgob a milwr, a noddwr cenedl am fil o flynyddoedd. Rhyfedd o stori, ond beth bynnag am ffrwyth dychymyg eraill, gallwn fod yn sicr y bu yna sant o’r enw Dewi, sy’n fwy nag y gellir ei ddweud am nawddsant ambell genedl. Diolch i Gerald Morgan am nithio’r grawn o’r us mewn cyfrol y mae’n ddyletswydd arnom i gyd ei darllen.

View full details