Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Alecs Rider: 3. Traeth Sgerbwd

Alecs Rider: 3. Traeth Sgerbwd

Regular price £7.99 GBP
Regular price Sale price £7.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae Alecs Rider, yr archysbïwr anfoddog yn ei arddegau, yn wynebu'i sialens fwyaf peryglus eto. Ar ynys breifat ger Ciwba, mae'r Cadfridog Sarov gwallgof o Rwsia wrthi'n dyfeisio cynlluniau ffrwydrol i ail ysgrifennu'r llyfrau hanes. Ar ei ben ei hun, gyda help dim byd ond llond llaw o ddyfeisiau cywrain, mae'n rhaid i Alecs ei drechu. Addas i ddarllenwyr 9-14 oed.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781855969605
Gwales Code
gwales.com.9781855969605
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Alecs Rider: 3. Traeth Sgerbwd
Awdur / Author
Horowitz, Anthony
Current Price ex VAT
£7.99
Current Price inc VAT
£7.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2013-09-27
Cyhoeddwr / Publisher
Dref Wen
Translator
Evans, Grey
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
354 pages
Size
129 × 198 mm; depth 15 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Yn y drydedd nofel o gyfres Alecs Rider, cawn fynd ar daith dros fôr y Caribî i Cayo Esqueleto neu Draeth Sgerbwd, ac yn syth, glaniwn mewn byd dieithr llawn dirgel a chwilfrydedd. Siarcod, llofruddwyr, bomiau niwclear – does dim diwedd i’r ‘dyfroedd dyfnion’ ym myd Alecs Rider. O ran lleoliad mae hi'n ein hatgoffa, mewn ffordd, o stori fôr-ladron ac mae anturiaethau Alecs ar yr ynys gudd hon yng Nghiwba yn rhoi’r darllenydd ar bigau’r drain drwyddi draw. Ond nid trysor yw nod y môr-ladron yn y stori hon gan mai cadfridog Rwsieg gwallgo sydd wrth wraidd problemau Alecs ar yr ynys – a’i nod yn fygythiad enbyd i'r byd i gyd. Nid a’i fryd ar ddwyn llong y mae’r capten hwn chwaith, ond ar fywyd Alecs. Pan gaiff Alecs ei herwgipio a’i gadw fel caethwas am gyfnod, mae Cadfridog Sarov yn daer fod Alecs yn medru bod o ddefnydd iddo ac mae’r ddau yn gadael yr ynys am Rwsia bell a gwallgofrwydd Sarov yn mynnu ei fod am fabwysiadu arwr y nofel. Ond wrth gwrs, mae Alecs fyth a beunydd â'i ddwylo ‘tadol’ yn rheoli ei fywyd ac mae’n benderfynol y tro hwn - dydi hynny ddim am ddigwydd - ac mae’r nofel yn gorffen gyda hunanladdiad erchyll. Ydy – mae Anthony Horowitz yn ei ôl gyda champwaith arall. Er mor ddieithr yw’r byd hwn mewn nofelau Cymraeg, mae trosiad Grey Evans yn gwneud iddi lifo yn rhwydd ac yn gweddu iddi i’r dim. Fechgyn neu ferched yn eich harddegau, neu unrhyw un sydd eisiau tipyn o gynnwrf gwych – darllenwch hon!

View full details