Cyngor Llyfrau Cymru
20 o Bobl Liwgar Cymru
20 o Bobl Liwgar Cymru
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Llyfr deniadol a hwyliog am 20 o bobl ysbrydoledig o Gymru. Nod y llyfr ydy cyflwyno modelau rol i blant gan gyflwyno gwybodaeth am bobl o liw sy'n arbenigwyr yn eu meysydd penodol. Bydd y gyfrol yn ysbrydoli plant ar hyd a lled Cymru i fod â balchder yn eu hunaniaeth, i fod yn driw i'w hunain ac i anelu'n uchel. Ceir gweithgareddau hefyd ar ddiwedd y llyfr a bydd adnoddau digidol ar gael. Rhan o gynllun Rhyngom.
Disgrifiad Saesneg / English Description
An attractive and fun book about 20 inspirational people from Wales. The aim of the book is to present role models for children while presenting information about people of colour who are specialists in their fields. The book will inspire children all over Wales to be proud of their identity, to be true to themselves and to aim high. It includes activities at the end of the book and digital resources will also be available. Part of the Rhyngom Scheme.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781800996083
- Gwales Code
- gwales.com.9781800996083
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- 20 o Bobl Liwgar Cymru
- Awdur / Author
- Jones, Natalie
- Current Price ex VAT
- £7.99
- Current Price inc VAT
- £7.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2024-09-14
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Gwyn, Telor
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 56 pages
- Size
- 240 × 225 mm; depth 6 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Cafodd Natalie Jones ei geni yn Birmingham i rieni Jamaicaidd. Symudodd y teulu i ogledd Cymru pan oedd hi'n naw oed. Mae Natalie bellach yn byw yn ne Cymru ac yn briod gyda dau o blant. Mae hi'n weithredwr cynnwys addysgol i S4C, ac yn cyfrannu'n rheolaidd at gylchgrawn Golwg. Mae hi hefyd wedi bod yn athrawes Gymraeg ail iaith ac yn ymgyrchydd cydraddoldeb gyda Chyngor Hil Cymru.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma lyfr ysbrydoledig yn dathlu 20 Cymry o liw. Mae pob tudalen yn cynnig cipolwg ar fywydau a llwyddiannau’r unigolion, pob un ohonyn nhw o feysydd gwahanol e.e. y celfyddydau, chwaraeon, gofal iechyd ac addysg. Mae’r lluniau’n ddeniadol ac yn lliwgar, ac yn barod wedi denu fy mrawd a’m chwaer i agor y llyfr ar ôl ei weld yn y tŷ! Hyfryd oedd gweld pobl dwi’n eu hadnabod yn bersonol yn ymddangos yn y llyfr – rhai a aeth i'r un ysgol â mi (Mali Ann Rees ac Emily Pemberton) ac eraill sy'n rhan fawr o'r gymuned dwi'n byw ynddi (Ali Abdi). Mae Mali yn dilyn ei breuddwydion o fod yn actores, Emily yn cefnogi pobl ifanc trwy ei waith gydag Urdd Gobaith Cymru ac yn cyflwyno rhaglenni ar bynciau pwysig tu hwnt, ac Ali yn ennill sawl gwobr yn helpu’r bobl ifanc yn ei gymuned. Mae pob un ohonyn nhw’n gwbl haeddiannol o gael lle yn y llyfr. Hyfryd hefyd oedd darllen am rai doeddwn i ddim yn eu hadnabod yn bersonol, a dysgu am yr holl bethau rhyfeddol y maen nhw wedi'u cyflawni: Richard Parks yn dringo copa Mynydd Everest, Joseff Gnagbo yn siarad saith iaith a nawr yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith (Cymraeg yw ei seithfed iaith!), a Nelly Adam yn dysgu pobl am hiliaeth ac yn gweithio’n galed i drio cael heddwch ym Mhalestina. Mae’r rhain yn achosion dwi hefyd yn teimlo'n gryf yn eu cylch. Ar bob tudalen mae ffeithiau diddorol, e.e. doeddwn i ddim yn gwybod sut i ddweud ‘Helô’ yn Iorwba (‘Pẹlẹ o’) na bod dros 94 o ieithoedd yn cael eu siarad yng Nghaerdydd! Mae hefyd cwestiynau gwych yn y llyfr sy’n procio’r meddwl, e.e. ‘Beth wyt ti’n ei garu am Gymru a’r iaith Gymraeg?’ I fi, caredigrwydd y bobl a’r teimlad o berthyn! Hefyd, ‘Pwy ydy dy arwr neu arwres di?’ Fy ateb i yw fy nhad. Fe oedd un o'r actorion, cyfarwyddwyr a chyflwynwyr cyntaf o liw a oedd yn siarad Cymraeg, a hefyd y rheswm rydw i’n siarad Cymraeg heddiw. Yn ogystal â hyn i gyd, mae gweithgareddau ar y diwedd i ymestyn y profiad darllen. Nod y llyfr yw ysbrydoli plant i ymfalchïo yn eu hunaniaeth a cheisio gwireddu eu breuddwydion. Dwi’n meddwl ei fod wedi cyflawni’r nod hwnnw. Gobeithio bydd y llyfr yn troi’n gyfres!
Share
