Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

100 o Ganeuon Pop

100 o Ganeuon Pop

Regular price £19.99 GBP
Regular price Sale price £19.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Llyfr bach hylaw yn cynnwys 100 o ganeuon pop Cymraeg mwyaf poblogaidd y deugain mlynedd diwethaf ar ffurf alawon, geiriau a chordiau gitâr syml. Mae'n cynnwys caneuon oesol fel 'Pishyn', 'Calon', 'Tŷ ar y Mynydd', 'Trôns dy Dad' a 'Lisa, Majic a Porfa'. Cyfrol angenrheidiol i bawb sy'n hoffi canu.

Disgrifiad Saesneg / English Description

100 of Wales' most popular songs along with the melodies, words and guitar cords are included in this perfect gift for any budding musician. With classic songs from composers such as Dafydd Iwan, Caryl Parry Jones and Geraint Jarman, songs like 'Y Cwm', 'Môr o Gariad', 'Seithennyn' and many more are included.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847712417
Gwales Code
gwales.com.9781847712417
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
100 o Ganeuon Pop
Awdur / Author
Lolfa, Y
Current Price ex VAT
£19.99
Current Price inc VAT
£19.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2015-04-22
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Editor
Edwards, Meinir Wyn
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
192 pages
Size
193 × 250 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Cerddoriaeth, Caneuon, Caneuon Poblogaidd (yn Gymraeg) | EN: Music and Songs (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Canu Poblogaidd (yn Gymraeg) | EN: Pop Music (in Welsh)

Cynnwys / Table of Contents

1. Abacus – Bryn Fôn a’r Band 2. Adra – Gwyneth Glyn 3. Ai am fod haul yn machlud? – Dafydd Iwan 4. Blaenau Ffestiniog – Tebot Piws 5. Bore - Ryan 6. Bore da – Euros Childs 7. Breuddwyd roc a rôl – Edward H. Dafis 8. Bwthyn – Derwyddon Dr Gonzo a Gwyneth Glyn 9. Bythol wyrdd – Tecwyn Ifan 10. Calon - Injaroc 11. Cân Walter – Meic Stevens 12. Cân y siarc – Gwyneth Glyn 13. Cân yn ofer – Edward H. Dafis 14. Carolina – Cerys Matthews 15. Ceidwad y goleudy – Mynediad am Ddim 16. Cerddwn ymlaen – Dafydd Iwan ac Ar Log 17. Cerrig yr afon – Iwcs a Doyle 18. Coffi du – Gwibdaith Hen Frân 19. Cofio dy wyneb – Mynediad am Ddim 20. Colli iaith – Heather Jones 21. Cãn a’r brain – Big Leaves 22. Cwsg, Osian – allan o’r opera roc Nia Ben Aur 23. Cymru, Lloegr a Llanrwst – Y Cyrff 24. Chwara dy gêm - Anweledig 25. Chwarae’n troi’n chwerw - Bando 26. Dala fe ’nôl – Fflur Dafydd a’r Barf 27. Disgyn (amdanat ti) - Sibrydion 28. Dwi’n ama dim - Celt 29. Dãr – Huw Jones 30. Dybl jin a tonic – Meinir Gwilym 31. Dyro wên i mi - Bando 32. Eldon Terrace – Daniel Lloyd a Mr Pinc 33. Ethiopia newydd – Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr 34. Ffrindia – Maffia Mr Huws 35. Geiriau – Ail Symudiad 36. Gerfydd fy nwylo gwyn – Twm Morys 37. Gitâr yn y to – Maffia Mr Huws 38. Gwaed ar yr eira gwyn – Tecwyn Ifan 39. Gwesty Cymru – Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr 40. Gyda gwên - Catatonia 41. Harbwr diogel – Elin Fflur a’r Moniars 42. Hawl i fyw – Dafydd Iwan 43. Hi yw fy ffrind – Mynediad am Ddim 44. Lisa, magic a porva – Radio Luxembourg 45. Lleisiau yn y gwynt - Brigyn 46. Lleucu Llwyd – Tebot Piws 47. Macrall wedi ffrio – Endaf Emlyn 48. Mae rhywun wedi dwyn fy nhrwyn – Tebot Piws 49. Mae rhywun yn y carchar – Dafydd Iwan 50. Mardi-gras ym Mangor Ucha – Sobin a’r Smaeliaid 51. Merch tñ cyngor – Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr 52. Mistar Duw – Edward H. Dafis 53. Mor dawel – Caryl Parry Jones 54. Môr o gariad – Meic Stevens 55. Ni yw y byd – Gruff Rhys 56. Nos da, nawr – Lleuwen Steffan 57. Nos Sadwrn Abertawe – Neil Rosser 58. Nid llwynog oedd yr haul – Geraint Løvgreen a’r Enw Da 59. Nos Sul a Baglan Bay – Huw Chiswell 60. Nwy yn y nen – Tebot Piws 61. Os na wnei di adael nawr - Brigyn 62. Paid â bod ofn - Eden 63. Pam fod adar yn symud i fyw? - Sibrydion 64. Pam fod eira’n wyn? – Dafydd Iwan 65. Pan ddaw yfory - Bando 66. Pan fo cyrff yn cwrdd – Trwynau Coch 67. Pan fo’r nos yn hir - Ryan 68. Penrhyn Llñn – John ac Alun 69. Pishyn – Edward H. Dafis 70. Rebal wîcend – Bryn Fôn a’r Band 71. Rue St Michel – Meic Stevens 72. Rhedeg i Paris – Yr Anrhefn 73. Rhywbeth bach yn poeni – Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr 74. Rhywbeth o’i le – Huw Chiswell 75. Seithennyn – Big Leaves 76. Stesion Strata – Tecwyn Ifan 77. Tafarn yn Nolrhedyn – Mim Twm Llai 78. Tân yn Llñn - Plethyn 79. Ti a dy ddoniau - Ryan 80. Traws Cambria – Steve Eaves a Rhai Pobl 81. Trên bach y sgwarnogod – Bob Delyn a’r Ebillion 82. Trên i Afon-wen – Sobin a’r Smaeliaid 83. Tri mis a diwrnod - Vanta 84. Trôns dy dad – Gwibdaith Hen Frân 85. Tñ ar y mynydd - Maharishi 86. Tñ Coz – Dafydd Dafis 87. Wyt ti’n gêm? – Meinir Gwilym 88. Wyt ti’n mynd i adael? – Meinir Gwilym 89. Y bardd o Montreal – Bryn Fôn a’r Band 90. Y brawd Houdini – Meic Stevens 91. Y cwm – Huw Chiswell 92. Y Dref Wen – Tecwyn Ifan 93. Y sãn – Bob Delyn a’r Ebillion 94. Y teimlad - Datblygu 95. Yfory – Eirlys Parri 96. Yma o hyd – Dafydd Iwan ac Ar Log 97. Yma wyf inna i fod – Geraint Løvgreen 98. Ymlaen mae Canaan – Steve Eaves a Rhai Pobl 99. Ysbryd Solfa – Meic Stevens 100.Ysbryd y nos – Edward H. Dafis

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Clasuron Pop Cymraeg Mewn Cyfrol Yn llawn clasuron gan gyfansoddwyr fel Dafydd Iwan, Caryl Parry Jones a Geraint Jarman, mae’r gyfrol yn cynnwys caneuon fel ‘Y Cwm’, ‘Môr o Gariad’, ’Seithennyn’ a sawl ffefryn arall. Meinir Wyn Edwards o’r Lolfa gafodd y dasg o geisio dewis y 100 cân sy’n cael eu cynnwys yn y gyfrol, tasg a aeth â hi ar daith gerddorol. “Roedd dewis 100 o ganeuon pop yn anodd, nid oherwydd diffyg caneuon ond oherwydd bod gormod o ganeuon da ar gael. Roedd cael trawstoriad eang yn bwysig ac ro’n i’n bendant am i’r caneuon apelio at ystod eang o oedran a chynnwys amrywiaeth o ran arddull. Nid caneuon mewn arddull ‘pop’ ydyn nhw i gyd - e.e. mae i ‘Colli Iaith’ a ‘Cân y Siarc’ naws fwy gwerinol, ac mae rhai o ganeuon Jarman mewn arddull reggae - ond gobeithio bod rhywbeth yma i bawb. Dwi’n siŵr na fydd pob cân at ddant pob un, a fi sydd ar fai os nad yw eich hoff gân chi yn y casgliad!” meddai Meinir. Mae’r gyfrol yn cynnwys clasuron fel ‘Yma o Hyd’, ‘Chwarae’n troi’n Chwerw’, ‘Lleucu Llwyd’, ‘Harbwr Diogel’; caneuon o’r gorffennol sydd wedi parhau’n boblogaidd hyd heddiw fel ‘Cân Walter’, ‘Ysbryd y Nos’; a chaneuon a fydd yn siŵr o fod yn boblogaidd am ddegawdau i ddod fel ‘Trôns dy dad’, ‘Tŷ ar y Mynydd’, ‘Seithennyn’ a ‘Lisa, Magic a Porva’. Mae alawon syml a chordiau gitâr yn cyd-fynd â phob cân er mwyn hwyluso’r dasg o’u chwarae. Llyfr perffaith felly i rai sy’n dysgu chwarae’r gitâr, i fysgwyr neu unrhyw un sydd wrth eu bodd â cherddoriaeth a chaneuon Cymreig. A hithau hoff iawn o gerddoriaeth, roedd creu’r gyfrol hon yn gyfuniad o waith a phleser i Meinir. “Yn bersonol, dwi wedi ailddarganfod rhai caneuon, fel ‘Yma wyf inna i fod’, ac roedd yn rhaid i fi ddewis caneuon gan fy hoff fand erioed, Maffia Mr Huws! Ond, rhaid i fi gyfadde’ fod ’na rai o’m ffefrynnau i yma. Caryl Parry Jones yw un o fy hoff gyfansoddwyr a dwi wrth fy modd ei bod hi’n dod i ganu yn lansiad y gyfrol nos Wener, 3ydd o Ragfyr, ym Mhlas Antaron, Aberystwyth, ac roedd rhaid i fi gynnwys ‘Mor Dawel’ yn y casgliad – dyna un o’r caneuon gorau erioed, mewn unrhyw iaith, yn fy marn i. Pwrpas y gyfrol yw i’r darllenydd gael pleser wrth chwarae a chanu’r caneuon ar unrhyw adeg a dwi’n gobeithio ’mod i wedi llwyddo yn y bwriad hwnnw,” meddai. Caneuon dau fand poblogaidd sydd wedi eu cynnwys yn y gyfrol yw’r Sibrydion a Big Leaves. Meddai Meilyr Gwynedd aelod o’r ddau fand: “Ma’r gyfrol yma’n syniad da iawn. Dwi’n cofio faint o ddefnydd ges i o lyfrau tebyg pan o’n ni’n ifanc. Mi oedd ganddon ni gopi o lyfr Dewi Pws yn tŷ ni ers talwm yn llawn o’i ganeuon o, ac mi oedden ni wastad yn dysgu o’r llyfrau yna - mi oedd o’n lot o hwyl o’i gymharu â llyfrau eraill fel ‘Tune of the day’ ac ati! Mi fydda' cael llyfr fel ‘ma hefo cymaint o amrywiaeth caneuon wedi bod yn werthfawr i mi pan o’n ni’n dechra chwara gitâr. Dwi’n chuffed iawn fod rhai o’n caneuon ni wedi eu cynnwys yn y gyfrol ac ella y bydd yna blant ifanc yn tyfu fyny yn dysgu un neu ddau o’n caneuon ni a chaneuon eraill Cymraeg da sydd wedi eu sgrifennu dros y degawdau diwethaf.” Meddai cyflwynydd BBC Radio Cymru, Richard Rees yn ei ragair i’r gyfrol; “O’r diwedd, dyma gofnod o rai o’r caneuon mwyaf adnabyddus a phoblogaidd yn y byd roc a phop Cymraeg. Mae’r llyfr hwn yn gaffaeliad mawr i’r perfformwyr roc rhwystredig yn ein plith, sy’n straffaglu i ddyfalu pa gordiau i’w chwarae drwy wrando ar ganeuon ar CD neu radio! Rwy’n dweud yn aml bod caneuon fel dyddiadur. Wrth glywed y llinell gyntaf mae rhywun yn cofio am ddigwyddiad, lleoliad neu gariad cyntaf. Dyma gyfle felly i chi ymgolli yn y dyddiadur hwnnw, a mwynhau’r atgofion sy’n deillio o’r detholiad yma o gant o ganeuon pop.”

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

The best of rock and pop ‘Wales the land of song’ or so the saying goes. Now with publishers Lolfa’s latest book 100 o Ganeuon Pop (100 Pop Songs) we’ll all be singing. 100 of Wales’ most popular songs along with the melodies, words and guitar cords are included in this perfect gift for any budding musician. With classic songs from composers such as Dafydd Iwan, Caryl Parry Jones and Geraint Jarman, songs like ‘Y Cwm’, ‘Môr o Gariad’, ’Seithennyn’ and many more are included. Meinir Wyn Edwards from Lolfa was handed the task of choosing which 100 songs to include in the book, a task that took her on an interesting musical journey. “Choosing 100 pop songs for the book was difficult, not because there was a shortness of songs, quite the opposite, there were too many good ones. It was very important to get a wide cross-section of songs that appeal to all ages through a wide variety of styles. They are not all ‘pop’ songs, for example ‘Colli Iaith’ and ‘Cân y Siarc’ are quite folksy, and a couple of Jarman’s songs have a hint of reggae to them – so I hope there’s something here for everyone. I’m sure not every song will be to everyone’s taste, and I’m afraid it’s all my fault if your favourite song hasn’t been included,” said Meinir. Classic songs included are the likes of ‘Yma o Hyd’, ‘Chwarae’n troi’n Chwerw’, ‘Lleucu Llwyd’, ‘Harbwr Diogel’; along with popular old songs which are still favourites today like ‘Cân Walter’, ‘Ysbryd y Nos’; and songs that will surely be popular for years to come like ‘Trôns dy dad’, ‘Tŷ ar y Mynydd’, ‘Seithennyn’ and ‘Lisa, Magic a Porva’. Simple melodies and guitar chords accompany each song to make learning simpler. A perfect gift for someone who’s learning to play guitar, a busker or anyone who simply enjoys Welsh music and songs. A big fan of music herself, working on this book gave Meinir a chance to combine work and pleasure. “Personally I’ve rediscovered some songs such as ‘Yma wyf inna i fod’ and I also had to include songs from my favourite band of all time, Maffia Mr Huws! I also have to admit that a few of my favourites have been included. ‘Mor Dawel’ by Caryl Parry Jones, is, in my opinion, one of the best songs ever written, in any language in the collection. She is one of my favourite composers and I’m so glad that she’s coming to sing at the book launch. The aim of the book is for the reader to have pleasure playing the guitar and singing the songs and I hope that I’ve achieved that,” she said. Songs from popular bands Sibrydion and Big Leaves are included in the book; Meilyr Gwynedd has been a member of both bands and is happy that his songs appear in the book. “This book is a great idea. I remember how much I used similar books when I was young. We had a book at home of songs by Dewi Pws and we’d always learn a lot from them – it was much more interesting than books like ‘Tune of the Day’! Having a good book like this with such a variety of songs would have been great when I started playing the guitar. I’m very chuffed that a few of our songs have been included in the collection and maybe there’ll be young children growing up learning one or two of our songs and other popular Welsh songs written over the last few decades.” BBC Radio Cymru presenter Richard Rees notes in his introduction to the book; “At last there is a record of some of the most well-known and popular Welsh rock and pop songs. This book is a godsend to any frustrated rock performer in our midst that’s struggling to guess what the correct chords are by listening to the radio or a CD! I’ve always said that songs are like a diary. When you hear the first line to a song it takes you back to an event, place or first love. This is a chance for you to lose yourself in that diary and enjoy the memories as they come flooding back with every song.”

View full details