Almanac (Clawr Caled)
Original price
£14.99
-
Original price
£14.99
Original price
£14.99
£14.99
-
£14.99
Current price
£14.99
Llyfr anrheg hyfryd yn llawn lluniau gwreiddiol bendigedig gan yr artist Bethan Mai sy'n tywys y darllenydd trwy'r flwyddyn gan ddathlu pob mis am ei nodweddion unigryw. Cyfrol apelgar a Chymreig unigryw - dyma'r llyfr cyntaf o'i fath yn y Gymraeg. Dyma gofnod o flwyddyn i'w bori a'i fwynhau sy'n edrych ar ein bywydau trwy stori, gerdd, gân, rysáit, ffaith a llun.
The perfect present, this beautifully illustrated book is full of original pictures by the artist Bethan Mai and takes the reader through the year celebrating each month for its unique qualities. The first of its kind in Welsh, it is a book to be enjoyed as the Morgan family look at our lives through stories, poems, songs, recipes, facts and pictures.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Cyfrol wedi ei llunio gan y teulu Morgan, sy’n cynnwys yr artist, Bethan Mai. Mae Bethan Mai eisoes wedi darlunio nifer fawr o gyfrolau llwyddiannus ac mae ganddi dros 1,000 o ddilynwyr ar Instagram.
Gwybodaeth Bellach:
Mae’r Almanac hwn yn trafod traddodiadau ac arferion hen a newydd Cymru, a’r holl ddiwylliannau sy’n cyfoethogi ein gwlad, gan gynnig ffeithiau a syniadau fydd yn annog, yn pryfocio ac yn codi gwên.
Bydd yn gymorth i gofio am y pethau bychain sydd o bwys mawr wrth fordeithio ar hyd siwrnai blwyddyn ac yn ateb y galw cynyddol am ddeunydd yn ymwneud â llesiant, arafu yng nghanol prysurdeb bywyd, sylwi a gwrando ar natur.
Nid yw’r Almanac hwn yn benodol i flwyddyn, felly fe fydd yn ganllaw difyr y gall darllenwyr droi ato dro ar ôl tro. Bydd lle yn y llyfr i ddarllenydd gadw nodiadau ei hun, yn ogystal â chael ei ddifyru a’i addysgu.
Llyfr perffaith ar gyfer dechrau blwyddyn, bydd yn apelio at Gymry o bob oed, rhai sy’n byw yng Nghymru a thu hwnt. Fe fyddai’n anrheg hyfryd i Gymro oddi cartref.
SKU 781800997660