{"product_id":"ysgrifau-beirniadol-xxxi-9781904554172","title":"Ysgrifau Beirniadol XXXI","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eY gyfrol gyntaf o Ysgrifau Beirniadol dan olygyddiaeth Tudur Hallam ac Angharad Price. Mae hon, fel ei rhagflaenwyr, yn cynnwys amrywiaeth o erthyglau beirniadol sydd yn cynnig golwg newydd a ffres ar lenyddiaeth a diwylliant Cymru a thu hwnt.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThe latest volume in a scholarly series, comprising discussion on diverse topics relating to Welsh literature.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781904554172\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781904554172\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eYsgrifau Beirniadol XXXI\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGee, Gwasg\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£15.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£15.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2013-02-18\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Gee\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eEditor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHallam, Tudur; Price, Angharad\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e224 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e140 × 215 mm; depth 14 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies and Texts (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Astudiaethau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eCynnwys \/ Table of Contents\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eY Llythyr a’r Llyfr. Gohebiaeth George Sand a Gustave Flaubert, Kate Roberts a Saunders Lewis - Manon Mathias. Marwnad Owain ab Urien - Marged Haycock r\/hanfodoli - Tudur Hallam Trafferth Mewn Tafarn a’r gofod hybrid - Angharad Naylor Dic yr Hendre, Y Bardd Llawryfog a Saunders - Peredur I. Lynch Cyfieithu Daniel Owen: Gweithred Genedlaetholgar - Adam Pearce Ailymweld â Theatr yr Absẃrd - Hannah Sams Holi’r Athro M. Wynn Thomas - M. Wynn Thomas a Tudur Hallam\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfranwyr: Tudur Hallam: Athro'r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Ysgogwyd yr ysgrif gan gyfres o seminarau a draddodwyd i ddosbarth llenyddol yr Adran Addysg Barhaus i Oedolion yn Sgeti, Abertawe. Marged Haycock: Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Peredur Lynch: Athro yn y Gymraeg a Phennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Manon Mathias: Darlithydd Ffrangeg ym Mhrifysgol Bangor. Y nofel Ffrangeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw maes ei harbenigedd. Angharad Naylor: Darlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'r ysgrif yn datblygu deunydd ei thraethawd PhD ar waith Dafydd ap Gwilym. Adam Pearce: Mae wrthi'n cwblhau traethawd PhD ar gyfieithiadau o waith Daniel Owen. Ef yw cyfieithydd y fersiwn Saesneg cyntaf o Straeon y Pentan. Hannah Sams: Myfyrwraig PhD (dan nawdd yr AHRC) yn Adran y Gymraeg, Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Deillia'r ysgrif yn rhannol o'i thraethawd MA ymchwil ar waith Gwenlyn Parry a Theatr yr Absẃrd. M. Wynn Thomas: Athro yn yr Adran Saesneg a deiliad Cadair Emyr Humphreys ym Mhrifysgol Abertawe.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eYmhlith pynciau’r gyfrol hon y mae’r canlynol: ● cymharu llythyrau Saunders Lewis a Kate Roberts â gohebiaeth George Sand a Gustave Flaubert ● cyflwyno ‘Marwnad Owain ab Urien’ i ddisgyblion chweched dosbarth ● trafod y syniad o ‘hanfod’ mewn llenyddiaeth Gymraeg gan roi sylw penodol i ddatblygiad tri bardd cyfoes ● archwilio’r ‘gofod hybrid’ yn un o gerddi Dafydd ap Gwilym ● gosod Dic Jones mewn perthynas â swydd y poet laureate yn Saesneg ● edrych ar rôl genedlaetholgar y cyfieithiadau Saesneg o waith Daniel Owen ● ail-asesu’r syniad o Theatr yr Absẃrd Mae’r cyfranwyr yn gyfuniad o enwau newydd ac enwau beirniaid llenyddol sefydledig mewn sawl disgyblaeth wahanol, sef Manon Mathias, Marged Haycock, Tudur Hallam, Angharad Naylor, Peredur Lynch, Adam Pearce, Hannah Sams. Cyflwynir y rhifyn hwn i'r Athro M Wynn Thomas, ac mae cyfweliad dadlennol rhyngddo ac un o’r golygyddion yn cloi’r gyfrol.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821045748086,"sku":"9781904554172","price":15.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781904554172_45381dd2-e5b6-4a69-90c5-f9097bd9a8da.jpg?v=1790363249","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/ysgrifau-beirniadol-xxxi-9781904554172","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}