{"product_id":"ysbrydion-9781911584520","title":"Ysbrydion","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eProfiadau diweddar y seicig Elwyn Edwards sydd â'r gallu i gysyllt u ag eneidiau ysbrydol.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThe recent experiences of the psychic Elwyn Edwards who has the gi ft of connecting with spiritual souls.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781911584520\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781911584520\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eYsbrydion\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eEdwards, Elwyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2021-10-22\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyhoeddiadau Barddas\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e152 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e138 × 210 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Straeon Gwir (yn Gymraeg) | EN: True Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Elwyn Edwards yn byw yn y Bala a hon yw ei ail gyfrol o ysgrifau sy'n adrodd ei hanes yn cysylltu gyda'r meirw.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eHyd yn gymharol ddiweddar, amheuwr oeddwn i parthed bodolaeth ysbrydion. Teimlwn fel y teimlai T. H. Parry-Williams am fodolaeth Tylwyth Teg. Medrwn haeru’n hyderus, ‘Dw i ddim yn credu mewn ysbrydion’. Yna, a minnau ar wyliau ar un o ynysoedd bach Gwlad Groeg digwyddodd rhywbeth anesboniadwy. A bellach gallaf ychwanegu, ‘Ond maen nhw’n bod’. Yn wahanol i Elwyn Edwards dydw i ddim yn ysbrydegydd nac yn gyfryngwr. Yn y gyfrol hynod o afaelgar hon cawn wybod am rai o’i niferus brofiadau ysbrydol. I’r rhelyw ohonom ni fyddai’r profiadau hyn yn gwneud unrhyw synnwy, ond o ddarllen tystiolaethau Elwyn mae gofyn i hyd yn oed y sinic mwyaf yn ein plith ailfeddwl. Gallaf, er enghraifft, dderbyn yn ddigwestiwn fod gennym ni, pan yn fabanod, alluoedd sy’n araf bylu wrth i ni heneiddio. Ac un o’r greddfau naturiol hynny, medd Elwyn, yw’r arferiad sydd gan blentyn bach o greu ffrindiau sy’n anweledig i bawb ond i’r plentyn ei hun. Ond o heneiddio, prin yw’r rheiny sy’n parhau i fod yn berchen ar y gynneddf hon, meddai. Mae’r gyfrol yn gyforiog o hanesion am ei wahanol brofiadau yn y byd ysbrydol, nifer ohonynt yng nghwmni eneidiau hoff cytûn. I mi, y mwyaf diddorol yw’r ysbrydion hynny y medrir rhoi iddynt enwau. Ac un profiad o’r fath sy’n sefyll allan yw cysylltiad Elwyn â Jane Williams. Hi sy’n ganolog i’r hen gân enwog honno, ‘Yr Eneth Gadd ei Gwrthod’. Ychwanegwch yr emynyddes Ann Griffiths a’r Cyrnol John Jones, Maesygarnedd, a ddienyddiwyd yn 1660. Caiff lleoliadau arbennig sylw hefyd, o swyddfeydd Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon i lannau Llyn Celyn. Ychwanegwch brofiadau’n ymwneud â rhagfynegi a dyna i chi destament o achosion a allai fod yn destun cyfres deledu gyfareddol. Mae’r ysbrydion a’r achosion sydd ynghlwm wrthynt yn rhychwantu’r canrifoedd. Cawn yr awdur yn ymweld â lleoliad Siambr Hywel Dda o’r 9fed ganrif ac yn dod wyneb yn wyneb ag ysbryd merch ifanc oedd yn wynebu’r crocbren. Yna, yn ein cyfnod ni cawn ddigwyddiad rhyfedd a brofodd Elwyn a’i briod wrth wylio telediad seremoni’r Coroni ym Mhrifwyl Caerdydd yn 2018. Un rheswm diddorol a gynigir gan Elwyn dros ymddangosiad ysbryd yw awydd yr ymwelydd i’n hysbysu ei fod yno, a’i fod am ddweud pam. Rhyw brociad o’r byd ysbrydol gan enaid aflonydd. A dyma gofio dywediad gan gymeriad yn The Satanic Verses slawer dydd: ‘Now I know what a ghost is. Unfinished business, that’s what.’ Ydw, o Syr Tomos i Salman Rushdie, rwy’ mewn cwmni da.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821132714358,"sku":"9781911584520","price":8.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781911584520_137ff1cf-7267-4f8a-a3a2-f75c278cf675.jpg?v=1790364640","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/ysbrydion-9781911584520","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}