{"product_id":"yn-ol-i-r-dref-wen-golwg-ar-ganu-heledd-a-chanu-llywarch-hen-golwg-ar-ganu-heledd-a-chanu-llywa-9781906396848","title":"Yn ôl i'r Dref Wen - Golwg ar Ganu Heledd a Chanu Llywarch Hen — Golwg ar Ganu Heledd a Chanu Llywarch Hen","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eGolwg newydd ar gefndir a dylanwad y canu englynol cynnar sydd wedi'i wreiddio yn yr Hen Bowys, a phwysigrwydd y canu hwn i genedl y Cymry.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA new insight into the background and influence of the early Welsh saga poetry, its roots in the Old Powys, and its importance to the Welsh nation.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781906396848\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781906396848\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eYn ôl i'r Dref Wen - Golwg ar Ganu Heledd a Chanu Llywarch Hen — Golwg ar Ganu Heledd a Chanu Llywarch Hen\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSub Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGolwg ar Ganu Heledd a Chanu Llywarch Hen\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDafydd, Myrddin ap\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£10.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£10.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2015-07-20\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyhoeddiadau Barddas\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e200 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e170 × 140 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies and Texts (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Astudiaethau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eCynnwys \/ Table of Contents\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eRhagymadrodd Heno, yn Neuadd Pantycelyn Gwerth halen Teyrnasoedd y Brythoniaid dan warchae Barddoniaeth a chyfarwyddyd Llywarch Hen a Gwên Cân Heledd Colli’r bobl, colli bro Yr hen wraig grwydrol Englynion o’r hen ganiad Wrth feddwl am fy Nghymru Y ‘Marauding Welsh’ a Morlas\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae’r Prifardd a’r golygydd Myrddin ap Dafydd yn awdur toreithiog i blant ac oedolion ac yn storïwr heb ei ail. Dyma’r gyfrol gyntaf iddo ei chyhoeddi gyda Chyhoeddiadau Barddas.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eYn y gyfrol ddifyr hon mae’r awdur yn cyflwyno englynion Canu Heledd a Chanu Llywarch Hen o'r 9fed ganrif i gynulleidfa newydd. Ceir trafodaeth ar gefndir hanesyddol a chyd-destun y cerddi o fewn y traddodiad barddol ac ar elfennau thematig yr englynion, sydd gyda'r canu cynnar mwyaf apelgar i gynulleidfa fodern: Canu Llywarch Hen - yr hen ryfelwr sy’n galaru am farwolaeth ei feibion ar faes y gad, ac sy’n myfyrio ar ei unigrwydd yn ei henaint, a Chanu Heledd, hithau, yr unig brif gymeriad o ferch ymhlith yr englynion cynnar hyn, sy’n galaru am golli teulu a cholli’i gwlad i’r Saeson. Mae'r gyfrol hefyd yn edrych ar leoliadau daearyddol sy’n gysylltiedig â’r cerddi yn yr Hen Bowys, ac yn nalgylch yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod, ac yn sôn am ddylanwad y cerddi ar ein diwylliant – ac yn benodol eu dylanwad ar feirdd megis Gerallt Lloyd Owen, ac artistiaid megis y canwr - Tecwyn Ifan. Cynhwysir yn y gyfrol destun gwreiddiol chwe cherdd y diweddarwyd eu horgraff a chyflwynir yn ogystal ddiweddariad o'r cerddi hynny gan Gwyn Thomas. ‘Beth oedd y rheswm dros greu’r englynion yng nghymeriad pendefigion hanesyddol ddau can mlynedd ar ôl eu cyfnod? Beth oedd yn digwydd yng Nghymru tua 850 oedd yn galw am ddod â stori teuluoedd cyfnod colledus 600-650 yn ôl i gof gwlad? Ac yna pam fod y cymeriadau hyn a’r englynion amdanynt wedi dychwelyd i fod â rhan amlwg yn niwylliant ein gwlad dros fil o flynyddoedd ar ôl iddynt gael eu cyfansoddi? … Mae cyfeiriadau at Lywarch a Heledd, Neuadd Cynddylan a’r Dref Wen yn britho llawer o gywyddau, englynion a chaneuon eraill yn ystod chwarter olaf yr 20fed ganrif. Beth oedd arwyddocâd eu creu yn y lle cyntaf a beth sydd mor berthnasol i ni heddiw mewn cymeriadau a delweddau o farddoniaeth mor hynafol?’ (Rhagymadrodd, Myrddin ap Dafydd)\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821057937782,"sku":"9781906396848","price":10.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781906396848.jpg?v=1790363336","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/yn-ol-i-r-dref-wen-golwg-ar-ganu-heledd-a-chanu-llywarch-hen-golwg-ar-ganu-heledd-a-chanu-llywa-9781906396848","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}